Ganwyd Gwilym Prys Davies ar 8 Rhagfyr 1923 yng Nghroesoswallt, Sir Amwythig, yn fab i William Davies (1874-1949) a'i wraig Mary Matilda (g. Roberts (1888-1974). Roedd ei rieni wedi symud o Lanegryn yn Sir Feirionnydd yn 1921 i gadw gwesty yn nhref Croesoswallt. Roedd ganddo un chwaer, Mairwen (1922-2004). Symudodd y teulu yn ôl i Lanegryn pan oedd Gwilym yn bump oed, a magwyd ef yn Pen-y-Banc, aelwyd lengar, sosialaidd Gymreig, lle cynhelid darlithiau Cymdeithas y Gweithwyr, llythyrdy'r plwyf a swyddfa Cyngor y Plwyf. Addolai'r teulu yng nghapel yr Annibynwyr Llanegryn, a chafodd Gwilym ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanegryn ac Ysgol Ramadeg Tywyn.
Bu dyfodiad yr Ail Ryfel Byd yn fater anodd i'w rieni a pherswadiwyd ef i adael yr ysgol am waith ar fferm modryb ac ewythr iddo. Ar ôl dwy flynedd, safodd yn erbyn y cynllun a chofrestrodd yn 1942 gyda'r Llynges. Ar 4 Awst, ceid ef ar y llong Collingwood ym mhorthladd Portsmouth. Hyfforddwyd ef i ddelio gyda radar a bu ar y llongdanfor yr Excalibur. Ni soniai byth am gyfnod y rhyfel, ond gwyddom i'w ymwybyddiaeth Gymreig gryfhau yn ddirfawr a'i fod ef fel ei rieni am weld Gwynfor Evans yn ennill Meirionnydd yn etholiad 1945.
Ym Medi 1946 cofrestrodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn Adran y Gyfraith. Credai mai ei ddyletswydd gyntaf oedd sefydlu cangen o Blaid Cymru, ac yn ail cenhadu dros yr achos ym mhentrefi gogledd Ceredigion gyda John Legonna a Huw Davies, ffrind mynwesol iddo. Golygodd y cylchgrawn Y Wawr ac ysgrifennodd i'r Faner a'r Fflam. Enillodd radd LLB yn 1948 ac aeth ymlaen i wneud ymchwil ar Gyfraith Hywel Dda. Etholwyd ef yn llywydd Undeb y Myfyrwyr yn 1949 a llenwai Neuadd yr Arholiadau fel dadleuydd huawdl.
Bu marwolaeth ei dad ym Mehefin 1949 yn gryn loes iddo ac yntau ynghanol ffrae gyda Phlaid Cymru. Meddai ar bersonoliaeth aruthrol, ac yn y cyfnod hwn 1948-49 bu yn bennaf gyfrifol am Fudiad y Gweriniaethwyr o fewn Plaid Cymru. Nod y mudiad oedd annibyniaeth i Gymru, cefnogi a chyhoeddi sosialaeth, a chreu gwerinlywodraeth. Cythruddwyd Gwynfor Evans, J. E. Jones ac Wynne Samuel gan y mudiad a llwyddwyd i ddiarddel yr aelodau o'r blaid yng Ngorffennaf 1949. Gadawodd hanner cant ohonynt ac yng Nghastell-nedd ym Mai 1949, gyda Trefor Morgan yn cadeirio, ffurfiwyd plaid wleidyddol newydd.
Yn ystod y cyfnod hwn cwrddodd Gwilym â Llinos Evans, myfyrwraig o Abercynon, ac ar 29 Medi 1951 priodwyd hwy yng Nghapel Bethel, Hirwaun gan y Parchedig J. Eirian Davies. Ganwyd iddynt dair merch, Catrin (g. 1957), Ann (g. 1959) ac Elin (g. 1963). Symudodd y ddau i fyw yn Heol Llanbadarn, Aberystwyth pryd y daeth i adnabod y gwleidydd ifanc, John Morris. Daeth yn bennaf ffrindiau gyda Phrifathro'r Coleg, Ifor Evans a'r Llywydd Dr Thomas Jones.
Cafodd ei siomi yn y Mudiad Gweriniaethol am fod Saesneg yn gyfrwng trafod ac am iddynt gefnogi Ithel Davies yn hytrach na Trefor Morgan yn ymgeisydd seneddol yn Ogwr yn 1950. Pellhaodd oddi wrthynt a phenderfynodd, pan ddaeth dyddiau'r Mudiad i ben, ymuno â'r Blaid Lafur.
