ROBERTS, KATE (1891-1985), llenor

Enw: Kate Roberts
Dyddiad geni: 1891
Dyddiad marw: 1985
Priod: Morris Thomas Williams
Rhiant: Catherine Roberts (née Cadwaladr)
Rhiant: Owen Owen Roberts
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Katie Gramich

Ganwyd Kate Roberts ar Chwefror 13, 1891 yn Rhosgadfan, Sir Gaernarfon. Catherine oedd ei henw bedydd, ac fel Cadi y câi ei hadnabod o fewn cylch ei theulu. Hi oedd plentyn cyntaf Owen Owen Roberts (1851-1931), chwarelwr llechi, a Catherine Roberts (ganwyd Cadwaladr, 1855-1944), cyn-fydwraig. Roedd tad a mam Kate ill dau wedi bod yn briod o'r blaen ac wedi eu gadael yn weddw; roedd gan Kate ddwy hanner-chwaer a dau hanner-brawd hŷn o briodasau cyntaf ei rhieni (John Evan, Mary, Jane, ac Owen) a thri brawd iau, sef Richard (Dic), Evan, a David (Dei). O 1895 ymlaen cartref y teulu oedd tyddyn o'r enw Cae'r Gors, lle roeddent yn ffermio er mwyn ymgynnal ac ychwanegu at eu hincwm.

Cae'r Gors oedd cartref Kate am y rhan fwyaf o'i blynyddoedd cynnar, ac mae'n cyflwyno darlun byw o'r bwthyn a'r pedwar cae o'i gwmpas yn ei hunangofiant, Y Lôn Wen (1961) ac yn y gyfrol Atgofion (1972). Heddiw mae Cae'r Gors yn ganolfan dreftadaeth er cof am Kate Roberts. Cafodd hi a'i brodyr eu magu yn agos at y pridd, ac mae gwaith caled a phryder parhaol bywyd y tyddynnwr yn cael eu portreadu dro ar ôl tro yn ffuglen gynnar Kate Roberts, ynghyd â pherygl echrydus y chwarel llechi. Fel yr unig ferch a oedd bellach yn byw gartref, roedd disgwyl i Kate rannu gwaith beunyddiol y tŷ gyda'i mam; nid oes rhyfedd, felly, ei bod hi'n medru darlunio'r aelwyd a dyletswyddau domestig mewn modd mor agos-atoch a manwl gywir yn ei gwaith creadigol diweddarach. Roedd llethrau serth a grugog y mynydd hefyd yn ffurfio rhan o fyd ei phlentyndod, ac mae prydferthwch gerwin a diobaith y llethrau'n cael ei ddylunio'n gofiadwy yn ei straeon maes o law. Rhan bwysig o fywyd y teulu oedd y capel, gan eu bod yn treulio amser maith yno yn mynychu oedfaon a'r ysgol Sul, cymanfaoedd canu a seiadau, megis niferoedd helaeth o'u cymdogion yn y cyfnod hwnnw. Fel y dywedodd Kate yn syml yn y gyfrol Atgofion, 'Dyna gylch ein bywyd, y tŷ, y capel, y caeau, y ffyrdd, y mynydd'.

Mynychodd ysgol gynradd Rhostryfan ac wedyn enillodd ysgoloriaeth i fynd i Ysgol y Sir yng Nghaernarfon ym 1904. Dyma ddechrau symud i ffwrdd oddi wrth gylch cyfun ei phlentyndod am y tro cyntaf. Yn unol â'r gyfundrefn addysg a oedd yn bodoli ar y pryd, cafodd ei haddysgu yng Nghaernarfon bron yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Saesneg, a chofiai'n glir ei theimlad o fod ar goll pan symudodd yn dair ar ddeg oed o ardal fwy neu lai uniaith Gymraeg i drefn hollol Seisnig. Yn nes ymlaen yn ei bywyd byddai hi'n un o'r ymgyrchwyr cyntaf o blaid addysg gyfrwng Cymraeg; yn wir, dywedodd mai'r orchest yr oedd hi'n falchaf ohoni yn ei bywyd oedd, nid ei gweithiau llenyddol, ond yn hytrach ei rhan yn helpu i sefydlu un o'r ysgolion uwchradd Cymraeg cyntaf, sef Ysgol Twm o'r Nant yn Ninbych.

