Ganed Tecwyn Lloyd ar Hydref 22, 1914, a bu farw, yn sydyn, ymron i ddeunaw mlynedd a thrigain yn ddiweddarach, ar Awst 22, 1992. Ef oedd unig blentyn John a Laura Lloyd, Penybryn, Glanrafon, Corwen, yn yr hen Sir Feirionnydd. Yr oedd ardal Glanrafon, Llawrybetws, yn ardal Gymraeg a Cymreig yn ystod plentyndod Tecwyn Lloyd; yr oedd hyn yn ddylanwad pwysig iawn ar ei fywyd, ei waith, a'i gredoau yn ddiweddarach. Yr oedd ei dad, John Lloyd, yn frawd i Robert (Bob) Lloyd, neu Llwyd o'r Bryn a chefndryd iddo oedd y Parchg Trebor Lloyd Evans, Treforys, ac Aled Lloyd Davies. Haerai Tecwyn Lloyd iddo ddilyn ei ach yn ôl hyd at Ririd Flaidd.
Yn dilyn ei addysg gynradd yn Ysgol Gynradd Llawrybetws, lle y daeth dan ddylanwad pwysig, yn ôl ei dystiolaeth ei hun, y prifathro ar y pryd, Rhys Gruffydd, aeth ymlaen i Ysgol Tytandomen yn y Bala, neu'r Bala Boys' Grammar School fel y gelwid hi. Oddi yno, wedi llwyddo yn yr arholiad 'Higher' aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor a graddio yn y Gymraeg ym 1938, cyn dilyn cwrs i'w gymhwyso ei hun yn athro plant. Ond ni fu'n athro ar blant o gwbl ar ôl y misoedd cyntaf wedi graddio, pan fu'n athro llanw yn y Bala, yn Llanuwchllyn, ac yn ei ysgol gynradd ei hun, yng Nglanrafon, rhwng gadael yr ysgol ramadeg yn y Bala a mynd i'r coleg ym Mangor.
Ym myd addysg y treuliodd Tecwyn Lloyd ei fywyd gweithiol, ond addysg oedolion yn hytrach nag addysg plant a myfyrwyr coleg. Ei swydd gyntaf oedd fel tiwtor WEA (Mudiad Addysg y Gweithwyr) yn ardal Uwchaled, rhwng Betws-y-coed a Chorwen. Cynhaliodd nifer o ddosbarthiadau nos yn y gwahanol bentrefi yn yr ardal, gan gynnwys dosbarthiadau yn ei hen ysgol, Ysgol Llawrybetws. Darlithiai ar amryfal bynciau, er mai ei brif faes oedd Llenyddiaeth Cymru. Yn ôl y rhai a fynychai ei ddosbarthiadau, crwydrai'r gwersi i bob cyfeiriad, a rhoddid sylw cyson i 'Faterion y Dydd'. (Yr oedd hyn yn ystod y flwyddyn arweiniodd i'r Ail Ryfel Byd, 1939-1945, a blynyddoedd cynnar y rhyfel hwnnw.) Yn ogystal â thrafod llenyddiaeth o bob math, a materion eraill, denai Tecwyn Lloyd ei fyfyrwyr i geisio cyfansoddi rhywbeth eu hunain, ac yn ystod y blynyddoedd hyn, cyhoeddwyd cylchgrawn, Llafar Gwlad, o waith y myfyrwyr. Cyd-diwtor iddo yn Uwchaled yn y cyfnod dan sylw oedd Islwyn Pritchard, a threfnodd y ddau nifer o deithiau i gerdded mynyddoedd yr Alban yn ystod misoedd yr haf, i aelodau'r dosbarthiadau ac eraill o'r ardal.
Yn wleidyddol, yr oedd Tecwyn Lloyd yn sosialydd ac yn genedlaetholwr. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, bu ef a nifer o gyfeillion yn ystyried yn ddwys iawn berthynas y Blaid Genedlaethol, gymharol ieuanc, â'r mudiad sosialaidd. Gan nad oedd cymodi rhwng y Blaid a sosialaeth yn y dyddiau hynny, sefydlwyd y mudiad Gwerin ym Mangor, a thyfodd i golegau eraill y Brifysgol, yn fwyaf arbennig, Abertawe. Edwinodd y Mudiad wedi i'r sylfaenwyr adael y coleg a darfu o'r tir pan gychwynnodd yr Ail Ryfel Byd. Ond ni chollodd Tecwyn Lloyd ei sosialaeth, ac ar un cyfnod ym 1939 i 1941 bu'n aelod o Blaid Gomiwnyddol Prydain, gan wisgo bathodyn y blaid honno pan alwyd ef am gyfweliad i asesu ei addasrwydd ar gyfer gwasanaeth milwrol yn ystod y rhyfel! Ni fu Tecwyn yn aelod o'r lluoedd arfog.
