DAVIES, Syr ALUN TALFAN (1913 - 2000), bargyfreithiwr, barnwr, gwleidydd, cyhoeddwr a dyn busnes

Enw: Alun Talfan Davies
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 2000
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr, barnwr, gwleidydd, cyhoeddwr a dyn busnes
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Argraffu a Chyhoeddi; Diwydiant a Busnes

Ganwyd Alun Talfan Davies ar 22 Gorffennaf 1913 yng Ngorseinon ger Abertawe, yr ieuengaf o bedwar mab William Talfan Davies (1873-1938), gweinidog Methodistaidd, a'i wraig Alys (g. Jones, 1879-1948). Ei dri brawd oedd Elfyn Talfan Davies, Aneirin Talfan Davies, a Goronwy Talfan Davies.

Cafodd Alun ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr, ac aeth ymlaen i astudio'r gyfraith yn Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt. Yn 1939 fe'i galwyd i'r Bar yn Gray's Inn. Fe'i gwelir mewn llun yn y Western Mail yn gwisgo spectol, ac mae'n debyg mai golwg gwan yw'r rheswm na fu iddo wasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd.

Ar 25 Gorffennaf 1942 priododd Eiluned Christopher Williams (1914-2003) yn Llundain. Ymgartrefodd y pâr ym Mhenarth, a ganwyd iddynt bedwar o blant: Helen Talfan Davies, Janet Lyn Talfan Davies (a briododd y chwaraewr rygbi rhyngwladol Barry John), Christopher Humphrey Talfan Davies, a Kathryn Elizabeth Talfan Davies.

Gwnaed Alun Talfan Davies yn Gwnsler y Frenhines yn 1961 a'i ddyrchafu'n farchog yn 1976. Fe'i penodwyd yn Gofiadur Merthyr Tudful yn 1963; yn Gofiadur Abertawe yn 1969; ac yn nes ymlaen y flwyddyn honno yn Gofiadur Caerdydd; bu'n Gofiadur Anrhydeddus Caerdydd ac yn Gofiadur Llys y Goron 1972-1983; yn Ddirprwy Gadeirydd Llysoedd Chwarter Aberteifi 1963-1971; eisteddodd yn Llys Apêl Ynysoedd y Sianel, ac ar Fwrdd Iawndal Niwed Troseddol.

Gwnaeth lawer o waith cyfreithiol dros Undeb Cenedlaethol y Glowyr, ac ym Medi 1959 cyhoeddwyd ei bamffled The Casualties of Industry - A Plea for Justice for Miners. Yn yr un flwyddyn cynrychioloddd y Cyngor Trafnidiaeth Rheilffordd Ysgafn yn eu protest aflwyddiannus yn erbyn cau rheilffordd y Mwmbwls, a deugain a thri o gynghorau Cymru a wrthwynebai godiad mewn prisiau tocynnau bysys. Yn 1963 amddiffynnodd bennaeth o Nigeria a oedd wedi dianc i Brydain wedi ei gyhuddo o fradwriaeth. Carcharwyd y pennaeth am oes, ond fe'i rhyddhawyd yn 1966. Yn 1968 bu'n erlyn aelodau o Fyddin Rhyddid Cymru a gyhuddwyd o feddu ar ffrwydron, yr honnwyd eu bod ar gyfer herwhela eogiaid. Gweithredodd mewn nifer o achosion llofruddiaeth, gan gynnwys un sensitif o ran hil yn 1971. Yn sgil trychineb Aberfan yn 1966 cynrychiolodd Gyngor Merthyr Tudful yn yr ymchwiliad, ac o 1967 i 1990 cadeiriodd yr ymddiriedolaeth a fu'n gyfrifol am £1.75 miliwn o arian elusennol.

Bu Alun Talfan Davies yn aelod o Blaid Cymru yn y 1930au, ond ni allai dderbyn safiad Saunders Lewis yn erbyn y rhyfel, a safodd fel ymgeisydd Annibynnol yn is-etholiad seneddol Prifysgol Cymru yn 1943, gan ddod yn drydydd y tu ôl i'r ymgeisydd Rhyddfrydol llwyddiannus W. J. Gruffydd a Saunders Lewis. Ymgeisiodd yn aflwyddiannus i gael ei enwebu dros y Rhyddfrydwyr yn Sir Aberteifi yn etholiad cyffredinol 1945. Yn etholiadau cyffredinol 1959 a 1964 ef oedd ymgeisydd y Rhyddfrydwyr dros Sir Gaerfyrddin, ond collodd ddwywaith i'r AS Llafur ar y pryd, yr Arglwyddes Megan Lloyd George. Yn etholiad cyffredinol 1966 daeth yn ail yn Ninbych i'r AS Ceidwadol Geraint Morgan. Bu'n gadeirydd ar Ryddfrydwyr Cymru 1963-1966.

Roedd yn gefnogol iawn i ddatganoli, a phasiwyd cynnig ganddo yn cefnogi datganoli i Gymru yng nghynhadledd y Rhyddfrydwyr yn Torquay yn 1958. O 1969 i 1973 bu'n aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar y Cyfansoddiad a gynigiodd ddatganoli i Gymru a'r Alban a llywodraeth ranbarthol yn Lloegr. Bu ar Fwrdd Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru 1985-1992.

Roedd yr iaith Gymraeg a'i diwylliant yn bwysig dros ben iddo. Bu'n is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1944, ac o 1977 i 1980 ef oedd llywydd Llys yr Eisteddfod. Yn 1940 sefydlodd Alun a'i frawd Aneirin wasg Gymraeg Llyfrau'r Dryw (a newidiodd ei henw i Wasg Christopher Davies wedi i'w fab gymryd yr awennau), cyhoeddwr y cylchgrawn misol Barn o 1962 ymlaen. Bu'n aelod o Fwrdd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru 1978-1980, Llys Prifysgol Cymru 1969-1988, a chyrff llywodraethol colegau prifysgol Abertawe ac Aberystwyth. Yn 1971 fe'i gwnaed yn Gymrawd Athrawol Anrhydeddus o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1973 dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth anrhydeddus yn y gyfraith gan Brifysgol Cymru.

Roedd ganddo ddiddordeb brwd ym maes teledu, a bu'n gyfarwyddwr Cwmni Teledu Harlech 1967-1983, gan wasanaethu'n is-gadeirydd dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Harlech, a chadeirio ei Fwrdd Cymreig 1978-1983. Roedd yn gyfaill agos i Syr Julian Hodge, a bu'n un o gyfarwyddwyr Banc Masnachol Cymru o 1971 i 1996, yn is-gadeirydd 1973-1991 ac yn gadeirydd 1991-1996. Bu hefyd yn un o gyfarwyddwyr Canolfan Fasnach y Byd Caerdydd 1985-1997. Roedd yn un o sylfaenwyr Ymddiriedolaeth Cerfluniau Portreadol Cymru yn 1980, a bu'n rhan o'r ymgyrch i achub Parc Dinefwr a'r Castell.

Bu Alun Talfan Davies farw ar 11 Tachwedd 2000 mewn cartref nyrsio ym Mhenarth. Mae rhai o'i bapurau ar gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yno hefyd y mae portread ohono gan John Elwyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-06-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.