Ganwyd 2 Hydref 1879 yn Epworth, swydd Lincoln, yn fab i Charles Christopher Bell a Rachel (ganwyd Hughes). Yr oedd ei daid o ochr ei fam, John Hughes, yn hanu o Ruddlan, ac yn Gymro Cymraeg. Cafodd Bell ei addysg yn Ysgol Uwchradd Nottingham, ac yn 1897 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Oriel, Rhydychen, lle graddiodd yn y clasuron. Yna treuliodd flwyddyn ym Mhrifysgol Berlin a Phrifysgol Halle yn astudio hanes y cyfnod Helenistaidd. Yn 1903 penodwyd ef yn gynorthwywr yn adran y llawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig. Dyrchafwyd ef yn ddirprwy geidwad yn 1927, ac yn geidwad yn 1929, ac yn y swydd honno y bu nes iddo ymddeol yn 1944. Yn 1946 daeth i fyw i Aberystwyth, gan alw ei dy yn Bro Gynin, oherwydd ei barch at Ddafydd ap Gwilym.
Maes arbennig Bell fel ysgolhaig oedd papyroleg, a gwelwyd profion o hynny mewn erthyglau mor gynnar ag 1907. Yn y cyfnod hwn hefyd yr oedd yn cynorthwyo i lunio catalogau o'r defnyddiau a oedd yn yr Amgueddfa Brydeinig, ac erbyn y bedwaredd gyfrol (1917) a'r bumed (1924) ef ei hun oedd yn gyfrifol am y cyfan. Trwy hyn daeth yn awdurdod ar hanes yr Aifft yng nghanrifoedd cynnar y cyfnod Cristnogol, a chyhoeddodd lawer o erthyglau a llyfryddiaethau mewn cylchgronau dysgedig, yn arbennig y Jnl. of Egyptian Archaeology, a phenodau yn y Cambridge Ancient History. Yn 1935 penodwyd ef yn Ddarllenydd anrhydeddus mewn papyroleg ym Mhrifysgol Rhydychen, a daliodd y swydd hyd 1950. Erbyn hyn cydnabyddid ef yn ysgolhaig gwir fawr, ac yr oedd ei wybodaeth am bob math o ddogfennau - cyfreithiol, cymdeithasol neu lenyddol - yn helaeth iawn. Ef oedd llywydd yr International Association of Papyrologists o 1947 hyd 1955. Etholwyd ef yn aelod gohebol o amryw o gymdeithasau dysgedig ac academïau ar y cyfandir ac yn America. Derbyniodd raddau er anrhydedd gan Brifysgolion Cymru, Lerpwl, Michigan a Brussels. Etholwyd ef yn gymrawd o'r Academi Brydeinig yn 1932, ac ef oedd y llywydd o 1946 hyd 1950. Penodwyd ef yn O.B.E. yn 1920, yn C.B. yn 1936, ac yn farchog yn 1946.
Diau mai ymwybod â'i dras Cymreig, a hefyd diddordeb ei dad, a barodd i Bell ymddiddori yn yr iaith Gymraeg. Dechreuodd ei dysgu pan oedd yn chwech ar hugain oed. Ei gyfraniad cyntaf oedd gwaith ysgolheigaidd, Vita Sancti Tathei and Buched Seint y Katrin, sef testun Lladin Buchedd Tathan a chyfieithiad i'r Saesneg, a Buchedd Catrin yn Gymraeg, gyda rhagymadrodd. Cyhoeddwyd y gyfrol yn 1909 yn nghyfres Cymdeithas Llawysgrifau Bangor. Ond nid fel ysgolhaig y mynnai ef wasanaethu Cymru a'i llenyddiaeth. Dywedai bob amser nad oedd ef yn ysgolhaig Cymraeg, ac mai ei amcan oedd bod yn gyfrwng i egluro i Saeson ac i Gymry na wyddent mo'r iaith beth yw cynnwys ac ansawdd llenyddiaeth Gymraeg, ac yn fwyaf arbennig y farddoniaeth. Ei ymgais gyntaf oedd cyfrol o gyfieithiadau, Poems from the Welsh (1913), ei waith ef a'i dad, C.C. Bell. Gwaith y tad a'r mab oedd y gyfrol nesaf hefyd, sef Welsh Poems of the Twentieth Century in English Verse (1925). At y cyfieithiadau yn y gyfrol hon fe ychwanegwyd traethawd o 57 o dudalennau lle rhoir braslun o hanes barddoniaeth Gymraeg o'r Cynfeirdd hyd ugeiniau'r 20fed ganrif. Helaethodd Bell y traethawd hwn yn llyfr o 192 o dudalennau, a'i gyhoeddi o dan yr un teitl â'r traethawd, sef The Development of Welsh Poetry, yn 1936.