Wedi chwe blynedd hapus iawn yn Uwchaled, penderfynodd Tecwyn Lloyd droi ei olygon at faes addysg gwahanol, sef Coleg Harlech, 'Coleg yr ail-gyfle', coleg i gymhwyso oedolion ar gyfer addysg bellach. Penodwyd ef yn Diwtor yn y Gymraeg a Llyfrgellydd y Coleg. Yma eto yr oedd yn gymeradwy iawn, yn arddangos talentau ei fyfyrwyr hyd yr eithaf ac yn ymuno â hwy mewn gwahanol weithgareddau. Cyd-ddarlithwyr iddo oedd Meredydd Evans a Gwyn Erfyl. Yn ystod ei amser yng Ngholeg Harlech, treuliodd gyfnod Sabothol yn astudio yn Rhufain; yn ystod y cyfnod hwn, Hydref 1951 hyd Fehefin 1952, ymchwiliodd i hanes y Cymry hynny oedd yn Wrthddiwygwyr Pabyddol, pobl fel Morus Clynnog a Gruffudd Robert, Milan. Yn ystod ei arhosiad yn yr Eidal, cyfarfu â'r Pab Pius XII, a bu ar ymweliad â sefydliadau addysgol yn Sienna, Fflorens, Milan, Padua, Fenis ac, wrth gwrs, Rufain ei hun. Dysgodd yr ymweliad hwn wers bwysig iawn iddo, sef fod yn rhaid, os am fyw a mwynhau'r Eidal, ddysgu iaith y wlad, sef Eidaleg. Cymhwysodd y wers hon i'w athroniaeth ef am Gymru a'i pharhad.
Ond erbyn diwedd 1955, sef tymor academaidd y Nadolig, sylweddolodd Tecwyn Lloyd nad oedd yr awyrgylch yng Ngholeg Harlech at ei ddant: blinasai ar yr holl ddadlau gwleidyddol yn y sefydliad a dadrithiwyd ef yn y lle fel sefydliad. Felly, symudodd allan o fyd addysg oedolion a mynd i fyd hollol wahanol, sef byd newyddiadura a chyhoeddi. Ymunodd â'r cwmni cyhoeddi yn Wrecsam, Hughes a'i Fab.Yno, ef oedd dirprwy olygydd Y Cymro (y golygydd oedd ei gyfaill o ddyddiau coleg, John Roberts Williams), a Rheolwr Golygyddol y cwmni cyhoeddi. Cyfrannodd Tecwyn Lloyd gryn dipyn o erthyglau a phytiau i'r Cymro yn ystod ei gyfnod yn y swydd, ond fod y cyfan â blas mwy cylchgronol na newyddiadurol arnynt. Yr oedd erbyn hyn yn briod â Frances Killen o gyffiniau Wolverhamton: merch o dras Seisnig iawn. Ond hi dyfodd yn Gymraes ac nid Tecwyn a ddatblygodd yn Sais.
Yn dilyn pum mlynedd yn 'newyddiadura', teimlai ei bod yn amser dychwelyd i faes addysg oedolion. Cafodd swydd yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Symudodd i fyw o ardal Wrecsam i ardal Caerfyrddin ym 1960. Yr oedd yn gyfrifol am gyflwyno cyrsiau ar hanes a llenyddiaeth Cymru i boblogaethau de Aberteifi, gogledd Sir Benfro - y rhan Gymraeg - a gorllewin sir Gaerfyrddin. Yn ystod yr amser hwn, fel Tiwtor yn yr Adran Allanol yn Aberystwyth, sefydlwyd Yr Academi Gymreig. Cychwynnwyd y fenter o gyhoeddi cylchgrawn, Taliesin, ac ymhen blwyddyn neu ddwy o'r sefydlu, penodwyd Tecwyn Lloyd yn Olygydd, swydd y bu ynddi am chwarter canrif. Hwn hefyd oedd y cyfnod pan ddechreuodd gyhoeddi ei gyfrolau o ysgrifau, beirniadaeth lenyddol, ysgrifennu creadigol, yn bortreadau a straeon byrion. Gweler y rhestr isod. Yr oedd Tecwyn Lloyd yn ysgrifwr ffraeth, llawn hiwmor ac yn gryn dynnwr coes. 'Creodd' awdur Cymraeg (E. H. Francis Thomas) ac iddo gefndir anarferol o ryfeddol a oedd yn gyfrifol am ddau gasgliad o straeon byrion paranormaidd a bardd ('Miss J. M. Davies') yr oedd ei gwaith yn gyfle iddo i ddychanu rhai tueddiadau a ystyriai'n ffuantus mewn llenyddiaeth ddiweddar. Tra oedd yng Nghaerfyrddin hefyd y sylweddolodd fod y Methodistiaid Calfinaidd am werthu Llyfrgell Coleg y Bala, llyfrgell bwysig iawn yn hanes Cymru yn ôl ei farn ef. Ymgyrchodd yn erbyn hyn, ond yn aflwyddiannus.
