Ganwyd Cassie Davies ym Mlaencaron, ger Tregaron, ar 20 Mawrth 1898. Cathrin Jane oedd ei henw bedydd, ond fel Cassie y câi ei hadnabod ar hyd ei hoes. Yr wythfed o ddeg o blant, chwech o fechgyn a phedair merch, fe'i magwyd ar fferm fynyddig Cae Tudur, lle ymestynnai hanes ei theulu mor bell yn ôl â'r ail ganrif ar bymtheg. Ei thad, John, oedd y codwr canu yng nghapel Blaencaron ac roedd ganddo lais tenor soniarus, yn ogystal â thymer wyllt. Roedd Mari, ei mam, yn gymeriad mwynach ac yn storïwr a rhigymwr galluog. Aelwyd lawn hiwmor a difyrrwch oedd Cae Tudur o'r cychwyn, a'r teulu ei hun oedd yn creu'r diddanwch i gyd, ffaith a bwysleisir yn hunangofiant Cassie, Hwb i'r Galon. Ffurfiodd bedwarawd gyda'i brodyr a chwiorydd, o dan gyfarwyddyd gofalus eu tad, a fu'n cystadlu'n rheolaidd ac yn llwyddiannus mewn eisteddfodau lleol. Dysgodd gyda'i mam adnodau a darnau gosod i'w hadrodd ar y Sul, a datblygodd ei chof aruthrol a'i doniau fel storïwr o oedran ifanc.
Aeth i ysgol Blaencaron yn dair oed. Dim ond ar y Sul y siaradai'r athrawes, Mrs Edwards, Gymraeg gyda'r plant. Cassie oedd y disgybl cyntaf o'r ysgol i ennill ysgoloriaeth i'r 'Cownti Sgwl' yn Nhregaron, ac aberthodd ei theulu dipyn i gefnogi ei doniau academaidd amlwg. Yn yr Ysgol Sir roedd yn un o blith nifer o dalentau nodedig, fel Ambrose Bebb a Kitchener Davies, a ddaeth o dan ddylanwad yr athro hanes carismatig S. M. Powell. Er mai Saesneg oedd iaith y mwyafrif o'r gwersi, credai Powell ym mhwysigrwydd dysgu peth o hanes a chwedlau'r fro i'r plant yn eu mamiaith. Bwriodd y Rhyfel Byd Cyntaf ei gysgod dros y teulu yn ystod ei chyfnod yn yr ysgol uwchradd: collodd un brawd a daeth un arall yn ôl â'i nerfau wedi chwalu'n anadferadwy.
Saesneg oedd pwnc ei gradd gyntaf yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu'n fyfyriwr yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel. Graddiodd yn ddidrafferth heb gael ei hysbrydoli gan y cwrs na'r dysgu, a phenderfynodd ddychwelyd i wneud gradd uwch yn y Gymraeg. Disgrifiodd y penderfyniad hwnnw fel trobwynt yn ei bywyd. Dyma'r cyfnod pan ddatblygodd y bywyd Cymreig yn gyflym yn y Coleg, gyda'r Gymdeithas Geltaidd yn ffynnu o dan ofal ysbrydoledig ei chyfaill Idwal Jones, Llambed. Bu Cassie ei hun yn rhan bwysig o ddatblygu difyrrwch yn y Gymraeg yn y Coleg trwy drefnu nosweithiau llawen a chyngherddau, a deffrowyd ei chenedlaetholdeb yn y broses. Roedd ymhlith y criw bychan yn ysgol haf gyntaf Plaid Genedlaethol Cymru ym Machynlleth yn 1926, a bu'n gyfrifol am drefnu'r adloniant yn y digwyddiadau ffurfiannol hynny am sawl blwyddyn. Menter a alwai am gryn ddewrder oedd cefnogi'r blaid newydd mewn ardal mor gryf ei Rhyddfrydiaeth â Cheredigion y 1920au. Ond gyda'i chadernid nodweddiadol bu'n driw i'r achos am weddill ei hoes.
Treuliodd flwyddyn o hyfforddiant yn yr Adran Addysg yn Aberystwyth wedi iddi gwblhau ei M.A., cyn dechrau gwaith fel athrawes yn yr Ysgol Uwchradd i ferched yng Nghaerfyrddin. Brwydrodd yn erbyn awyrgylch cwbl Seisnig yr ysgol o'r cychwyn, gan gweryla â'r brifathrawes yn ei hymdrechion i sicrhau gwell safle i'r Gymraeg. Bu lawer hapusach yn ei swydd nesaf fel darlithydd Cymraeg yng Ngholeg Hyfforddi y Barri rhwng 1923 a 1938. O dan arweiniad Ellen Evans (1891-1953), pennaeth mentrus y Coleg i ferched yn unig, cafodd rwydd hynt i arbrofi ac arloesi yn y dulliau o hyfforddi athrawon er mwyn cynyddu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r diwylliant Cymreig, ac yn fwy arwyddocaol, efallai, eu hymdeimlad o'i bwysigrwydd. Gwnaeth hynny trwy drefnu cyrsiau rheolaidd i'w myfyrwyr ddysgu mwy am hanes y fro, yn ogystal â'r tair lefel o gyrsiau yn y Gymraeg a ddatblygodd. Llwyddodd ymhellach yn un o'i hamcanion pennaf, sef i wreiddio'r myfyrwyr yn yr ardal a'i diwylliant, trwy ffurfio parti cydadrodd a enillodd gryn boblogrwydd wrth berfformio'n gyson mewn neuaddau lleol. Gwnaeth ddefnydd o'i dylanwad cynyddol ym 1938 i gyflwyno cystadleuaeth ar gyfer cydadrodd i raglen yr Eisteddfod Genedlaethol pan ddaeth i Gaerdydd. Trechwyd ei pharti o fyfyrwyr yn y gystadleuaeth honno gan barti o Dregaron a hyfforddwyd gan ei chwaer Neli, diddanwr a threfnwr dawnus tu hwnt.