Yn y mesurau rhydd yr oedd bron y cyfan o'r cerddi a gyfieithwyd yn y ddwy gyfrol gyntaf, a hyd y gellid yr oedd y ddau gyfieithydd wedi glynu wrth batrymau mydryddol y cerddi gwreiddiol. Yn y gyfrol The Development of Welsh Poetry, yr oedd y rhan fwyaf o'r dyfyniadau enghreifftiol wedi eu trosi i ryddiaith Saesneg. Y cam nesaf oedd cyfieithu cerddi yn y mesurau caeth, a chaed Dafydd ap Gwilym: fifty poems fel cyfrol xlviii o'r Cymmrodor yn 1942. Y mae 26 o'r cyfieithiadau yn waith Bell, a 24 yn waith ei fab David. Y mydr a ddefnyddiodd y tad oedd llinellau iambig pedwar curiad yn odli'n gwpledi, gydag ychydig o amrywiaeth achlysurol yn yr acennu, a chyffyrddiadau o gyseinedd i awgrymu'r gynghanedd - patrwm caethach o lawer na dull cyfieithwyr diweddarach. Yr oedd ei arddull yn 'farddonol', ac yn fynych yn cynnwys geiriau a chystrawennau braidd yn hynafol, peth yr oedd ef yn ei gyfiawnhau am fod arddull y gwreiddiol yn hynafol. Y mae'r gyfrol yn cynnwys rhagymadrodd ar fywyd a gwaith Dafydd ap Gwilym.
Fel rhan o'i ymgyrch i wneud llenyddiaeth Gymraeg yn adnabyddus i bawb na wyddent yr iaith yr ystyriai Bell ei waith yn cyfieithu Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 ( T. Parry ). Ychwanegodd rai nodiadau eglurhaol ac atodiad o chwech ugain tudalen yn trafod llenyddiaeth yr ugeinfed ganrif. Cyhoeddwyd y cyfan o dan y teitl A History of Welsh Literature yn 1955.
Yn 1926 aeth Bell ar daith i'r Aifft i gasglu papyri dros yr Amgueddfa Brydeinig. Ysgrifennodd yr hanes, a chyfieithwyd ef i'r Gymraeg gan D. Tecwyn Lloyd - Trwy diroedd y dwyrain, dwy gyfrol, 1946. Ysgrifennodd hefyd ddau lyfr i blant - Dewi a'r blodau llo mawr (1928) a Calon y dywysoges (1929), cyfieithiadau gan Olwen Roberts, J. E. Jones. Yn 1954 cyhoeddodd The crisis of our time and other papers, yn cynnwys sylwadau ar y byd o'i gwmpas, cenedlaetholdeb Cymreig, yr Eglwys yng Nghymru a'r diwylliant Cymreig, a'i brofiad crefyddol ef ei hun wrth adael agnosticiaeth a derbyn y ffydd Gristnogol.
Yr oedd Bell yn ŵr mwyn iawn ei natur a bonheddig ei ymarweddiad, heb ymffrost yn agos ato er gwaethaf ei statws uchel fel ysgolhaig a'r anrhydeddau a ddaeth i'w ran. Yr oedd ei gariad at Gymru yn ddwfn a diffuant, ac un o'r pethau a roes fwyaf o foddhad iddo yn ei fywyd i gyd oedd derbyn medal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1946 a'i dymor fel llywydd y gymdeithas, 1947-53. Bu farw 22 Ionawr 1967.
Priododd Mabel Winifred Ayling yn 1911. Bu hi farw wythnos o'i flaen ef. Claddwyd y ddau ym mynwent Aberystwyth. Bu iddynt dri mab.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.