Fel y nesâi oed ymddeol, 65, penderfynodd y byddai yn symud yn ôl i'w gynefin a phrynodd hen ficerdy eglwys Maerdy ger Corwen, a'i addasu'n gartref iddo ef, Frances ei wraig, a'i lyfrgell o rai miloedd o gyfrolau. Ond yn anffodus, ni chafodd Frances fyw i ymfudo i gynefin Tecwyn; bu farw ar Chwefror 13, 1980. Symudodd Tecwyn Lloyd i Uwchaled yn ddiweddarach, gan deithio'n ôl i Gaerfyrddin, ac aros dros nos yn ei gyn-gartref, Garth Martin, am beth amser. Ymhen ychydig eto, penderfynodd roi'r gorau i deithio o Faerdy i Gaerfyrddin yn rheolaidd. Felly, ymddiswyddodd o'r swydd yn Aberystwyth, ac ymsefydlu'n derfynol ym Maerdy. Yn ystod y cyfnod cynnar hwn yn ôl ym Maerdy, cyfarfu â Gwyneth Owen, o Bowys. Priodwyd y ddau ym mis Gorffennaf 1984.
Cynnal dosbarthiadau yn ardal dwyrain Meirionnydd ac Uwchaled fu ei hanes am y blynyddoedd wedi symud i'r gogledd. Hefyd bu'n ymchwilio i hanes ei ardal enedigol, sef Llawrybetws, gan olrhain hanes y gwahanol deuluoedd fu'n trigo yn yr ardal, a'r newidiadau a fu yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Cyfnod o anrhydeddau oedd hwn hefyd. Er iddo fod yn aelod o Orsedd Eisteddfod Daleithiol Powys er tua 1944, cafodd anrhydedd bellach ym 1988 pan etholwyd ef yn Dderwydd Gweinyddol, ac ef oedd yn cyhoeddi Eisteddfod Powys ym Machynlleth ym mis Hydref 1988. Anrhydeddwyd ef gan Brifysgol Cymru ym 1990 gyda Doethuriaeth mewn Llenyddiaeth a Chymrodoriaeth Anrhydeddus yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Ddeng mlynedd ar hugain ynghynt, ym 1961, derbyniodd radd MA ym Mhrifysgol Lerpwl, am draethawd ar y Llenorion Eingl-Gymreig. Hefyd ym 1991, etholwyd ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hynafiaethwyr (FSA, Society of Antiquarians).
Bu farw'n sydyn, wedi gwaeledd byr, yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, ar 22 Awst, 1992. Claddwyd ef ym mynwent yr Eglwys, Glanrafon, ar 27 Awst, 1992.
Prif gyhoeddiadau: Trafod Llenyddiaeth, 1943, WEA; Rhyw Ystyr Hud, 1944, ('E. H. Francis Thomas'); Erthyglau Beirniadol, 1946; Trwy Diroedd y Dwyrain, (cyfieithiad o waith H. I. Bell) 1946; Ysgol Llawrybetws, 1908-1958 (gol.), 1958; Ned Sera Jôs, (cyhoeddiad preifat) R. Williams Parry (Pamffledi Llenyddol Cyfadran Addysg Aberystwyth), 1962; Tannau'r Cawn (gol.) (cerddi William Jones), 1965; Y Cythreuliaid (trosiad o The Devils John Whiting) 1965; Safle'r Gerbydres ac Ysgrifau Eraill, 1970; Hyd Eithaf y Ddaear a Storïau Eraill ('E. H. Francis Thomas', 1972; Saunders Lewis (cydolygydd, gyda Gwilym Rees Hughes), 1975; Y Wers Rydd a'i Hamserau (Darlith Lenyddol Eisteddfod Caernarfon), 1979; Gysfenu i'r Wasg Gynt, (Darlith Radio Flynyddol BBC Cymru), 1980; Bore Da Lloyd, a Chofnodion Eraill, 1980; Grawnsypiau i'w Macsu, neu Bwysïau gan Hen Bisyn (Gwaith Barddonol Miss J. M. Davies, cyhoeddiad preifat); Cymysgadw, 1986; Drych o Genedl, 1987; Llên Cyni a Rhyfel a Thrafodion Eraill, 1987; Cofio Rhai Pethe … a Phethe Eraill, 1988; John Saunders Lewis - y gyfrol gyntaf, 1988; Ardal Llawrybetws 1989-90, (cyhoeddiad preifat - dau gopi). Hefyd, rhai cannoedd o lythyrau i'r wasg, beirniadaethau, darlithoedd, ac yn y blaen.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-04-15
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.