THOMAS, THOMAS GEORGE, Is-Iarll Tonypandy (1909-1997), gwleidydd Llafur a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin

Enw: Thomas George Thomas
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1997
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar 29 Ionawr 1909 ym Mhort Talbot, yn fab i Zachariah Thomas (1881-1925), glöwr a brodor o Gaerfyrddin, ac Emma Jane (1881-1925), merch John Tilbury o Lanfield, swydd Hampshire. Roedd ei dad yn feddwyn a adawodd ei wraig, gan ei gadael i fagu pump o blant ar ei phen ei hun. Magwyd George Thomas gan ei fam ym mhentref Trealaw yn groes i'r afon o dref Tonypandy. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Tonypandy, 1920-27, ac wedyn daeth yn athro heb drwydded yn Dagenham cyn dilyn cwrs o hyfforddiant ar gyfer athrawon ym Mhrifysgol Southampton, 1929-31.

Ymunodd â'r Blaid Lafur yn llanc ifanc ym 1924 a thraddododd ei araith wleidyddol gyntaf pan oedd yn ddeunaw oed, i Gynghrair Cydweithredol Merched Tonypandy. Daeth hefyd yn aelod o Blaid Gydweithredol Caerdydd. Sicrhaodd swydd fel ysgolfeistr ifanc yn Ysgol Rockingham Street, yr Elephant and Castle, Lambeth, Llundain. Yn ystod y cyfnod hwn treuliodd ei oriau hamdden yn mynychu Oriel y Dieithriaid yn y Tŷ Cyffredin yn gwrando'n awchus ar y dadleuon yn y Tŷ ar adeg dyngedfennol yn hanes y wlad - argyfyngau economaidd a gwleidyddol haf 1931 pan oedd dirwasgiad llym y cyfnod rhwng y rhyfeloedd yn ei anterth. Gwnaeth awyrgylch arbennig a gwychder Palas San Steffan argraff enfawr arno a barodd ar hyd ei oes. Ym 1936 arweiniodd George Thomas daith y newynog o Donypandy i Gaerdydd.

Hefyd, yn y Neuadd Ganol, San Steffan, datblygodd ei Fethodistiaeth ac yn fuan daeth yn bregethwr lleyg gyda'r Methodistiaid. Gwasanaethodd yn llywydd Mudiad Cenedlaethol y Brawdoliaeth ym 1955 ac yn is-lywydd y Gynhadledd Fethodistaidd ym 1960-61. Bu ei ail yrfa fel pregethwr lleyg gyda'r Methodistiaid, gyrfa a ymestynnodd am ddeugain mlynedd, yn gyfrifol am ei arwain i bron pob tref yng Nghymru a hyd yn oed i'r Unol Daleithiau.

Aeth George Thomas i mewn i fywyd gwleidyddol drwy Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Cafwyd ef yn anghymwys i wasanaethu yn y fyddin yn ystod yr ail ryfel byd a bu'n blismon gwirfoddol gan esgyn i statws rhingyll. Etholwyd ef i bwyllgor gwaith Undeb Cenedlaethol yr Athrawon ym 1942, gan barhau yn y swydd tan 1945. Roedd hefyd yn llywydd Cymdeithas Athrawon Caerdydd. Ymladdodd etholaeth Canol Caerdydd yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 ac aeth i'r senedd yn dilyn buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur y flwyddyn honno. Yn ei araith gyntaf cefnogodd ddiwygio cyfraith tai ar brydles a oedd yn destun cwynion mawr yng Nghymru. Parhaodd i gynrychioli Canol Caerdydd tan 1950 ac yna Gorllewin Caerdydd o 1950 tan 1983.

Yn wreiddiol yn ystod ei yrfa wleidyddol edrychid arno fel un ar yr adain chwith. Thomas oedd cadeirydd y Blaid Seneddol Llafur Gymreig, 1950-51, ac ef a etholwyd yn gadeirydd cyntaf ar yr Uwch-bwyllgor Cymreig pan y'i ffurfiwyd ym 1951. Roedd yn ysgrifennydd preifat seneddol i'r Arglwydd Ogmore, y gweinidog dros hedfan masnachol, Gorffennaf-Tachwedd 1951, ac aelod o Banel Cadeiryddion y Llefarydd o fewn Tŷ'r Cyffredin, 1951-64. Ef oedd cadeirydd y Blaid Seneddol Gymreig, 1958-59. Gwrthwynebodd ailgyflwyno gorfodaeth filwrol ac, fel un ar yr asgell chwith o fewn y Blaid Lafur, ym 1955 pleidleisiodd dros Aneurin Bevan (yn hytrach na Hugh Gaitskell) yn arweinydd y blaid. Ym 1960 ef oedd awdur y gyfrol The Christian Heritage in Politics.