Ym 1910, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, lle'r oedd yn un o'r nifer bychan iawn o fyfyrwyr benywaidd ar y pryd; roedd hi'n ymwybodol iawn o'r fraint ac o aberth ariannol ei rhieni i'w galluogi i dderbyn addysg uwch. Astudiodd y Gymraeg o dan gyfarwyddyd yr ysgolheigion enwog, John Morris-Jones ac Ifor Williams, er mai Saesneg, unwaith eto, oedd iaith y rhan fwyaf o'r darlithoedd. Roedd Kate yn fenyw ifanc hynod o hardd a bywiog, ac ymunodd yn frwd yng ngweithgareddau diwylliannol niferus y Brifysgol: eisteddfodau, dadleuon, a chylchgronau myfyrwyr. Fel y mae hi'n dweud yn ei chyfrol Atgofion, 'dyma amser hapusaf fy mywyd'; hwn oedd y cyfnod cyn y Rhyfel Byd Cyntaf sy'n cael ei ddisgrifio fel 'tegwch y bore' yn ei nofel o'r un enw ym 1958.

Gadawodd Fangor ym 1913 gyda gradd ail ddosbarth a thystysgrif ddysgu. Cafodd swydd fel athrawes mewn ysgol gynradd yn Llanberis ac wedyn, ym mis Chwefror 1915, symudodd i ysgol uwchradd Ystalyfera yng Nghwm Tawe i lenwi lle cyn-athro yno oedd wedi ymuno â'r fyddin. Yn y cyfnod hwn yn Ystalyfera y dechreuodd bywyd Kate Roberts fel llenor mewn gwirionedd. Yma ffurfiodd gyfeillgarwch agos gyda dwy athrawes arall, Betty Eynon Davies a Margaret Price, a chydweithiodd y 'tair BA', fel y'u gelwid, i ysgrifennu, llwyfannu ac actio mewn dramâu byrion, megis Y Fam, Y Canpunt, a Wel! Wel!, a gafodd eu perfformio gan 'Gymdeithas y Ddraig Goch' ar hyd a lled Cwm Tawe yn ystod y Rhyfel.

Roedd dau o frodyr Kate, sef Evan a Dei, bellach wedi ymuno â'r fyddin. Anafwyd y ddau yn ddifrifol: roedd Evan i ddioddef am weddill ei fywyd o'i anafiadau, tra bu Dei farw o ddysentri pan oedd yn gwella o'i anafiadau mewn ysbyty ym Malta ym 1917. Dim ond pedair ar bymtheg oed oedd Dei pan fu farw. Cafodd Kate ei llorio gan y golled ac yn nes ymlaen yn ei bywyd byddai'n datgan mai'r golled anghyfiawn a diystyr hon a'i gyrrodd i ysgrifennu fel modd i fynegi ei theimladau. Dechreuodd ysgrifennu storïau byrion o hyn ymlaen, gan gyhoeddi ei chyfrol gyntaf, O Gors y Bryniau, ym 1925. Mae straeon y gyfrol wedi eu gwreiddio'n ddwfn yn nhirwedd a chymuned Arfon ei phlentyndod. Maent yn cofnodi caledi ac ansicrwydd bywydau pobl yn yr amgylchfyd hwn, gan ganolbwyntio yn aml ar y berthynas rhwng plant a'u rhieni ac ar brofiadau o golled a hiraeth. Efallai ei bod hi'n chwilio am ryddhad rhag ei phrofedigaeth ddwys ei hun drwy ysgrifennu'r storïau hyn, ond, os felly, llwyddodd yn rhyfeddol i leisio profiadau tu hwnt i'r personol.

Ym 1917 gadawodd Ystalyfera i fynd i Aberdâr, lle yr oedd wedi cael swydd fel athrawes yn Ysgol Sir y Merched. Bu'n athrawes Gymraeg am ryw bymtheng mlynedd i gyd, a chafodd ddylanwad cryf ar nifer o ddisgyblion talentog, gan gynnwys y darpar fardd Gwenallt a ddaeth yn ffrind oes i Kate. Ym 1928 priododd Morris T. Williams (1900-1946) a oedd hefyd yn frodor o Sir Gaernarfon a chyd-gefnogwr y blaid wleidyddol newydd, Plaid Genedlaethol Cymru. Oherwydd bod menywod priod yn cael eu gwahardd rhag dysgu ar y pryd, roedd yn rhaid i Kate roi'r gorau i'w gyrfa fel athrawes. O 1929 tan 1931 roedd hi a Morris yn byw yn Rhiwbeina yng ngogledd Caerdydd, ac yna yn Nhonypandy yng Nghwm Rhondda am bedair blynedd. Yn y cyfnod hwn ysgrifennodd Kate lawer o erthyglau newyddiadurol i gylchgronau'r Blaid, ond daliodd ati hefyd i lunio storïau byrion, gan gyhoeddi'r gyfrol Rhigolau Bywyd ym 1929. Canolbwyntia'r gyfrol hon ar y berthynas rhwng gŵr a gwraig, gan greu darlun eithaf trist o fethu cyfathrebu a chamddealltwriaeth. Fodd bynnag, dangosai'r storïau fod gafael Kate ar ffurf y stori fer yn cryfhau; mae storïau megis 'Rhigolau Bywyd' ac 'Y Golled' yn llwyddo i awgrymu byd cyfan a chymhleth o deimladau drwy gyfrwng iaith awgrymus a symbolau cynnil.

