HODGE, Syr JULIAN STEPHEN ALFRED (1904 - 2004), cyllidwr

Enw: Julian Stephen Alfred Hodge
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 2004
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyllidwr
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian
Awdur: Rhys David

Ganwyd Julian Hodge ar 15 Hydref 1904 yn Camberwell, Llundain, yr ail o saith o blant Alfred Hodge, plymwr a thrydanwr o Sais, a'i wraig Jane Emily (g. Simcock, m. 1946) o deulu dosbarth canol o gyfreithwyr a newyddiadurwyr gyda chysylltiadau ag Iwerddon. Roedd ganddo frawd hŷn, Donald, a brodyr a chwiorydd iau, Leonard, Eileen, John, Gerard, a Teresa. Symudodd y teulu i Gymru pan oedd Julian yn bedair oed gan ymgartrefu mewn tŷ teras ym Mhontllanfraith, Gwent, lle tybiai ei dad y byddai cyfleoedd da am waith plymo.

Symudodd ei dad yn ôl i Lundain pan oedd Julian yn ddeunaw oed, gan ei adael yn safle pater familias i'w frodyr a chwiorydd iau, a dyna darddiad y gwydnwch, y penderfyniad a'r annibyniaeth a amlygodd Hodge trwy gydol ei yrfa fusnes. Rhoddodd ei fam y sbardun cynnar i lwyddiant trwy annog iddo ddarllen clasuron a barddoniaeth. Wedi iddo adael Ysgol Lewis, Pengam yn dair ar ddeg oed a gweithio am gyfnod byr yn siop fferyllydd ei ewythr yn Llundain, ymunodd â'r Great Western Railway fel clerc yn 1920. Roedd ei frawd hŷn eisoes wedi dechrau gweithio fel glöwr.

Llanwodd ei oriau rhydd trwy astudio cyfrifeg, gan ddianc oddi wrth ei gartref teuluol cyfyng mewn stafell sbâr a ddarparwyd gan Gomiwnydd lleol a'i wraig, Tom ac Edith Evans. Ymgymhwysodd fel cyfrifydd yn 1930 trwy gymorth cyrsiau gohebu a dosbarthiadau nos yng Ngholeg Technegol Caerdydd, a dechrau cynghori busnesau lleol ac unigolion ar dreth a materion ariannol eraill, tra'n dal yn ei swydd gyda GWR, a mynd ati wedyn i guro drysau yn gwerthu yswiriant bywyd fel ffordd o hysbysebu ei wasanaethau cyfrifydd ymgynghorol llawrydd, a'r cwbl yn ei amser sbâr.

Cylch ymledol o weithgareddau - yn hytrach na dilyniant o'r naill i'r llall - a fyddai'n nodweddu dull busnes Hodge am y rhan fwyaf o'i fywyd, wrth iddo adeiladu ystod cymhleth o gannoedd o gwmnïau cydgysylltiedig, oll wedi eu gwreiddio mewn cwmni meistr, Hodge Group, a hwnnw yn ei dro yn is-gwmni o'i gwmni meistr teuluol, Carlyle Trust, a neb ond Hodge ei hun yn llwyr ddeall yr holl ymgangheniad.

Araf a threfnus oedd y gwaith o adeiladu'r ymherodraeth hon, ac ni adawodd Hodge ei swydd gyda GWR tan 1941 ac yntau'n 37 oed. Roedd wedi cyfuno cyfrifoldebau cynyddol yn rheoli'r rheilffyrdd yn Sir Fynwy gyda datblygiad practis sylweddol â sawl cangen, gan ddod yn gyfrifydd i gadwyn o sinemâu lleol y brodyr Withers, yn archwilydd i gwmni metalau ac arfau rhyfel Currans yng Nghaerdydd, ac yn arfer pŵer atwrnai dros y teulu Carpanini, perchnogion tai bwyta yng Nghaerdydd, yn ystod eu caethiwedigaeth fel estroniaid yn yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl iddo ymddiswyddo o'r GWR sefydlodd bencadlys ei fusnes ym Mhlas Windsor, Caerdydd.

Yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel symudodd Hodge i mewn i asiantaeth morgeisi ac yswiriant cyn sefydlu ei gwmni dal diwydiannol ei hun, Gwent & West of England Enterprises, a ddefnyddiwyd yn fuan yn gyfrwng i brynu modurdai lleol, ac wedyn i achub cwmni hurbryniant o Gasnewydd, Anglo-Auto Finance. Cafwyd delwriaethau wedyn dros y prif frandiau moduron, a Ford yn fwyaf nodedig - ateg defnyddiol i ochr hurbryniant ei fusnes. Roedd ymherodraeth fusnes fertigol yn ymffurfio, gan ymestyn hyd yn oed i gynhyrchu moduron pan brynodd Hodge Reliant Motors, gwneuthurwyr y ceir tair olwyn hynod a fu'n gyffredin ers talwm ar ffyrdd Prydain. Yr atyniad i Hodge, a ddaeth drwy'r pryniant hwn yn ail wneuthurwr ceir mwyaf mewn perchnogaeth Brydeinig, oedd y delwriaethau a'r cyfleoedd hurbryniant a oedd yn rhan o'r pecyn.

A'i fywyd mor brysur nid yw'n syndod, efallai, na fu iddo briodi tan 1951, ac yntau'n 47 oed, pan briododd ysgrifenyddes yn ei swyddfa yng Nghaerdydd, Moira Thomas (g. 1924) o Faes-y-Cwmmer, nid nepell o Bontllanfraith. Ganwyd iddynt un ferch a dau fab, Jane (g. 1953), Robert (g. 1955) a Jonathan (g. 1958). Bu'r teulu'n byw yn eu tro mewn dau o dai mwyaf nodedig Cymru, White Lodge ym Mhenylan a Tŷ Gwyn yn Llys-faen, cyn-gartref James Turner, adeiladwr Neuadd y Ddinas ac adeiladau eraill ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Er ei fod yn ffigwr amlwg mewn cylchoedd busnes yn ne Cymru erbyn y 1950au, daeth Hodge i sylw ehangach, fel amddiffynnwr cyfranddalwyr bychain, trwy ei 'Investors' Protection Facilities'. Yn amgylchedd llawer llai rheoledig y cyfnod credai Hodge nad oedd cyfarwyddwyr cwmnïau yn sicrhau bod buddiannau'r holl gyfranddalwyr yn cael eu hamddiffyn pan fyddid yn cymryd busnes drosodd, gan roi'r flaenoriaeth i'w buddiannau eu hunain. Trwy gyhoeddi cylchlythyron beirniadol i gyfranddalwyr llwyddodd Hodge i ennill brwydrau yn erbyn Ely Breweries a Claymore Shipping yng Nghaerdydd, ac yn yr achos olaf bu'n rhaid iddo herio'r dociwr blaenllaw a chawr y maes chwarae, cyn-gapten tîm criced Morgannwg a chap Lloegr, J. C. Clay.

Ar lwyfan ehangach Prydain, heriodd gyfarwyddwyr Rootes Motors, a oedd yn ceisio cymryd drosodd eu cystadleuydd Singer Motors; Massey-Harris Ferguson, y gwneuthurwyr tractoriaid o Ganada a oedd yn cynnig am Standard Motors; a Beecham, a oedd yn ceisio prynu'r cwmni diodydd meddal llwyddiannus o'r Porth, Corona. Bu'n rhaid i bob un o'r rhain wella eu cynigion i sicrhau'r pris gorau am gyfranddaliadau'r cwmnïau targed. Daeth Hodge yn arwr i gyfranddalwyr bychain, a elwodd o ryw £20 miliwn yn sgil yr ymgyrchoedd hyn, a derbyniodd filoedd o lythyron gwerthfawrogol o bob rhan o'r DU.

