Ganwyd 8 Mehefin 1895, yn Rhoslwyn, Llanbedr-Pont-Steffan, Sir Aberteifi, mab D. Teifi Jones, brodor o Gwmystwyth, Rhyddfrydwr adnabyddus ac arweinydd eisteddfodau, a'i wraig Mary, a oedd yn disgyn o T. Phillips, Neuaddlwyd. Ei thad hi oedd y Parch. Thomas Jones, Tynygwndwn a Bethel Parc-y-rhos. Cafodd Idwal Jones ei addysg yn ysgol elfennol Llanbedr-pont-Steffan, 1900-8, ac yn Ysgol Coleg Dewi Sant yn yr un dref, 1909-11. Bu wedyn am dro yn glerc cyfreithiwr yn Llanbedr Pont Steffan, ac ar ôl hynny yn glerc gyda'i dad yn y fusnes lo, gan i'w dad adael swydd ysgolfeistr ysgol y Felin-fach oherwydd anghydfod rhyngddo a llywodraethwyr yr ysgol. Ymunodd Idwal Jones â'r fyddin ym mis Mawrth 1915 a bu'n gwasnaethu gyda hi yn nwyrain Affrica; gadawodd y fyddin ym mis Mawrth 1919. Aeth i Goleg Aberystwyth yr un flwyddyn, ac ymhen tair blynedd cafodd ei radd (B.A.) gydag anrhydedd yn yr ail ddosbarth yn Saesneg. Bu wedyn yn ysgolfeistr Ysgol Mynach, Pont-ar-fynach, ac ar ôl hynny yn athro ar ddosbarthiadau allanol tan Goleg Aberystwyth yn Rhydlewis, Trefilan, Llanbedr-Pont-Steffan, y Felin-fach, Pont-ar-fynach, a Thregaron. Bu farw 18 Mai 1937.
Ysgrifennodd erthyglau i Y Llwyfan, Y Ford Gron, Y Faner, Welsh Outlook, Manchester Guardian, South Wales News, a'r Dragon (cylchgrawn Coleg Aberystwyth). Lluniodd y dramâu hyn: Codwn Hwyl (mewn llawysgrif); Gwrid y Wawr (llawysgrif); My Piffle (sgit ar waith Caradoc Evans, mewn llawysgrif); P'un, comedi un act, 1927; Toddi'r Ia, comedi fer yn nhafodiaith canolbarth Ceredigion, 1926; Pobl yr Ymylon , drama bedair act, 1927; Yr Anfarwol Ifan Harris, drama dair act, buddugol yn eisteddfod genedlaethol Treorci, 1928 (mewn teipysgrif); Ffarwel Tibit y Popty, drama blant; Sh - ! Dim Sŵn, 1936, comedi yn cynnwys caneuon ysgafn; Yr Eosiaid, 1936, comedi-gerdd am fywyd coleg. Cyhoeddodd ddau lyfr o gerddi digrif, sef Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill, 1934, a Cerddi Digri Newydd a Phethau o'r Fath, 1937. Lluniodd hefyd raglenni ysgafn i'w darlledu ar y radio.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Nid yng Nghwmystwyth y ganwyd D. Teifi Jones, ond ym Mhentre-bach, Tal-y-bont (Ceredigion). Yr oedd yn disgyn o deulu Jones, Llwynrhys, ac nid o deulu T. Phillips, Neuaddlwyd. A bellach (Aberystwyth, 1958), cyhoeddodd awdur yr ysgrif ei Gofiant i Idwal Jones. Gwybodaeth hefyd gan J. Edwards, Kingston-on-Thames (perthynas).
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.