WILLIAMS, JOHN JAMES (1869 - 1954), gweinidog (A) a bardd

Enw: John James Williams
Dyddiad geni: 1869
Dyddiad marw: 1954
Priod: Abigail Williams (née Jenkins)
Priod: Claudia Williams (née Bevan)
Rhiant: Elizabeth Williams
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (A) a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd 8 Hydref 1869 yn y Taigwynion ger Tal-y-bont, Ceredigion, yn fab hynaf o 12 plentyn William ac Elizabeth Williams. Yr oedd y tad yn aelod yn eglwys Bethel (A), Tal-y-bont, a'r fam yn eglwys Pen-y-garn (MC). Mynychai ysgol Sul Pwll-glas a John Oliver, ei athro, a nododd iddo'r amser a'r lle i glywed ‘clychau Cantre'r Gwaelod’. Yn ysgol Rhydypennau y cafodd ei addysg elfennol. Oherwydd diffyg gwaith yn ardal y mwynfeydd plwm bu raid i'w dad droi tua'r meysydd glo ac yn Aberpennar y bu am fisoedd yn 1879-80. Yn 1882 aeth y teulu cyfan i fyw ym Mhenrhiwceibr ac ymaelodi yng nghapel Carmel. Symudasant drachefn i Ynys-y-bŵl, ac yno yn y Tabernacl y dechreuodd y mab bregethu. Bu'n gweithio mewn pwll glo cyn mynd i academi Pontypridd o dan E. Dunmore Edwards a'i dderbyn i'r Coleg Coffa yn Aberhonddu yn 1891 gan dreulio'r flwyddyn gyntaf yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd lle y daeth yn uchaf yn ei ddosbarth mewn llenyddiaeth ac iaith Gymraeg. Ord. ef yn eglwys Bethania, Abercynon, 22 Gorffennaf 1895, gan symud i eglwys Moreia, Rhymni yn 1897. Derbyniodd alwad i eglwys Seilo, Pentre, Rhondda yn 1903 i ddilyn Lewis Probert (Bywg., 754). Yn 1915 dechreuodd ar gyfnod maith fel gweinidog y Tabernacl, Treforys, lle yr arhosodd nes ymddeol ym mis Gorffennaf 1944. Yr oedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd ac etholwyd ef yn gadeirydd Undeb yr Annibynwyr yn 1935.

Dechreuodd gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn gynnar yn y ganrif ac enillodd y gadair ddwywaith, yn 1906 yng Nghaernarfon am awdl ‘Y Lloer’ (a ddaeth yn boblogaidd ar unwaith gyda'r rhediad esmwyth i'w llinellau), ac yn 1908 yn Llangollen am awdl ‘Ceiriog’. Bu'n beirniadu'r awdl am tua chwarter canrif ac ef oedd yr Archdderwydd dros gyfnod 1936-39. Ysgrifennodd ddwy ddrama gerdd ysgrythurol, Ruth (1909) ac Esther (1911) a chyfansoddwyd y miwsig iddynt gan James Davies. Cyhoeddodd stori ‘Cadair Tregaron’ (1929), a gynhwyswyd yn Straeon y Gilfach Ddu (1931), yn nhafodiaith Morgannwg yn portreadu bywyd y glowyr yno. Ei gyfrol olaf oedd Y lloer a cherddi eraill (1936). Daeth rhai o'i gerddi a roddwyd ar gân yn adnabyddus iawn, megis ‘Clychau cantre'r gwaelod’ a ‘Canu'r plant’.

Cyfansoddodd nifer o emynau ac yr oedd yn un o olygyddion yr emynau i'r Caniedydd Cynulleidfaol newydd (1921), a Caniedydd newydd yr Ysgol Sul (1930), a bu'n cynorthwyo paratoi'r Caniedydd (1960). Ef a olygodd gyfrol goffa Hedd Wyn, Cerddi'r Bugail (1918) a bu'n olygydd ‘Congl y beirdd’ yn Y Tyst, 1924-37, a'r Dysgedydd, 1933-36. Derbyniodd radd M.A. Prifysgol Cymru, er anrhydedd, yn 1930.

Priododd (1), 1899, Claudia Bevan o Aberpennar. Bu hi farw ar enedigaeth mab a fu farw ymhen blwyddyn a phum mis. Priododd (2), 1903, Abigail Jenkins, Pontlotyn, chwaer i fam Syr Daniel Thomas Davies. Bu hi f. 24 Mehefin 1936 tra oedd ef ym Mangor yn trosglwyddo cadeiryddiaeth yr Undeb i John Dyfnallt Owen. Bu yntau f. 6 Mai 1954.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/