Roedd yr ymgais i greu sefydliadau cyllid Cymreig yn dal i fagu nerth. Ychwanegwyd bancio masnachol - Julian S. Hodge & Co. - i'r portffolio yn 1960. Daeth Anglo Auto Finance a Gwent & West of England Enterprises i'r farchnad mewn cychwyniadau cyhoeddus yn 1960 a 1961, a Hodge yn brif gyfranddaliwr. Mudiad newydd yr unedau buddsoddi oedd y peth nesaf i ddal llygad Hodge, rhywbeth a gydweddai'n dda â'i ddiddordeb blaenorol mewn cefnogi'r buddsoddwr bychan nad oedd ganddo fynediad fel arall i'r farchnad gyfranddaliadau. Lansiwyd chwe chwmni buddsoddi, peth prin y tu allan i Lundain, yng Nghaerdydd gan gychwyn yn 1963 gyda'r Welsh Dragon Trust, ac eraill yn dilyn - Education, Motorways, High Income - gydag enwau deniadol yn nodweddiadol o'r oes newydd o foderneiddio a addawyd gan Lywodraeth Lafur Harold Wilson a ddaeth i rym yn 1964. Cynigiwyd benthyciadau i ddarpar brynwyr.

Serch hynny, y datblygiadau hyn yn y 1960au oedd uchafbwynt ymdrechion Hodge i dorri mold cyllid Prydain trwy sefydlu Caerdydd yn ganolfan gyllid amgen yn cynnig ystod o wasanaethau mewn yswiriant, bancio masnachol, hurbryniant, unedau buddsoddi a chynhyrchion ariannol eraill a fuasai cynt yn gyfyngedig i Lundain ac i raddau llawer llai i Gaeredin. Bu'n rhaid i Hodge ymladd ar bob cam yn erbyn buddiannau sefydlog dirmygus o ymdrechion y coegyn o Gymru, ac erbyn y 1970au, wrth i raddfa gweithredu cyllid cenedlaethol a rhyngwladol gynyddu, ni oedd ei ddull unigolyddol yn gweithio cystal. Roedd cyfnod olaf gyrfa Hodge ar gychwyn.

Gwerthwyd yr unedau buddsoddi yn 1970 i First Finsbury Trust, is-gwmni o Vehicle & General Insurance, a fyddai'n ddiweddarach yn llunio nodyn cywilyddus yn hanes cyllid y DU. Os amlygodd Hodge amseru deheuig wrth dynnu allan o unedau buddsoddi ar yr union adeg yr oedd y diwydiant yn orchwyddedig ac yn barod am gwymp, gwell byth oedd ei amseru wrth waredu buddiannau hurbryniant y grŵp. Roedd Chartered, banc tramor Prydeinig, eisoes wedi cymryd cyfran 22 y cant yn Anglo Auto Finance yn 1968 a phrynwyd gweddill y cyfranddaliadau gan Standard Chartered, fel yr oedd erbyn hynny, yn 1973, gan lofnodi'r dogfennau ddeuddydd cyn i fethiant London & County Securities achosi'r argyfwng bancio eilradd.

Cafodd Hodge wared hefyd ar ei feddiannau sinemâu ar draws de Cymru a de-orllewin Lloegr, a gwerthwyd y siop adrannol James Howell & Co yng Nghaerdydd, a brynasai Hodge ychydig flynyddoedd ynghynt ar ôl iddi fynd i feddiant grŵp Seisnig o Bournemouth, i House of Fraser yn 1972. Cymerwyd Reliant drosodd gan J. F. Nash Securities.

Erbyn hynny roedd breuddwyd oes Hodge, sef creu Banc Cymru i lenwi'r bwlch a welai o ran cyllid i fusnesau bach yng Nghymru, wedi dechrau mynd â'i bryd. Gyda'i bersonoliaeth rymus a'i gyfaredd perswadiol defnyddiodd Hodge esiamplau wedi eu tynnu o'i brofiad banciwr masnachol yn benthyca cyllid pontio er mwyn darbwyllo amheuwyr fod y banciau prif ffrwd yn rhy gyndyn i ddarparu cyfalaf menter. Maentumiodd fod hon yn swyddogaeth y gallai Banc Cymru ei chyflawni gyda chysylltiadau lleol gwell. Man cychwyn ei weledigaeth oedd gweld papurau banc o Fanc Casnewydd yn ystod y rhyfel. Byddai'n dangos papurau o Fanc y Ddafad Ddu Aberystwyth a sefydliadau cynnar eraill yng Nghymru a ddosbarthai arian papur wrth iddo amlinellu'i syniadau'n frwd i ymwelwyr â Hodge House, y pencadlys pedwar llawr ar ddeg a adeiladodd iddo'i hun ar Ffordd Casnewydd.