Bu'n daer ei wrthwynebiad i ddiwygio'r cyfreithiau'n ymwneud ag yfed ar y Sul ac ymgyrchodd yn frwd dros ddiwygio prydlesau, pwnc llosg yn ne Cymru gan fod llawer o dai'r glowyr mewn perygl o fynd yn ôl i ddwylo'r perchnogion glo. Daeth llwyddiant o'r diwedd gyda deddfwriaeth a phasiwyd ym 1967. Teimlai Thomas mor gryf ynghylch yr achos nes iddo gymryd stondin ym marchnad Caerdydd ar un adeg er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r achos. Roedd posibilrwydd cryf y byddai Thomas, a adwaenid erbyn hyn fel cadeirydd profiadol ac effeithiol, yn dod yn ddirprwy llefarydd y Tŷ Cyffredin pan ddaeth Harold Wilson yn Brifweinidog yn Hydref 1964. Ond yn lle hynny penodwyd ef yn weinidog iau o fewn y Swyddfa Gartref, Hydref 1964-Ebrill 1966, ac yna o fewn y Swyddfa Gymreig, Ebrill 1966-Ionawr 1967 (pan ddaeth i amlygrwydd am ymweld â lleoliad trychineb Aberfan ym mis Hydref 1966), ac yna o fewn y Swyddfa Dramor, Ionawr 1967-Ebrill 1968.

Gwasanaethodd yn drydydd Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Ebrill 1968-Mehefin 1970, gan lywyddu gyda chryn falchder dros seremoni arwisgo Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yng Ngorffennaf 1969. Yn y cyswllt hwn cydweithiodd yn hynod ddedwydd gyda Dug Norfolk, Iarll Farsial Lloegr. Roedd Thomas yn amlwg wrth ei fodd gyda'r holl basiantri. Roedd yn ffyrnig ei elyniaeth i'r adfywiad yng nghenedlaetholdeb Cymreig a oedd mor amlwg yn ystod y blynyddoedd hyn (siaradodd yn ei erbyn yn gyson heb flewyn ar dafod), a mynegodd amheuon huawdl ynghylch tuedd y Farchnad Gyffredin i ehangu. Thomas oedd prif lefarydd yr wrthblaid ar faterion Cymreig, 1970-74. Daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ym 1968 a dyfarnwyd iddo Ryddid Bwrdeistref y Rhondda ym 1970.

Roedd Thomas yn llawn disgwyl cael ei ailbenodi'n Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru pan ddychwelwyd y Blaid Lafur i lywodraeth adeg streic y glowyr yn Chwefror 1974 (ac efallai i Harold Wilson awgrymu iddo fod y swydd o fewn ei afael). Ond, ac yntau'n ymwybodol o agwedd Thomas at genedlaetholdeb Cymreig, dewisodd Harold Wilson yn ei le John Morris, yr AS dros Aberafan ers 1959, a ffigwr llawer mwy cymedrol a chyfaddawdol. Cafodd George Thomas ergyd fawr arall ym 1972 pan fu farw ei 'Mam' hoff, hithau hefyd yn ffigwr o gryn amlygrwydd ledled de Cymru. Roedd wedi sôn amdani'n rheolaidd mewn sgyrsiau, areithiau ac anerchiadau etholiad. Bu'r profiadau chwerw hyn yn gyfrifol am ei arwain i ystyried o ddifrif ymddeol o'r senedd. Ond roedd Harold Wilson yn awyddus i annog ei hen gyfaill a'i gefnogwr, a chynigiodd iddo'r swydd o ddirprwy lefarydd y Tŷ Cyffredin a Chadeirydd Pwyllgor Ffyrdd a Moddau.

Yn Chwefror 1976 dilynodd Selwyn Lloyd yn Llefarydd y Tŷ Cyffredin. Yr oedd George Thomas yn ddewis delfrydol ar gyfer y swyddi hyn ar gyfrif ei bersonoliaeth a'i brofiad. Yn groes i'r disgwyl, gwnaeth ymdrech arbennig i ymddwyn yn deg ac yn ddiduedd tuag at Aelodau Seneddol o bob plaid o fewn y Tŷ. Daeth fwyfwy i'r amlwg ac yn wir yn fwy poblogaidd fel canlyniad i ddatblygiad darlledu gweithgareddau'r Tŷ ar y radio o Ebrill 1978 (ac yn ddiweddarach ar y teledu) - er, yn eironig, yn wreiddiol roedd Thomas wedi mynegi ei wrthwynebiad i ddarlledu felly ar y radio. Daeth yn seren y cyfryngau bron dros nos oherwydd ei hiwmor sych, ei hynawsedd naturiol, a'i hoffter o bobl a dulliau'r senedd o weithredu.

