Ganwyd ef Chwefror 5, 1909, yr ail o bedwar o blant, a mab hynaf, Robert a Winifred Evans, ar fferm Y Fedw, plwyf Llanycil ger y Bala, Meirionydd, ei dad yn flaenor a chodwr canu yng nghapel Moelygarnedd (M.C.) a'i fam yn hanu o deulu'r Llwydiaid, Pen-y-bryn, Llandderfel. Yr oedd 'Llwyd o'r Bryn' (Bob Lloyd) yn frawd iddi, a phwysodd Trebor yn fachgen lawer ar ei ewythr byrlymus am gyngor a chyfarwyddyd; ef a'i hyfforddodd fel adroddwr a meithrin ynddo hoffter o lenyddiaeth. Magwyd ei fam yn Eglwys Annibynnol Bethel, a phan fu farw ei gŵr yn 48 oed yn 1917, a'i mab hynaf yn fachgen wyth oed, dychwelodd ei fam at yr Annibynwyr yn y Bala. Bu gweddw'r hen weinidog, Mrs Talwyn Phillips, fel athrawes ei ddosbarth Ysgol Sul yno, a chyfarwyddyd y gweinidog newydd, y Parchedig William Morse, yn ddylanwadau mawr ar Trebor yn ei ieuenctid.
Fe'i haddysgwyd yn ysgol gynradd y Bala, a hen Ysgol Ramadeg Tŷ-tan-domen, cyn ei dderbyn yn 1927 yn fyfyriwr â'i fryd ar y Weinidogaeth Gristnogol i Goleg Bala-Bangor, a choleg y Brifysgol Bangor. Graddiodd yno mewn Athroniaeth yn 1930 a Diwinyddiaeth yn 1934. Fe'i hordeiniwyd yn weinidog yn Soar, Penygroes, Arfon ym mis Medi 1933, cyn symud i'r Tabernacl, Treforys ym mis Gorffennaf 1945 yn olynydd i'r Parchg J.J. Williams. Ym 1964, fe'i hetholwyd yn Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, swydd a ddaliodd hyd ei ymddeoliad ym 1975. Bu'n Llywydd Undeb yr Annibynwyr, a thraddododd ei anerchiad ym 1976 yn Nhreforys ar y testun "Cadw'r Ffydd".
Priododd ag Elizabeth Roberts o Flaenau Ffestiniog, athrawes wrth ei galwedigaeth, ym 1936. Cyn hynny, bu'r ddau yn gyd-fyfyrwyr ym Mangor. Ganwyd iddynt dri o blant - Elisabeth Lloyd ym 1938, Robert Lloyd ym 1941, a Dewi Pierce Lloyd ym 1947.
Daeth yn fuan yn adnabyddus fel pregethwr gafaelgar a grymus. Mwynhaodd weithio gyda phlant a phobl ifainc yn Nyffryn Nantlle, a phrofi'r diwylliant Cymraeg ar ei orau. Bu yr un mor weithgar gyda'r ifainc yng nghwm Tawe. Sefydlodd Aelwyd yr Urdd yn Nhreforys, a llafuriodd i sicrhau yr ysgol gynradd Gymraeg gyntaf yn Abertawe, yn Lonlas, Llansamlet. Yr oedd yn Eisteddfodwr pybyr, a bu'n gystaleuydd adrodd ac yn feirniad adrodd droeon yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd.
Enillodd radd M.A. Prifysgol Cymru ym 1949 am waith ar Dr Lewis Edwards, y Bala, a gyhoeddwyd yn llyfr, Lewis Edwards, ei Fywyd a'i Waith, ym 1967. Yr oedd yn awdur dwsin a mwy o lyfrau, yn cynnwys Damhegion y Deyrnas 1949, Pris ein Rhyddid 1962, Diddordebau Llwyd o'r Bryn 1966, Y Cathedral Anghydffurfiol Cymraeg 1972. Cyfieithodd ddetholiad o Kilvert's Diary ym 1973 dan y teitl Cymru Kilvert, a A Diary of Private Prayer John Baillie ym 1978 dan y teitl Bore a Hwyr: Gweddïau Personol.
Gŵr trefnus a phersonoliaeth gref oedd Trebor Lloyd Evans, arweinydd medrus wrth reddf, ac yn meddu'r ddawn i fod yn ddiddorol a sylweddol wrth lefaru ac ysgrifennu. Fel Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr rhoes ei stamp ar wasg newydd yr enwad, Tŷ John Penri, a gofalodd ei bod yn cyhoeddi amryw byd o lyfrau yn ymwneud â'r ffydd Gristnogol a'r mynegiant Anghydffurfiol ohoni. Llwyddodd i gymell awduron fel Tecwyn Lloyd, R. E. Jones, R. Tudur Jones, Pennar Davies, Gwynfor Evans, Cassie Davies ac eraill i gyhoeddi drwy wasg Tŷ John Penri lyfrau a werthfawrogwyd yn fawr gan Gymry Cymraeg.
Bu farw Gorffennaf 13, 1979, yn Abertawe, a'i amlosgi yn Amlosgfa Treforys. Claddwyd ei lwch yn y fynwent gerllaw. Ar ei gofeb yn y Tabernacl, Treforys y mae cwpled ei gyfaill O. M. Lloyd:
"Dyn y Bregeth a'r Pethe
Yn gyson oedd, gwas y Ne'"
Dyddiad cyhoeddi: 2011-01-07
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.