Gwelai fod angen cymorth allanol a llwyddodd i ennill cefnogaeth y First National Bank, Chicago. Sefydlwyd ei fanc yn 1971, gyda bwrdd yn llawn o enwau rhai o fawrion Cymru'r cyfnod, gan gynnwys nid yn unig James Callaghan, cyn-Ganghellor y Trysorlys ac A.S. dros yr ardal lle roedd adeilad busnes Hodge, a George Thomas, cyn-Ysgrifenydd Gwladol dros Gymru yn yr etholaeth nesaf, ond hefyd Syr Goronwy Daniel, Prifathro Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth a chyn-Ysgrifennydd Parhaol, Syr Cennydd Traherne, KG, Arglwydd Raglaw Morgannwg, yr Arglwydd Harlech, cyn-lysgennad y DU i'r Unol Daleithiau, a Chwnsler y Frenhines blaenaf Cymru, Alun Talfan Davies.

Serch hynny, adlewyrchai enw'r banc amharodrwydd parhaus o du Llundain i ganiatáu i fentrau yn y 'taleithiau' dorri'n rhydd, gan i'r awdurdodau fynnu bod y gair 'Commercial' yn cael ei ychwanegu i'r teitl gwreiddiol. Daeth y banc trwy'r argyfwng bancio eilradd yn ddianaf, ond wedyn bu'n rhaid ymladd brwydr arall, yn llwyddiannus yn y pen draw, i wrthsefyll colli hyd yn y gair 'bank', gan fod y rheoleiddwyr yn ei ystyried yn un o leiafrif bach o sefydliadau nad oeddent yn deilwng o'u cynnwys yng ngharfan uchaf y rhai a oedd â'r hawl i'w galw eu hunain yn 'bank' ac a ddylai felly arddel disgrifiad llai aruchel.

Wedi cyfnod o weithredu llwyddiannus a diddrama, diflannodd Banc Masnachol Cymru, fel sawl un arall o fusnesau Hodge, trwy ei gymryd drosodd gan y National Bank of Chicago yn gyntaf, ac wedyn Banc yr Alban, gan ollwng ei enw a dirwyn y busnes i ben yn dawel bach. Ni chadarnhawyd yr honiad a oedd yn sail i'w sefydlu, sef bod diffyg cyllid yn rhwystr i dwf busnesau Cymru. Ni chafwyd selogion newydd i gynnal diddordeb ac angerdd Hodge.

Trwy ei gysylltiadau gwleidyddol ac yn y Ddinas roedd Hodge bellach yn symud mewn cylchoedd uchel, gan fynychu cyfarfodydd yr International Monetary Fund yn Rio de Janeiro a Washington ac yn ymgymysgu â chewri'r byd cyllid. Bu ei rwydweithio'n fodd iddo ddod â nifer o fawrion i Gaerdydd rhwng 1970 a 1976 i roi Darlithoedd Coffa Jane Hodge er cof am ei fam, megis David Rockefeller, cadeirydd Banc Chase Manhattan, Syr Leslie O'Brien, llywodraethwr Banc Lloegr, Pierre-Paul Schweitzer, rheolwr-gyfarwyddwr yr International Monetary Fund, y Tywysog Philip, a Sheikh Ahmed Zaki Yamani, gweinidog olew Saudi Arabia a chwaraewr allweddol yn yr Organisation of Petroleum Exporting Countries (Opec) adeg argyfwng ynni'r 1970au.