Gan mai argraffydd oedd Morris o ran galwedigaeth, penderfynasant ym 1935 symud yn ôl i'r gogledd er mwyn prynu a rhedeg Gwasg Gee, gwasg enwog yn nhref Dinbych. Y Cilgwyn oedd enw eu cartref newydd ac yno y buont ill dau yn byw am weddill eu hoes. Blwyddyn ar ôl iddynt symud, cyhoeddwyd Traed mewn Cyffion, nofel sy'n cael ei hystyried yn un o gampweithiau Kate. Roedd y gwaith wedi dod yn gydradd gyntaf yng nghystadleuaeth rhyddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn flaenorol. Er mai nofel fer ydyw, mae'n llwyddo i bortreadu'n gynnil y newidiadau mawr a ddigwyddodd yn y gymdeithas yng ngogledd-orllewin Cymru yn y cyfnod rhwng 1880 a 1917. Canolbwyntia ar dair cenhedlaeth o fewn un teulu, gan gofnodi'u gwrthdaro a'u gorchestion yng nghanol diwylliant Anghydffurfiol uniaith Gymraeg sy'n prysur ddirywio. Mae'n trafod newidiadau yn rôl merched yn y gymuned, dylanwad andwyol y gyfundrefn addysg Brydeinig, anghydfodau diwydiannol a rhaniadau gwleidyddol ymysg gweithwyr y chwarel, allfudo i Gymoedd y de, ac yn olaf effeithiau dwys y Rhyfel Byd Cyntaf ar y cornel hwn o'r byd. Realaidd yw'r arddull ond eto i gyd mae'n defnyddio adroddiad rhydd anuniongyrchol i awgrymu meddyliau cudd a theimladau'r cymeriadau. Mae Kate yn dramateiddio colled ei brawd yn yr olygfa lle mae Jane Gruffydd, y fam, yn derbyn llythyr swyddogol yn ei hysbysu am farwolaeth ei mab ond nid yw'n medru darllen y llythyr oherwydd ei fod yn y Saesneg. Wrth lunio'r olygfa gryno ond cofiadwy hon mae Kate yn arddangos sgiliau penigamp yr awdur storïau byrion.

Ar ôl i gyfrol arall o storïau byrion, sef Ffair Gaeaf, ymddangos ym 1937, aeth nifer o flynyddoedd heibio cyn iddi gyhoeddi cyfrol greadigol arall. Roedd hi'n brysur iawn yn rhedeg y wasg, yn golygu ac yn cyfrannu at gyfnodolion a phapurau wythnosol, gan gynnwys Baner ac Amserau Cymru (Y Faner). Mae tuedd wedi bod i esgeuluso cyfraniad mawr Kate at ddadleuon gwleidyddol a chymdeithasol y dydd fel newyddiadurwraig, golygydd, a ffigwr cyhoeddus. Cuddir ei gweithgarwch anhygoel tu ôl i ystrydeb ffals ei 'distawrwydd' rhwng 1937 a 1949. Serch hynny, roedd gofynion lluosog ei gwaith yn cyd-lywio Gwasg Gee gyda'i gŵr wedi cwtogi'r amser oedd ganddi i ysgrifennu storïau a nofelau yn y cyfnod hwn.

Ysgogwyd hi i ail-ddechrau ysgrifennu'n greadigol unwaith eto gan golled ddirdynnol arall: yn sydyn iawn ym 1946 bu farw ei gŵr, Morris T. Williams, yn brin 46 mlwydd oed. Er na fu'r briodas yn berffaith efallai, ddim mwy na'r rhan fwyaf o briodasau, nid oes lle i amau nad oedd Kate yn teimlo'r golled i'r byw, ac unwaith eto mi drodd at ysgrifennu creadigol fel modd i fynegi'r boen. Cyhoeddodd nofela arbrofol o dan y teitl Stryd y Glep ym 1949, Y Byw sy'n Cysgu, nofel ar ffurf dyddiadur, ym 1956, a chasgliad o storïau byrion hiraethus, sef Te yn y Grug ym 1959. Roedd y ddwy gyfrol gyntaf yn sôn am fenywod unig a diobaith yn ceisio ymgodymu â bywyd lle mae pob sicrwydd ynglŷn â'u statws a'u perthynas ag eraill wedi ei golli. Nodwedd y gweithiau hyn yw eu dyfnder seicolegol a'u ffocws parhaol ar y bywyd mewnol. Ond mae Te yn y Grug yn taro nodyn gwahanol iawn, yn mynd â ni yn ôl i brofiadau a chefndiroedd bore oes, gydag arddull ysgafnach a hyd yn oed doniol mewn mannau. Mae'r storïau'n troi o gwmpas cymeriad unigryw Winni Ffinni Hadog, merch ifanc afieithus sy'n gyndyn i gydymffurfio â'r drefn ac sy'n methu dod o hyd i'w lle mewn cymdeithas batriarchaidd lethol.

