Ganwyd 16 Mehefin 1902, yn fab i Thomas Davies o deulu Pant-glas, Blaencaron, a Martha (ganwyd Davies), merch Pantfallen, Tregaron, Ceredigion. Ym Mhantfallen y ganwyd eu meibion, Thomas, John ac yna James; ymhen tua blwyddyn symudodd y teulu i'r Llain, Llwynpïod, tyddyn ar gyrion Cors Caron, lle y ganwyd eu merch Letitia.
Cafodd James ei addysg gynradd yn ysgol yr eglwys, Tregaron. Pan oedd yn saith oed collodd ei fam, ac anfonwyd ef am gyfnod i Banbury (o'r lle y dychwelodd yn Sais bach uniaith!). Magwyd y plant wedyn yn y Llain gan fodryb iddynt, Mary Davies. Yn 1915, aeth i ysgol sir Tregaron. Yma y glynodd yr enw ' Kitchener ' wrtho; tarddodd hynny o hen gellwair teuluol fod ei dad, a'i fwstas, yn debyg i'r maeslywydd Prydeinig nid anenwog, a 'Kitch' fu yntau i bawb wedyn.
Yr oedd y tad yn ŵr cydnerth yn gweithio yng nglofa'r Garw ac yn dychwelyd i drin y tir bob gwanwyn, haf a Nadolig. Eithr daeth tro ar fyd pan briododd hwnnw yr eilwaith ac ymgartrefu ym Mlaengarw. Golygai hynny werthu'r tyddyn, a bu raid i'r fodryb adael a mudo i Donypandy yn 1919.
Cafodd y profiad o chwalu'r aelwyd argraff ddwys ar y llanc. Yn Nhonypandy yr oedd ei gartref bellach, eithr am y ddwy flynedd olaf yn yr ysgol arhosai mewn llety yn Nhregaron. Dyma'r pryd y cafodd nawdd a dylanwad arhosol yr athro hanes, S.M. Powell, a greodd ynddo ef fel mewn cynifer o enwogion y cylch hwnnw, serch at hanes a diwylliant ei fro a'i genedl, ac yn y ddrama a siarad cyhoeddus.
Gadawodd yr ysgol yng Ngorffennaf 1921 a mynd yn ddisgybl-athro i Flaengwynfi. O 1922 hyd 1925 dilynodd gwrs B.A. yn y Gymraeg ac addysg ynghyd â hanes, Lladin, ac athroniaeth yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth. Dyma 'Aber' y dygyfor creadigol a grewyd gan Idwal Jones a'i debyg. Dyma hefyd gyfnod y cyn-filwyr a'r gwrthwynebwyr cydwybodol (yr oedd ei gyfaill Gwenallt (David J. Jones) yno tua'r un pryd), a thyfodd diddordeb Kitchener ym merw gwleidyddiaeth a heddwch Ewrob. Bu'n ysgrifennydd cymdeithas ddadlau'r coleg ac yn aelod o gyngor y myfyrwyr gan arwain mudiadau cymorth myfyrwyr y Cyfandir a Chynghrair y Cenhedloedd, a'u cynrychioli am fis mewn ysgol materion cydwladol yng Ngenefa yn 1925. Wedi cael ei dystysgrif athro yn 1926 aeth i ddysgu i Gwm Rhondda, ac yno mewn nifer o ysgolion y gweithiodd am weddill ei oes. Yn fuan wedi mynd yno bu farw'r fodryb, a dywed ef mewn ysgrif y bu hyn yn gymaint o golled iddo ag a brofodd o golli ei fam a gadael y Llain gynt.
Os bu gafael ei blentyndod a bro ei febyd yn drwm arno ef a'i waith, nid llai fu arwyddocâd y Rhondda iddo. Gweithiodd yn ddiarbed dros fywyd ac achosion Cymraeg y Cwm, talcen caled na fennodd ddim ar ei ysbryd. Arweiniodd frwydr hir i sefydlu'r ysgol Gymraeg yno. Gwasanaethodd dryfrith o gymdeithasau a sefydliadau cenedlaethol ynglŷn â diwylliant, addysg a heddwch; a bu'n eithriadol brysur yn trefnu a darlithio mewn addysg i oedolion. Ymboenai am dlodi a chyflwr economaidd y cwm oddi ar adeg y dirwasgiad, serch nad oedd lle amlwg i genedlaetholwr ym mudiadau'r gweithiwr yn ei oes ef; cynorthwyodd arbrawf cymdeithasol Maes yr Haf adeg y rhyfel. Yr oedd yn aelod o gapel Bethania, Tonypandy, ac arferai bregethu hyd y cymoedd, er na charai enw na delwedd pregethwr.