Arwydd arall o'i dylanwad a'i phwysigrwydd oedd ei phenodiad yn arolygwr ysgolion y Weinyddiaeth Addysg ym 1938. Bu'n chwithdod mawr iddi adael y Barri ar y cychwyn, ond profodd ugain mlynedd eithriadol o brysur a phwrpasol wedi hynny yn teithio o amgylch Cymru fel arolygwr. Daeth yn gyfarwydd â nodweddion y genedl gyfan trwy ei gwaith gan iddi fyw ar wahanol adegau yn Nwyrain Morgannwg, Sir Drefaldwyn, Sir Benfro, Meirionnydd, y Rhondda a Gorllewin Morgannwg. Sefydlu lle teilwng i'r Gymraeg o fewn y gyfundrefn addysg, a gweddnewid y gyfundrefn honno yn y broses, oedd ei nod o'r cychwyn. Dylid cofio nad oedd Cymraeg yn rhan o raglen ysgolion nifer o'r siroedd yn ei blynyddoedd cynnar fel arolygwr, gan gynnwys Maesyfed, Penfro, Trefaldwyn, Brycheiniog a Fflint. Brwydr galed, ddiddiolch a'u hwynebai i godi safle'r Gymraeg yn y fath gyd-destun, ond ymdaflodd i'r ornest gydag egni dihysbydd.
Lluniodd adroddiadau pwysig yn cynnig argymhellion clir ar sut y gellid aildrefnu'r gyfundrefn addysg i roi statws teilwng i'r Gymraeg. Cyfrannodd erthyglau rheolaidd ar yr un pwnc i bapur Plaid Cymru, Y Ddraig Goch, yn ogystal â chyfnodolion fel Tir Newydd a Heddiw a rannai ei brwdfrydedd heintus. Ysgrifennai mewn arddull eglur a diamwys - adlewyrchiad arall o gadernid ac unplygrwydd ei chymeriad. Ceir amlinelliad gwerthfawr o'i gweledigaeth ar gyfer cyfundrefn addysg Gymraeg mor gynnar â 1929 mewn adroddiad ar ran yr Undeb Athrawon Cymreig, mudiad a gefnogodd yn gryf a chyson. Yn ei Memorandum on Welsh, pwysleisir yr effaith seicolegol niweidiol yr oedd addysg gwbl Seisnig, a ysgarwyd yn llwyr oddi wrth fywyd ac iaith y gymuned, wedi ei chael ar y Cymry yng nghefn gwlad yn arbennig. Er mwyn trechu'r ymdeimlad o israddoldeb a'r diffyg hyder a'u nodweddai, mynnodd nad trin y Gymraeg fel pwnc gwers neu ddwy yn unig o fewn ysgol y dylid ei wneud. Credai y dylai'r Gymraeg fod yn gyfrwng bywyd yr ysgol yn ei gyfanrwydd, nid pwnc wedi'i ynysu o weddill y gweithgaredd hwnnw.
Deallodd yn gynnar yn ei gyrfa mai trwy wneud gwersi ym mhob pwnc - boed hynny yn hanes neu'n fathemateg - yn berthnasol i fywyd y gymuned a'r diwylliant lleol y gellid gwreiddio'r Gymraeg yn gadarn mewn ysgol. Roedd yn arloeswr yn ddigamsyniol yn ei datblygiad a'i hanogaeth o astudiaethau bro tra'n ddarlithydd ac arolygwr. Tyfodd y cyrsiau y dechreuodd eu trefnu yn y Barri er mwyn gwella dealltwriaeth darpar athrawon o gymeriad bro eu hysgolion i fod yn nodwedd reolaidd o'u hyfforddiant ledled Cymru. Yn ogystal â threfnu'r cyrsiau hyn - gyda llu o enwogion o blith ei chyfeillion, fel Saunders Lewis, ymysg y siaradwyr gwadd - bu'n weithgar tu hwnt ym mywyd cymdeithasol pob ardal lle bu'n byw. Roedd ganddi, yn ei geiriau ei hun, 'ysfa ddiollwng am geisio creu diddanwch Cymraeg mewn cymdeithas'. Cenhadaeth oedd hyn, yn ogystal â her, ac roedd yn rhan yr un mor bwysig o'i hymgais i warchod urddas y diwylliant Cymreig yn wyneb bygythiadau diboblogi a difaterwch llywodraethol â'i gwaith pob dydd ym myd addysg. Dylid nodi bod tynnu'r di-Gymraeg i mewn i'r diwylliant hwn yn bwysig iddi, a gofalodd fod rhan o'r nosweithiau llawen a drefnodd mewn ardaloedd fel Sir Benfro a'r Rhondda yn Saesneg fel ffordd o wneud hynny. Ymdrechodd trwy ei bywyd i arddangos cyfoeth a cheinder y diwylliant Cymraeg, nid yn unig er mwyn gwreiddio'r Cymry eu hunain yn dyfnach ynddo, ond hefyd er mwyn denu a chynnwys y di-Gymraeg o'i fewn.