Ym 1960 ymddangosodd gwaith hunangofiannol, Y Lôn Wen, ond mae'n gofiant tawedog sy'n anwybyddu bywyd yr awdur fel oedolyn ac yn canolbwyntio'n hiraethus ar ei phlentyndod ac, yn fwy na dim, ar fywyd ei chymuned frodorol. Dilynwyd hwn bron yn syth gan gyfrol o'r enw Tywyll Heno, nofela fer sydd ymysg ei gweithiau mwyaf beiddgar a medrus. Mae'n ymdrin â phynciau dwys, megis afiechyd meddwl, teimladau erotig merched, a dirywiad y diwylliant Anghydffurfiol. Unwaith yn rhagor, merch unig sydd yn ganolbwynt i'r gwaith, gwraig gweinidog sy'n methu ymdopi a'i rôl ddisgwyliedig ac sy'n disgyn i bwll ofnadwy o iselder ysbryd. Parhaodd Kate i ysgrifennu a chyhoeddi storïau byrion mewn cyfrolau tenau am weddill ei hoes. Yn y cyfrolau hyn, fel Yr Wylan Deg (1976), mae'r awdur yn ein tywys i ganol byd pobl oedrannus, gan greu argraff drawiadol o sut mae'r unigolyn yn teimlo yn trigo tu mewn i gorff dynol hen ond yn dal i brofi awydd a nwyd ieuenctid.

Derbyniodd nifer o anrhydeddau yn ail hanner ei bywyd, gan gynnwys doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru ym 1950 a Medal y Cymmrodorion ym 1961. Er gwaetha'r arwyddion hyn o gydnabyddiaeth, mae ei llythyron a'i dyddiaduron yn dangos ei bod yn teimlo'n fwyfwy unig ac anghofiedig wrth iddi heneiddio. Fodd bynnag, parhaodd i gyfrannu at fywyd cyhoeddus am flynyddoedd ar ôl iddi ymddeol o Wasg Gee ym 1956, gan chwarae rhan flaenllaw yn yr ymgyrch dros addysg Gymraeg, fel y nodwyd.

Cyfeirir at Kate Roberts hyd yn oed heddiw fel 'Brenhines ein Llên', ac mae hyn yn awgrymu pa mor uchel yw ei bri yn enwedig ymysg y Cymry Cymraeg. Hi oedd llenor benywaidd pwysicaf Cymru yn yr ugeinfed ganrif; cynhyrchodd gorff o waith swmpus a safonol dros gyfnod o fwy na hanner canrif. Yn ogystal â'i gorchestion fel awdur creadigol, roedd hi hefyd yn feirniad dylanwadol, athrawes, newyddiadurwraig, golygydd a chyhoeddwr ac, yn olaf, ymgyrchydd gwleidyddol brwd ac effeithlon. Mewn cyd-destun ehangach, gellir ystyried Kate Roberts yn aelod o'r to newydd o awduron benywaidd ym Mhrydain Fawr a ddaeth i'r amlwg rhwng y ddau ryfel byd, ac a gynhyrchodd waith creadigol a adlewyrchai'r newidiadau enfawr ym mywydau merched yn sgil ennill y bleidlais ym 1928. Megis ei chyfoedion, fel Elizabeth Bowen a Storm Jameson, er enghraifft, mae ei gwaith yn cynnig golwg graff ar fywydau menywod a'u teuluoedd ac yn dangos rhai o'r ffyrdd cudd y mae grym yn gweithredu yn y gymdeithas batriarchaidd sydd ohoni. Ar yr un pryd mi lwyddodd i osod safon newydd ar ryddiaith Gymraeg greadigol, gan ddefnyddio amrywiaeth mewn tafodiaith i gyfoethogi ei harddull realaidd ystwyth a naturiol.

Bu Kate Roberts farw ar Ebrill 14, 1985, a chynhaliwyd ei hangladd yn y Capel Mawr, Dinbych ar Ebrill 17. Cafodd ei chladdu yn yr un bedd â'i gŵr, Morris T. Williams, yn Ninbych.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-05-28

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.