Ganwyd ym Mhenybryn, Bethel, Llandderfel, Meirionnydd, 29 Chwefror 1888, yn blentyn ieuengaf John a Winifred Lloyd, a bedyddiwyd ef gan Michael D. Jones. Fe'i haddysgwyd yn ysgol y Sarnau ac ar ôl cyfnod o ffermio gyda'i dad, priododd yn 1913 ag Annie Williams, Derwgoed, Llandderfel. Ffermio'r Derwgoed y bu wedyn nes ymddeol yn 1944. Yn y cyswllt hwn, yr oedd gyda'r cyntaf yng Nghymru i symbylu arbrofi gydag imwneiddio buchesi rhag TB (gweler Richard Phillips, Pob un â'i gwys (1970), 86).
Am y rhan fwyaf o'i oes bu'n arweinydd a beirniad mewn llu o eisteddfodau gogledd a chanolbarth Cymru; bu'n un o hyrwyddwyr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf Urdd Gobaith Cymru yng Nghorwen yn 1929. Rhwng 1938 ac 1950 ef oedd arweinydd ffraeth Parti Tai'rfelin (gweler Robert Roberts) a fu'n cynnal cyngherddau trwy Gymru a chyda chymdeithasau Cymraeg yn Lloegr. Cymerth ran yn fynych hefyd mewn rhaglenni darlledu a theledu.
Yr oedd ganddo ddawn y cyfarwyddiaid i adrodd stori ar lafar ac ar lyfr. Gwelir hyn yn ei gyfrol hunangofiant Y Pethe (1955), teitl a ddaeth wedyn i sefyll am y gwerthoedd a'r traddodiadau a gysylltir â'r bywyd Cymraeg ar ei orau. Yn 1966 cyhoeddwyd cyfrol o'i lythyrau, sef Diddordebau, wedi eu golygu gan ei nai, Trebor Lloyd Evans , a chyhoeddwyd casgliad o'i ysgrifau i'r Welsh Farm News a chyfnodolion eraill, Adlodd Llwyd o'r Bryn, gan ei ferch, Dwysan Rowlands, yn 1983. Ar ôl ymddeol, bu hefyd yn darlithio ar fywyd a diwylliant gwledig mewn llu o ganolfannau. Ceir disgrifiadau ohono gan Robin Williams yn Y tri Bob (1970) ac yn Portreadau'r Faner (d.d.). Bu farw 28 Rhagfyr 1961 ac fe'i claddwyd ym mynwent Cefnddwysarn. Yn 1963, sefydlwyd Gwobr Llwyd o'r Bryn am adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol er cof amdano.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.