Roedd yng nghadair y Llefarydd ar adeg helbulus, anghyffredin o anystywallt yn hanes San Steffan a brofodd effeithiau llawn Mrs Thatcher fel arweinydd radicalaidd adain-dde y Blaid Geidwadol, prif weinidogaeth anodd James Callaghan, cytundeb 'Lib-Lab' 1977-78 a ffurfio'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol (a dorrodd i ffwrdd o'r Blaid Lafur) ym 1981. Drwy'r adeg roedd George Thomas yn benderfynol o amddiffyn hawliau'r Tŷ Cyffredin, agwedd a greodd dyndra rhyngddo ef a'i gyfeillion gynt o fewn y Blaid Lafur, yn fwyaf arbennig Jim Callaghan, ei gyd-aelod dros ddinas Caerdydd. Roedd ei elynion niferus yn fythol barod i honni iddo ddatblygu'n ormod o ffigwr y sefydliad, a bod ei berthynas â Mrs Thatcher yn rhy gyfeillgar, hyd yn oed ar ôl iddi ddod yn Brifweinidog ym mis Mai 1979. Daeth y teimladau hyn i'r brig adeg Rhyfel y Falklands ym 1982. Roedd beirniadaeth bellach oherwydd hoffter amlwg George Thomas o addurniadau'r frenhiniaeth ac aelodau unigol o'r Teulu Brenhinol, yn fwyaf arbennig y Frenhines Elizabeth, y Fam Frenhines, a Thywysog a Thywysoges Cymru. Roedd yn amlwg ei fod wrth ei fodd pan wahoddwyd ef i ddarllen y wers ym mhriodas Tywysog Cymru a'r Fonesig Diana Spencer yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul yng Ngorffennaf 1981. At ei gilydd, fodd bynnag, roedd yn boblogaidd drwy'r wlad ac ym marn rhai gwleidyddion gwnaeth Thomas lawer i adfer awdurdod ac urddas swydd y Llefarydd.

Roedd amryw'n teimlo'n flin pan benderfynodd George Thomas i ymddeol o'r swydd adeg etholiad cyffredinol 1983, er iddo gytuno i dderbyn iarllaeth etifeddol gan Mrs Thatcher. Dyma un o'r adegau olaf y crëwyd iarllaeth o'r fath. Daeth Is-iarll Tonypandy wedyn yn draws-feinciwr blaenllaw o fewn Tŷ'r Arglwyddi, ac enillodd gydymdeimlad cyhoeddus eang oherwydd ei frwydr arwrol yn erbyn cancr y gwddw a ledodd i'r stumog yn ddiweddarach. Gwasanaethodd yn gadeirydd y Cartref Plant Cenedlaethol, yn llywydd Ymddiriedolaeth y Galon ym Mhrydain; cefnogodd nifer fawr o elusennau ac achosion da, a daliodd ati i bregethu, darlithio a chyhoeddi.

Pan gyhoeddwyd ei atgofion ym 1985, crëwyd cryn anniddigrwydd, yn enwedig oherwydd ei gysylltiad â Jim Callaghan a Michael Foot, arweinyddion olynol y Blaid Lafur a chyd-aelodau seneddol o dde Cymru, a hefyd â chydweithwyr seneddol eraill fel Cledwyn Hughes. Roedd ei gyfeiriadau atynt yn ei atgofion yn llai na charedig. Ym 1986 cyhoeddodd y gyfrol lawer llai dadleuol My Wales. Roedd hefyd yn gadeirydd Banc Cymru, 1989-91, corff a sefydlwyd gan ei gyfaill mynwesol Syr Julian Hodge. Teithiodd yn helaeth hefyd, gan dderbyn cydnabyddiaeth ac anrhydeddau o bob rhan o'r byd. Derbyniodd nifer fawr o raddau er anrhydedd gan Brifysgolion ym Mhrydain Fawr a rhyddfreiniau gan awdurdodau lleol.

Er na wnaeth erioed dorri i ffwrdd oddi wrth y Blaid Lafur yn swyddogol, daeth yn amlwg mai ychydig iawn o barch oedd ganddo at ei gweithgareddau a'i harweinwyr. Daliodd i wrthwynebu'r syniad o integreiddio Ewropeaidd. Yn ystod misoedd olaf ei fywyd hir, roedd yn chwyrn ei elyniaeth i'r egwyddor o arian sengl Ewropeaidd (yr agwedd hon a barodd iddo roi rhywfaint o gefnogaeth i Blaid Refferendwm Syr James Goldsmith). Fel ym 1979, yn unol â'r disgwyl, gwrthwynebodd ddatganoli adeg ymgyrch refferendwm 1997, gan dderbyn swydd llywydd yr Ymgyrch yn erbyn Cynulliad i Gymru, ac, yn wir, bu farw ar 23 Medi 1997, pedwar diwrnod yn unig ar ôl y bleidlais gadarnhaol hynod agos. Amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Thornhill, Caerdydd. Treuliodd nifer o flynyddoedd yn brwydro yn erbyn cancr, ond daliodd ati i gynnal ei weithgareddau cyhoeddus tan ychydig iawn cyn ei farw, a pharhaodd yn siriol ac yn weithgar at ei gilydd tan ddiwedd ei oes. Mae casgliad mawr o'i bapurau yng ngofal Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Er iddo ddyweddïo ar ddau achlysur, ni fu George Thomas fyth yn briod. Fel canlyniad adeg ei farwolaeth daeth yr iarllaeth i ben.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.