Eithr fel un o ladmeryddion Plaid Cymru y daeth i'r amlwg. Yr oedd yn areithiwr meistrolgar a dylanwadol, â dawn i gynhyrfu. Canfasiai a chynhaliai gyrddau awyr-agored (yn aml yng nghwmni ysbrydoledig Morris Williams, a'i wraig Kate (Roberts) hefyd, a drigai yn yr un stryd am gyfnod). Wedi sefyll am y cyngor sir, safodd yn ymgeisydd seneddol ei blaid yn nwyrain y Rhondda yn 1945, ac yn y gorllewin yn 1950, a thrachefn yn 1951, ychydig cyn ei salwch.
Priododd yn 1940 ag athrawes yn ysgol ramadeg Tonypandy, Mair Rees, o Ffos-y-ffin ger Aberaeron, a chartrefu yn Aeron, Brithweunydd, Trealaw, lle y ganwyd eu tair merch, Megan, Mari a Manon.
Yr oedd yn arddwr, yn gwmnïwr afieithus ac yn ddarllenwr eang. Ymdrwythodd yng ngweithiau Pantycelyn (W. Williams, 1717 - 1790). Gwerthfawrogai waith Saunders Lewis a T. S. Eliot, a mynnai yntau le i'r bardd yn y theatr. Yr oedd ganddo ddiddordeb egnïol ym myd y ddrama; sefydlodd Gwmni Drama'r Pandy, y bu'n cynhyrchu ac actio ynddo yn y tridegau; daeth yn feirniad a darlithydd, a darlledodd gryn dipyn. Cyfrannodd lawer o erthyglau i'r wasg Gymraeg a Saesneg, ar wleidyddiaeth a drama gan amlaf. Derbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn 1945 ar sail ei gyfraniad i'r ddrama Gymraeg.
Arbrofion llenyddol cyson ydoedd ei ddramâu ei hun iddo, ffrwyth cystadleuaeth yn aml. Yn 1935 cyhoeddwyd Cwm glo, y ddrama am ddryllio cymdeithas a moes un o deuluoedd y dirwasgiad y bu'r helynt cyhoeddus rhyfeddaf yn ei chylch. Y mae'r ferch ynddi yn gadael i ennill ei thamaid ar y stryd; gwrthodasid ei gwobrwyo yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1932, a thyrrai pobl i'w gweld. Cyfansoddodd Y tri dyn dierth (1937), drama fer a addaswyd o un o storïau Hardy; Susannah (1938), drama un act seiliedig ar yr Apocryffa, a Hen wlad fy nhadau (1939), cyfieithiad o waith Jack Jones. Trasiedi farddonol yw Meini gwagedd (1944; ail arg. 1945) am gyni bywyd ar Gors Caron; gyda'i defnydd nodedig o gyfoeth iaith y fro, hi a ystyrid yn orau o'i waith, cyn Sŵn y gwynt sy'n chwythu. Cwplaodd bum drama arall: Dies irae, drama tair act ar hanes Buddug; Gloria in excelsis, drama radio fer ar thema'r Pasg; Miss Blodeuwedd, ffars ar y chwedl, mewn cywaith â'i wraig; Y fantell fraith, ar y cyd â'i ddosbarth ysgol haf yn Harlech yn 1942; a hefyd Ynys Afallon, drama led-fydryddol ar hanes Cymru. Honno yn ei dyb ef, oedd ei arbrawf mwyaf uchelgeisiol.
Ni chanodd lawer o gerddi unigol. Serch hynny, fel bardd y cofir ef, oherwydd ei fod yn ei ychydig waith barddonol, ac yn arbennig mewn un gerdd hynod, wedi gadael neges i'w gyfnod. Ym Meini Gwagedd, ' Ing cenhedloedd ' ac ' Yr arloeswr ' ceir y byrdwn a ddatblygwyd yn derfynol yn Sŵn y gwynt sy'n chwythu (1953), pryddest gomisiwn a ddarlledwyd yn 1952. Yn yr ysbyty, ac yntau rhwng dwy driniaeth lawfeddygol ar y cancr, yr ysgrifennodd hi, gan gaboli ac adrodd ei ffurf derfynol i'w wraig ei chofnodi. Cerdd ysgytwol ydyw a'r bardd yn dadwisgo'i holl gymhellion; felly y gwnaethai Pantycelyn, ond ceir yma lais newydd didostur. Dyry inni olwg ar bererindod arswydus hyd at wyddfod sancteiddrwydd, a thry ymbil y Cymro rhag ei ddyletswydd yn argyfwng dyn ym mhob oes. Fe'i cydnabyddir yn un o gerddi Cymraeg mwyaf yr 20fed ganrif, a daeth enw Kitchener yn gyfystyr â hi, yn ogystal ag â Chwm Rhondda a Phlaid Cymru.
Bu farw 25 Awst 1952, a chladdwyd ef ym mynwent Llethr Ddu, Trealaw. Dadorchuddiwyd cofeb iddo ar fur capel Llwynpïod ar 3 Medi 1977, ac yn 1980 cyhoeddwyd casgliad o'i brif weithiau, Gwaith James Kitchener Davies, gol. Mair Kitchener Davies.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.