Derbyniodd swydd cyfreithiwr yng nghwmni Morgan, Bruce a Nicholas, Porth a Phontypridd. Daeth i adnabod undebwyr llafur amlwg maes glo'r de, a gwahoddwyd ef i rannu llwyfan gydag Aneurin Bevan yn 1959, a daeth i gysylltiad hefyd gyda Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes a'r pwysicaf i gyd yn ei hanes, James Griffiths. Mabwysiadodd James Griffiths ef fel mab a'i gefnogi i ymgeisio am sedd i San Steffan. Ond cyn hynny gwahoddwyd ef gan Cledwyn Hughes a James Griffiths i baratoi memorandwm ar ddiwygio llywodraeth leol a lle'r cyngor etholedig yn y cynllun. Cyhoeddwyd y llyfryn Cyngor Canol i Gymru yn 1963. Roedd datganoli ar y gweill. Methodd Davies ag ennill enwebiad am seddau Gorllewin Abertawe a Meirionnydd (er siom iddo) ond cafodd gyfle i sefyll yn is-etholiad Caerfyrddin yng Ngorffennaf 1966. Gwelodd Plaid Cymru eu cyfle ac aethpwyd ati i wireddu eu gobeithion mewn ymgyrch gofiadwy, ac er syndod i bawb, cipiwyd y sedd gan Gwynfor Evans. Mynegodd Alwyn D. Rees deimlad pobl ym mhob plaid: 'Yr unig beth anffortunus ynglŷn â'r is-etholiad hwn oedd bod yn rhaid i Mr Gwilym Prys Davies golli er mwyn i Gwynfor ennill.' Ond ym mis Hydref 1966, cafodd Davies a'i bartneriaid waith pwysig i gasglu tystiolaeth ac i gynrychioli rhieni'r plant a fu farw yn nhrychineb Aber-fan yn y tribiwnlys.
Roedd Gwilym Prys Davies yn arloeswr yn y defnydd o'r Gymraeg yn y llysoedd, ac ar 8 Rhagfyr 1967 manteisiodd ar Ddeddf yr Iaith newydd i greu hanes trwy amddiffyn arweinwyr Cymdeithas yr Iaith yn Llys Ynadon Dinas Caerdydd yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Cafodd ei benodi yn Gadeirydd Bwrdd Ysbytai Cymru yn 1968 a gwnaeth waith enfawr i'r gwasanaeth iechyd gan frwydro am gyfiawnder i'r Gymraeg, ac anghytuno'n aml â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, George Thomas. Diddymwyd y Bwrdd yn 1974 ac yn yr un flwyddyn gwahoddwyd ef i fod yn gynghorwr arbennig am ddau ddiwrnod yr wythnos i John Morris a'r Swyddfa Gymreig. Ysgrifennodd Gwynfor Evans a chenedlaetholwyr eraill i'w longyfarch, a deuai gwahoddiadau cyson o etholaethau iddo annerch ar ddatganoli. Yn Ionawr 1976 daeth yn aelod o Bwyllgor Cymru dros y Cynulliad. Cyfarfu â John Mackintosh, Vernon Bogdanor a Richard Crossman i drafod goblygiadau datganoli a chymryd rhan allweddol yn ymgyrch Cymru dros y Cynulliad. Fel aelod o Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol y Gymuned Ewropeaidd ym Mrwsel gwnaeth les i'r Gymraeg trwy lwyddo i'w hargyhoeddi fod angen sefydlu Biwro Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop. Bu'n llais effeithiol dros sianel deledu i Gymru hefyd ar weithgor Silberry, ac roedd ganddo gryn lawer o brofiad ym myd teledu fel aelod o Bwyllgor Cymreig yr Awdurdod Teledu Annibynnol.
Fe'i gwnaed yn arglwydd am oes yn 1982, a'r adeg honno newidiodd ei enw i Gwilym Prys Prys-Davies. Ef oedd yr aelod cyntaf o Dŷ'r Arglwyddi i gymryd y llw yn Gymraeg. Yn Nhŷ'r Arglwyddi ysgwyddodd gyfrifoldeb mainc flaen yr Wrthblaid ar Gymru o 1987 i 1995, a Gogledd Iwerddon a hefyd Iechyd. Gydag Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi, yr Arglwydd Cledwyn Hughes ynghyd â'r Arglwydd Elystan Morgan, roedd yn rhan o dîm bychan ond pwerus. Cadwodd gysylltiad agos ag Iwerddon, gogledd a de, a gwyddai hanes y wlad ar flaenau ei fysedd.