Nodwyd yn aml mewn portreadau cyfoes pa mor gyflym y siaradai; arwydd arall o'i hegni byrlymus. Cyfeirir at hyn mewn disgrifiad o'i nodweddion amlycaf yn Y Faner ym 1957: 'Canolig o daldra, gwallt gwineu, euraid... sieryd yn sydyn a phendant, ac yn wir ychydig bach yn chwyrn weithiau, nes peri dychryn i rywun dieithr ar y dechrau'. Serch hynny, tanlinellir hefyd mai 'clog' dros ei charedigrwydd cynhenid oedd ei dull chwim o siarad.
Bu'n byw yn Aberystwyth am gyfnod wedi ei hymddeoliad ym 1959, cyn symud i Dregaron yn y 1960au cynnar er mwyn bod yn agosach i'w brodyr a'i chwiorydd. Wedi gofalu'n dyner amdanynt, collodd ddau frawd a dwy chwaer o fewn pum mlynedd, ac fe'i gadawyd ar ei phen ei hun pan fu Neli farw ym 1971. Gwnaed defnydd o'i doniau fel storïwr ar raglenni radio poblogaidd fel 'Penigamp' yn y cyfnod hwn, ac fe'i gwahoddwyd yn fynych i annerch a rhoi darlith ar hyd a lled Cymru. Parhaodd i fynychu'r capel ym Mlaencaron yn rheolaidd ac i fod yn rhan bwysig o weithgareddau diwylliannol yr ardal yn ei henaint. Fe'i llonnwyd gan lwyddiant etholiadol Gwynfor Evans ym 1966, ffigwr y bu'n gefnogwr mawr ohono wedi iddi ei gyflwyno yn ffurfiol i Blaid Cymru yn y Barri ym 1934. Cefnogodd Gymdeithas yr Iaith a Merched y Wawr i'r carn, dau fudiad a dyfodd o gyffro ac adfywiad cyfnod yn y 1960au a adleisiodd ei hieuenctid yn y 1920au.
Cyhoeddwyd ei hunangofiant ym 1973, cyfrol sy'n ddrych nid yn unig o fywyd Cymru wledig yn arbennig yn yr ugeinfed ganrif ond hefyd o'r cymysgedd o ddwyster, difrifoldeb a doniolwch a'i nodweddai. Deilliai'r dwyster a difrifoldeb yn rhannol o weld y diwylliant yr oedd y doniolwch yn gynnyrch ohono yn cael ei danseilio a'i araf draflyncu yn ystod ei hoes. Ymateb rhesymol, ymarferol i'r broses hon oedd ei chenedlaetholdeb, fel yn achos llawer o'i chyfoedion cynnar ym Mhlaid Cymru, yn ogystal â safiad yn erbyn yr imperialaeth Brydeinig a atgyfnerthwyd mor greulon yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Ond er mor nodweddiadol oedd ei bywyd o brofiadau'r Cymry yn ei chyfnod, roedd yn gwbl eithriadol ar yr un pryd. Eithriadol yn bennaf oll yn ei phendantrwydd dros yr achos cenedlaethol ac yn ei phenderfyniad diysgog i'w hybu a'i yrru ymlaen. Am iddi lwyddo i'r graddau y gwnaeth, ym myd addysg yn arbennig, mae iddi le pwysig yn hanes y cyfnod hwn. Rhybuddiodd yn ei hunangofiant y gall addysg 'ladd iaith a diwylliant cenedl', ond pwysleisiodd, gyda'i hoptimistiaeth realistig nodweddiadol, y gallai 'fywhau ac adfer iaith a chreu cyswllt byw â'n gorffennol' hefyd. Mae'r neges yn parhau'n boenus o berthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain.
Bu farw Cassie Davies ar 17 Ebrill 1988. Cynhaliwyd yr angladd yng Nghapel Bwlchgwynt, Tregaron ar 21 Ebrill, ac yno y'i claddwyd. Dangosodd ei gwladgarwch a'i chariad i'w bro hyd y diwedd trwy adael dros gan mil o bunnoedd yn ei hewyllys i Blaid Cymru a gwahanol achosion lleol.
Dyddiad cyhoeddi: 2018-05-15
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.