Ganwyd 24 Tachwedd 1884, yn Nhai Harri Blawd, Merthyr Tudful, Morgannwg, yr hynaf o'r naw plentyn a gafodd fyw o'r pymtheg a anwyd i'w fam, Sarah Ann, a'i dad, David, a oedd yn löwr. Fe'i haddysgwyd yn ysgol elfennol Dewi Sant ym Merthyr Tudful ond fe adawodd yr ysgol yn ddeuddeg oed i weithio gyda'i dad yn y pwll glo. O 1902 hyd 1906 bu'n filwr llawn-amser, a gwasanaethodd yn Neheubarth yr Affrig ac yn yr India cyn dychwelyd i Ferthyr Tudful i weithio tan ddaear unwaith eto. Yn 1908, priododd Laura Grimes Evans o Lanfair-ym-Muallt. Erbyn dechrau Rhyfel Byd I yn 1914 cawsai waith mewn pwll glo ar bwys Pont-y-pŵl oherwydd iddo sylweddoli nad oedd ei gyflog fechan fel piliwr coed yn Llanfair-ym-Muallt yn ddigon i'w gynnal ef a'i wraig, ei ddau fab a'i ferch fach. Fel aelod o'r cefnlu, galwyd ef i ymuno â'i gatrawd yn ddioed: cafodd ei enwi mewn cadlythyrau, ac yn ddiweddarach fe'i clwyfwyd mewn brwydr yn Ffrainc. Erbyn 1921, yr oedd ganddo ef a'i wraig ddau fab arall, ac ni fu rhagor o deulu. Yn yr un flwyddyn, fe'i danfonwyd gan gangen Undeb y Glöwyr ym Mhont-y-pŵl fel cynrychiolydd i gynhadledd sefydlu'r Blaid Gomiwnyddol ym Mhrydain a gynhaliwyd ym Manceinion : ac fe'i dewiswyd fel ysgrifennydd gohebol dros ei gyd-löwyr yn Ne Cymru. Am fisoedd wedyn bu wrthi'n ddiwyd yn ceisio sefydlu cangen o'r Blaid Gomiwnyddol ym Merthyr Tudful, ac yn Awst 1921 gweithiodd yn galed dros ymgeisydd seneddol y Comiwnyddion yn etholaeth Caerffili. Pan benodwyd ef yn ysgrifennydd a chynrychiolydd llawn-amser y glöwyr ym Mlaengarw yn 1923, fe ymunodd â'r Blaid Lafur; ond wedi cael ei feirniadu'n llym am ysgrifennu ei erthygl gyntaf erioed i'r wasg (sef ' The Need for a Lib-Lab Coalition') mewn dull mor ddadleuol, tua diwedd 1927 ymddiswyddodd a symud o Ben-y-bont ar Ogwr i fyw yng Nghaerdydd. Ar ôl treulio dros flwyddyn yn siarad dros Lloyd George a'r Rhyddfrydwyr, yn 1929 collodd yr etholiad fel ymgeisydd Rhyddfrydol dros Gastell-nedd. Arhosodd gyda'r Rhyddfrydwyr fel siaradwr am rai misoedd ac aeth yn sylwedydd drostynt yng nghynhadledd y Swyddfa Lafur Ryngwladol yng Ngenefa, ond erbyn 1930 yr oedd allan o waith. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, ceisiodd ennill bywoliaeth mewn amryw ffyrdd: fel siaradwr ar lwyfan plaid newydd Mosley, gwerthwr, cloddiwr, rheolwr cynorthwyol mewn sinema, cyfrifwr ac fel awdur.