Bu'r methiant i ennill pleidlais y Refferendwm ar 1 Mawrth 1979 yn siom ddirfawr iddo, ond gwrandawodd ar ei ffrind coleg, Jennie Eirian Davies, y dylid sefydlu corff parhaol i hyrwyddo'r iaith. Daeth gwrthwynebiad i'r bwriad gan Nicholas Edwards a'r Swyddfa Gymreig, a bu Gwilym Prys Davies yn gryn boendod iddynt yn y 1980au. Aeth ati i ystyried deddf newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg, a lluniodd bamffled ar y pwnc yn 1984. Bu'n eithriadol o brysur rhwng 1983 hyd 1987 yn cydweithio gyda Dafydd Wigley a charedigion eraill yr iaith. Daeth ychydig obaith, yn ei dyb ef, pan ddaeth Peter Walker yn lle Nicholas Edwards, i gydweithio gyda Wyn Roberts yn y Swyddfa Gymreig. Teimlodd yn anghysurus pan sefydlwyd Bwrdd di-statud yr Iaith Gymraeg a gyda'r mewnlifiad i'r fro Gymraeg. Galwodd sylw at yr argyfwng hwn weddill ei ddyddiau a sylwid ei fod yn wleidydd ac ymgyrchydd na ellid distewi ei ddadleuon. Croesawodd sefydlu Bwrdd yr Iaith statudol yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, a chadwodd gysylltiad agos â'r cadeiryddion, yr aelodau a'r swyddogion. Gweithiodd yn ddygn i gryfhau Mesur Addysg 1988 a thrwy ei ddycnwch enillodd ymddiriedaeth llu o Gymry amlwg fel y bardd R. S. Thomas, prif weithredwr Cyngor Sir Gwynedd, Ioan Bowen Rees a'r addysgwr Dr Derec Llwyd Morgan.
Manteisiodd Dr Meredydd Evans, Cledwyn Hughes, John Morris a Ken Hopkins arno i baratoi dogfennau pwysig i hwyluso'r ymgyrchoedd dros Gymru, a defnyddiodd ei allu cyfreithiol i gynorthwyo Cymdeithas yr Iaith, Cronfa Glyndŵr, Cyngor Ysgolion Sul Cymru, Cyhoeddiadau Modern Cymreig (ef oedd y cadeirydd cyntaf) ac unigolion fel Eileen a Trefor Beasley a nifer fawr o wleidyddion Llafur. Gwnaeth wasanaeth gwerthfawr yn Nhŷ'r Arglwyddi ar fesurau'n ymwneud â Chymru, a bu'n aelod amlwg yn San Steffan o'r Cyd-Bwyllgor ar Offerynnau Statudol. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Aelwyd a Chymdeithas Genedlaethol y Meysydd Chwarae (NPFA) yng Nghymru a sefydlwyd yn 1999.
Daliodd yn gadarn ar argyfwng y fro Gymraeg, ac arweiniodd ddirprwyaeth ym mis Tachwedd 2001 i gyfarfod â dau weinidog o'r Cynulliad ar y mater. Siomedig fu'r ymateb, ond gwelwyd y diwrnod hwnnw fod tân yn dal yn ei galon dros y Gymru Gymraeg. Iddo ef, deddf syml oedd ei angen, yn cyfyngu'r farchnad dai a ffrwyno'r prisiau.
Cyhoeddodd hunangofiant, Llafur y Blynyddoedd, yn 1990, Troi Breuddwyd yn Ffaith (Darlith yr Archif Wleidyddol Gymreig, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 1999), a Cynhaeaf Hanner Canrif: Gwleidyddiaeth Gymreig 1945-2005 (2008). Yn 2002 llwyddodd i drefnu cyfieithiad o gyfrol ei dad, Hanes plwyf Llanegryn, i'r Saesneg a threfnu cyfarfod ym mro ei febyd i'w lansio.
Drylliwyd ei fywyd yn Chwefror 2010 gan farwolaeth ei briod Llinos. Profodd unigrwydd mawr yn y cartref yn Nhon-teg, a symudodd at ei ferch hynaf Catrin Waugh a'i theulu yn Dulwich. Ymddeolodd o Dŷ'r Arglwyddi ym Mai 2015. Bu Gwilym Prys Davies farw ar 28 Mawrth 2017, a chynhaliwyd ei angladd yn Eglwys y Santes Fair, Llanegryn ar 8 Ebrill 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 2023-02-09
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.