JONES, ROBERT EVAN (1869 - 1956), casglwr llyfrau a llawysgrifau

Enw: Robert Evan Jones
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1956
Priod: Sissie Jones (née Hughes)
Rhiant: Catherine Jones
Rhiant: John Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: casglwr llyfrau a llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Alwyn Rice Jones

Ganwyd 22 Mai 1869 yn un o saith plentyn John a Catherine Jones, Stryd Fawr, Penrhyndeudraeth, Meirionnydd. Siopwr (groser) oedd ei dad ac yn fuan wedi geni Robert Evan symudodd y teulu i fyw i Meirion House, Tanygrisiau, Blaenau Ffestiniog. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol y bechgyn, Tanygrisiau, ac yno hefyd yn ddiweddarach y treuliodd bum mlynedd fel disgybl-athro cyn ei ddyrchafu'n athro cynorthwyol. O ysgol Tanygrisiau symudodd i fod yn athro cynorthwyol yn ysgolion Glan-y-Pwll a Manod yn eu tro yn yr un ardal. Yn 1894 enillodd Ysgoloriaeth y Frenhines i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth. Bu'n agos iawn iddo ennill Ysgoloriaeth Cynddelw a dyfarnwyd iddo ysgoloriaeth arbennig ar bwys safon uchel ei waith mewn Cymraeg a hanes yn yr arholiadau. Yn y coleg astudiodd iaith a llenyddiaeth Gymraeg dan yr Athro Edward Anwyl ac yn ystod ei gyfnod yno bu'n weithgar fel cadeirydd y Gymdeithas Geltaidd ac ef hefyd oedd un o sefydlwyr yr eisteddfod Geltaidd. Yn 1898, ar ddiwedd ei gwrs yn y coleg, penodwyd ef yn brifathro ysgol Nantgwynant ac yn ddiweddarach ysgol Nantperis yn Arfon. Oddi yno yn 1910 symudodd i fod yn brifathro ysgol y cyngor, Tanygrisiau, ei ardal enedigol, lle y bu tan ei ymddeoliad yn 1932.

Yn ystod ei yrfa fel prifathro yn yr ardaloedd hyn bu'n hynod weithgar fel trefnydd ysgolion nos ar gyfer oedolion a bu ei ddylanwad ar y gymdeithas yn bell-gyrhaeddol yn y mannau hyn oherwydd ei ddiddordebau diwylliadol eang a'i ddoniau gweinyddol. Bu am gyfnod yn amlwg yng ngweithgareddau'r Blaid Ryddfrydol yn Sir Feirionnydd ac yr oedd Syr Henry Haydn Jones, yr aelod seneddol, yn gyfaill mynwesol iddo. Cyfaill arall er ei ddyddiau ar staff yr Herald yng Nghaernarfon oedd T. Gwynn Jones a byddai'r ddau yn llythyru'n rheolaidd â'i gilydd. Yn 1921 bu'n ddiwyd iawn, gyda chymorth eraill yn Sir Feirionnydd, yn sefydlu cronfa goffa Syr O. M. Edwards ac ef hefyd oedd ysgrifennydd y gronfa.

Ond daeth i amlygrwydd fel casglwr llyfrau a llawysgrifau. Tybir fod ganddo gasgliad o ymhell dros gan mil o gyfrolau yn ei lyfrgell bersonol. Yn fwyaf arbennig casglodd yn ystod ei oes lawysgrifau a dogfennau prin o'r eiddo Charles Ashton a rhai o'r eiddo Twm o'r Nant. Casgliad diddorol arall oedd llythyrau Peter Williams at ei fab Eliezer Williams dyddiedig o 1789 ymlaen. Bu ei ddiddordeb a'i ddawn fel casglwr llyfrau a llawysgrifau o gynorthwy mawr i lawer i fyfyriwr ac ymchwilydd yn enwedig mewn astudiaethau Celtaidd. Cyfrannodd yn helaeth hefyd ar lyfryddiaeth ac astudiaethau Cymraeg i bapurau newydd a chylchgronau.

Priododd, 12 Awst 1920, yn eglwys Maentwrog, â Sissie Hughes, merch Richard ac Elizabeth Hughes, Llys Twrog, Maentwrog, a bu iddynt un ferch. Bu farw 27 Mawrth 1956 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Maentwrog.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.