Yn gynharach, yn ystod ei gyfnod mwyaf gweithgar mewn busnes yn y 1950au a'r 1960au roedd wedi gwneud cyfeillion arhosol, gan gynnwys yr Arglwydd Marcus Sieff, cadeirydd Marks & Spencer, a gynorthwyodd Hodge i droi grŵp popty Avana rownd gyda chontract am ei gacenni, Syr Isaac Wolfson, pennaeth y grŵp manwerthu, cynhyrchu a chyllid, Great Universal Stores, y bu ei sefydliad yn batrwm ar gyfer Ymddiriedolaeth Jane Hodge gan Hodge ei hun, a Syr Siegmund Warburg, y banciwr masnachol tu ôl i S. G. Warburg.

Ei ddiddordeb mawr arall yn y cyfnod diweddarach hwn oedd yr elusen a sefydlodd i anrhydeddu'r fam a anogodd ei astudrwydd cynnar ac a ddaeth i ben â magu saith o blant mewn amgylchiadau anodd yn bell o'i chynefin. Lansiwyd yr elusen yn 1962, un mlynedd ar bymtheg wedi ei marwolaeth, gyda gwaddoliad cychwynnol o £2.5 miliwn, a'i chenadwri oedd cefnogi astudiaethau meddygol a llawfeddygol, yn enwedig ar gancr, polio, twbercwlosis, ac afiechydon sy'n effeithio ar blant, a hyrwyddo addysg a chrefydd. Darparwyd ei chyllid parhaus trwy ddifidendau o fusnes Hodge ac yn 2022 roedd yn berchen ar 79 y cant o'r hyn a oedd yn weddill o Grŵp Hodge. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Syr Julian Hodge ar wahân i reoli rhoddion i'w achosion elusennol ef a'i wraig. Rhoddodd Hodge symiau sylweddol o arian i gynorthwyo'i ddewis elusennau, nifer ohonynt yn gefnogol i'r Eglwys Gatholig yr oedd yntau'n aelod selog ohoni.

Un testun siom iddo fyddai'r derbyniad negyddol a gafwyd i'w gynllun am eglwys gadeiriol Gatholig newydd ym Mharc Bute Caerdydd, er iddo gynnig cyfraniad o £3 miliwn. Roedd gwrthwynebiad dinesig i'r syniad o dresmasu ar rodd Bute i'r ddinas, er gwaethaf awgrym bod syniad tebyg mewn golwg gan deulu Catholig Bute eu hunain, ond roedd hefyd amheuon yn yr hierarchiaeth Gatholig a oedd angen eglwys newydd gostus ei chynnal pan oedd tair eglwys fawr yn y ddinas yn barod, ac un ohonynt, Eglwys Dewi Sant yn Stryd Siarlys, eisoes wedi ei dynodi'n gadeirlan fetropolitan. Serch hynny, gwobrwywyd ei ymroddiad i'w ffydd trwy ei urddo'n farchog gan y Pab.

Roedd Hodge yn ddyn a ddenai glod a sen yr un faint â'i gilydd bron. Disgrifiwyd ef gan ei gyfaill mawr, cyn-Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, George Thomas, fel 'a man to be honoured and loved' a'i 'extraordinary flair in financial matters was matched by a splendid integrity and by unfailing compassion for those less fortunate than he, qualities rooted in his rock-like Christian faith'. I'r cylchgrawn dychanol Private Eye, Hodge oedd 'the usurer of the Valleys', llysenw gafaelgar a lynodd yn annheg.

Wrth iddo godi o fod yn gynghorydd busnes lleol ac amddiffynnwr cynilwyr bychain i amlfiliwnydd o gyllidwr a gymysgai â mawrion y byd daeth Julian Hodge yn destun cenfigen a gelyniaeth. Ond mae'n gwestiwn a haeddai'r anghlod a'r pardduo hyd yn oed a ddioddefodd am ei ymdrechion, sydd wedi niweidio ei enw yn y tymor hir. Nid oedd yr awdurdodau cyllid na'i gystadleuwyr yn Ninas Llundain yn hoff o'r coegyn ymhongar yn ceisio sefydlu busnesau yn eu priod faes yng Nghaerdydd daleithiol na'r dulliau arloesol a ddyfeisiwyd gan ei feddwl chwim. Dewisodd rhannau o'r wasg a beirniaid unigol ganolbwyntio ar yr hyn a ystyrient yn gyfraddau llog uchel a godwyd gan ei is-gwmnïau hurbryniant a benthyciadau, ei ymhel ag ail forgeisi, a'r blaengaeadau a ddaeth yn eu sgil weithiau, a'r defnydd a wnaeth hyrwyddwyr cynlluniau pyramid heb gyswllt â Hodge o'r arian a fenthycwyd gan ei gwmnïau. Anwybyddwyd gweddill ei gyfraniad i fywyd economaidd Cymru.