Erbyn 1939, yr oedd wedi datblygu'n awdur naturyddol nodedig ymhlith llenorion yr ysgol Eingl-Gymreig : a'i lyfrau wedi cael cylchrediad eang - tair nofel (Rhondda roundabout 1934, Black parade 1935, Bidden to the feast 1938), drama (Land of my fathers 1937), a chyfrol gyntaf ei hunangofiant (Unfinished journey, 1937): yr oedd yn adnabyddus fel siaradwr ar y radio ac i lawer o gynulleidfaoedd yng Nghymru; ac aeth yn fwy enwog byth pan gynhyrchwyd ei ddrama, Rhondda roundabout, mewn theatr yn Shaftesbury Avenue am gyfnod byr. Ymddangosodd y ffilm Proud valley yn yr un cyfnod, yntau wedi ysgrifennu'r ddeialog a chymryd rhan fechan fel actor ynddi.
Yn ystod Rhyfel Byd II treuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn annerch cyfarfodydd ar ran y Weinyddiaeth Hysbysrwydd a'r Mudiad Cynilion Cenedlaethol - weithiau'n dechrau'i araith gydag ychydig o frawddegau yn y Gymraeg - a pharatoi sgriptiau radio ac erthyglau papur newydd. Cymerodd ran fechan mewn ffilm arall. Gwnaeth ddwy daith ddarlithio flinderus yn yr Unol Daleithiau a Chanada; ac ymwelodd â'r milwyr ar faes y gad yng ngwlad Belg a'r Iseldiroedd yn 1944 ac yn yr Eidal yn 1945. At hynny, yn 1944, fe gyhoeddodd The man David : cyflwyniad dychmygol seiliedig ar ffeithiau bywyd David Lloyd George o 1880 hyd 1914.
Cefnogodd ymgeisydd Ceidwadol, Syr James Grigg, yn etholiad cyffredinol 1945. Dyma'r bumed waith iddo newid ei deyrngarwch gwleidyddol, ond trwy gydol ei fywyd yr oedd ei athroniaeth yn seiliedig ar syniadau'r adain chwith gyda ffydd grefyddol seml.
Rhwng 1946 ac 1951, aeth ati o'r newydd i lenydda, a chyhoeddwyd dwy gyfrol arall o'i hunangofiant (Me and mine, 1946 a Give me back my heart, 1950), tair nofel newydd (Off to Philadelphia in the morning, 1947, Some trust in chariots, 1948 a River out of Eden, 1951) a drama (Transatlantic episode, 1947). Fe laddwyd ei fab, Lawrence, yn y rhyfel yn 1942; bu farw ei wraig, Laura, a'i fab David yn 1948.
I gydnabod ei wasanaeth i gymdeithas a'i gyfraniad ym myd llenyddiaeth, yn 1948 penodwyd ef yn C.B.E. Yn yr un flwyddyn, ymaelododd yn y Mudiad Ailarfogi Moesol ac fe'i cefnogodd mewn anerchiadau yng Nghaerdydd a lleoedd eraill yng Nghymru. Yn 1949, treuliodd dri mis yn hyrwyddo'r achos hwn yn ninasoedd a threfi'r Unol Daleithiau.
Cyhoeddodd bum nofel yn y 1950au : Lily of the valley a Lucky Lear, 1952, Time and the business, 1953, Choral symphony, 1955 a Come, night; end, day!, 1956. O'u cymharu â'r rhan fwyaf o'i waith, mae safon lenyddol y nofelau hyn yn is o lawer.
Yn 1954, priododd Gladys Morgan, llyfrgellydd cynorthwyol yn Rhiwbeina. Etholwyd ef yn llywydd cyntaf cangen Saesneg yr Academi Gymreig; ac yn Chwefror 1970, derbyniodd wobr gan Gyngor Celfyddydau Cymru am ei gyfraniad nodedig i lenyddiaeth Cymru '.
Toreithiog oedd ei waith ysgrifenedig eto o 1956 hyd ddydd ei farw 7 Mai 1970. Ymysg y llawysgrifau o'i eiddo a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y mae nofelau, dramâu, hunangofiant, a chofiant nas cyhoeddwyd. Er bod ansawdd gwaith Jack Jones yn amrywio'n fawr, mae gwerth Black parade ac Off to Philadelphia in the morning yn tystiolaethu ei fod yn awdur pwysig; ac y mae Bidden to the feast ac Unfinished journey ymysg gweithiau gorau'r Eingl-Gymry.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.