Roedd Julian Hodge wedi dechrau ei fywyd yn gymharol dlawd, ac fel llawer yn y Cymoedd ar y pryd bu'n rhaid iddo hyd yn oed droi at hel glo o'r tipiau yn ystod blynyddoedd llwm y Rhyfel Byd Cyntaf. Trwy waith caled, astudio cyson, ac ymroddiad i hunan-wellhau cipiodd y cyfleoedd i wneud arian iddo'i hun ac i eraill a daeth yn un o ddynion mwyaf adnabyddus Cymru, gan ennill anrhydeddau a graddau oddi wrth nifer o sefydliadau, gan gynnwys yn 1970 Marchog Gwyryf. Gwasanaethodd yn Drysorydd Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST) 1968-76 cyn dod yn Llywydd 1981-85. Fe'i gwnaed yn Ddoethur y Gyfraith (LLD) gan Brifysgol Cymru a chafodd raddau anrhydeddus eraill wedi iddo waddoli cadeiriau mewn bancio a chyllid, cyfrifeg a chyllid busnes, a busnes rhyngwladol. Roedd yn Gymrawd anrhydeddus o Gymdeithas Frenhinol y Cyfrifwyr, yn aelod o Gyngor Economaidd Cymru (1965-68) ac o Gyngor Cymru (1968-79).

Bu Hodge yn gefnogol i'r Blaid Lafur trwy gydol ei fywyd, ond ni fu'n aelod ohoni. Gwasanaethodd ei ddirprwy hirdymor a'i gyfrinachwr, y cyfreithiwr Syr Donald Walters, yn gadeirydd y Blaid Geidwadol.

Ar ddechrau ei yrfa fusnes arbenigwr treth ydoedd yn cynghori pobl leol gyda'u ffurflenni, ac nid yw'n syndod efallai fod ei rwymedigaethau treth potensial ei hun yn ei flynyddoedd olaf - amcangyfrifwyd ei gyfoeth yn £50m - yn gyfryw ag i beri iddo adael Cymru yn 1985 yn 81 oed i fyw'n alltud yn Jersey. Yn wrthwynebus i integreiddiad Ewropeaidd a datganoli, taranodd yn erbyn y ddau mewn llythyrau i'r wasg o'i gartref ar yr ynys a chyfrannodd at ariannu'r Ymgyrch Na yn 1997. Ond ni pherthynai'r un awdurdod i'w lais bellach, ac anwybyddwyd ef gan fwyafrif o'r pleidleiswyr, er mai mwyafrif bychan oedd hwnnw. Ffigwr o'r gorffennol ydoedd erbyn hynny. Bu Julian Hodge farw ar 18 Gorffennaf 2004 yn St Aubin, Jersey.

Mae ambell un o gwmnïau Hodge yn bodoli o hyd, gan gynnwys Banc Julian Hodge yng Nghaerdydd, ond mae'r rhan fwyaf o'i fusnesau wedi eu prynu gan gwmnïau â phocedi dyfnach dros y degawdau diwethaf neu maent wedi diflannu wrth i ffasiynau a ffyrdd o fyw newid. Mae ôl troed Hodge yn ne Cymru yn llawer llai nawr nag y bu. Ac eto, mae'r elusen a sefydlodd yn dal i fod yn adnodd y mae llawer o achosion yn troi ato am gyllid bob blwyddyn, ac felly mae'r cof amdano ef a'i fam yn parhau. Fe wnaeth lawer o les i Gymru ac fe wnaeth gamgymeriadau; yn sicr ni welir ei fath fyth eto.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-09-08

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.