DAVIES, ANEIRIN TALFAN (1909 - 1980), bardd, beirniad llenyddol, darlledwr a chyhoeddwr

Enw: Aneirin Talfan Davies
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1980
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, beirniad llenyddol, darlledwr a chyhoeddwr
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Perfformio; Argraffu a Chyhoeddi; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Alan Llwyd

Ganwyd Aneirin Talfan Davies ar 11 Mai 1909 yn Dre-fach Felindre, Sir Gaerfyrddin, yn ail o bedwar o feibion y Parchedig William Talfan Davies (1873-1938), brodor o Ysbyty Ystwyth, Ceredigion, ac Alys (ganwyd Jones, 1878-1948). Brawd hŷn iddo oedd Elfyn Talfan Davies (g. 1907), a’i frodyr iau oedd Goronwy Talfan Davies (1911-1977) a Alun Talfan Davies (1913-2000). Yn 1911, pan oedd Aneirin yn ddwy oed, symudodd y teulu i Gorseinon ger Abertawe, pan alwyd William Talfan Davies i fod yn weinidog Capel y Methodistiaid Calfinaidd, Libanus, yn y dref.

Mynychodd Aneirin Ysgol Ramadeg Tre-gŵyr, ond gadawodd yr ysgol yn 14 oed i fwrw prentisiaeth fel fferyllydd, yng Ngorseinon i ddechrau, ac wedyn mewn fferyllty yn Temple Street, Abertawe, cyn symud i Lundain i gwblhau ei brentisiaeth. Ar ôl treulio pythefnos mewn fferyllty enfawr o'r enw The International Pharmacy yn King's Cross, cafodd swydd fwy parhaol mewn fferyllty yn Palmers Green, ac yn y swydd honno yr arhosodd tra bu yn Llundain, yn gofalu am dair o siopau'r perchennog, yn Kenton, Harrow-on-the-Hill a Watford. Yn Llundain yr oedd yn aelod o Gapel Cymraeg y Methodistiaid Calfinaidd yn Charing Cross, ac yno, yn y dosbarthiadau a gynhelid yn y capel, y deffrowyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth a diwinyddiaeth. Bu'n byw yn Swiss Avenue, Watford, am gyfnod, ac yn Watford y paratowyd y rhifyn cyntaf oll o'r cylchgrawn bychan Heddiw, a sefydlwyd gan Aneirin a'i frawd Alun, ac a olygwyd gan Aneirin a Dafydd Jenkins. Cyhoeddwyd cerddi gan rai o feirdd pwysicaf yr ugeinfed ganrif yn Heddiw, fel Gwenallt, R. Williams Parry a Waldo Williams. Parhaodd y cylchgrawn i fodoli am chwe blynedd, 1936-1942.

Ar 1 Mehefin 1936 priododd Mary Anne Evans (1912-1971), athrawes o'r Barri, a bu iddynt ddau fab, Owen (ganwyd 1938) a Geraint (ganwyd 1943), a merch, Elinor (ganwyd 1946). Gadawodd Lundain yn 1937, ac agorodd siop fferyllydd yn 9 Heol Heathfield, Abertawe. Roedd ei enw, Aneirin Davies, yn amlwg ar flaen y siop, gydag 'Aneirin ap Talfan' mewn cromfachau o dano, a'r arwydd 'fferyllydd' yn y ffenestr. Dinistriwyd ei siop a'i gartref yn llwyr gan un o gyrchoedd awyr yr Almaen ar Abertawe yn 1941. Wedi colli ei siop a'i gartref, symudodd Aneirin a'i deulu i Dŷ-croes, ac ymunodd yntau â staff y BBC, fel darllenydd newyddion rhan-amser i ddechrau, ac wedyn fel cynhyrchydd sgyrsiau radio a rhaglenni nodwedd. Dychwelodd i Lundain am gyfnod, i ddilyn ei yrfa newydd fel darlledwr, ac ar ddiwedd y rhyfel ymunodd â staff y BBC yng Nghaerdydd. Cynhyrchodd nifer o sgyrsiau radio gan Dylan Thomas, gan ddod â pheth incwm i'r bardd yn ei angen. Cynhwysir rhai o'r sgyrsiau radio hynny yn Quite Early One Morning (1944). Roedd yn gyfaill personol i Dylan Thomas, ac yn ei lyfr Dylan: Druid of the Broken Body (1964), daliai mai bardd crefyddol oedd Dylan yn anad dim. Roedd Aneirin Talfan Davies ei hun yn Gristion o argyhoeddiad, ac yn 1944 ymaelododd â'r Eglwys yng Nghymru trwy fedydd esgob.

Roedd hefyd yn gyfaill personol i'r bardd a'r artist David Jones, un arall a gymerai ran yn ei raglenni sgyrsiau ar y radio. Casglodd ynghyd yr ohebiaeth rhyngddo a David Jones a'u cyhoeddi'n gyfrol, David Jones: Letters to a Friend (1979).

Yn 1951, dechreuodd gomisiynu cerddi hirion ar gyfer y radio, ac un o'r pryddestau radio hyn oedd campwaith James Kitchener Davies, 'Sŵn y Gwynt Sy'n Chwythu'. Yn yr un flwyddyn sefydlodd gylchgrawn arall, Llafar, a nod y cylchgrawn newydd hwn oedd cyhoeddi sgyrsiau, storïau a barddoniaeth radio. Trwy gydol ei yrfa fel darlledwr a llenor, bu'n ceisio cyfuno'r ddau fyd, gan gredu bod gan y cyfryngau, radio a theledu - a radio yn enwedig - swyddogaeth allweddol i'w chyflawni o safbwynt hybu a lledaenu llenyddiaeth a diwylliant Cymru. Cyfrol arall a olygwyd ganddo oedd Myfi Sy'n Magu'r Baban, casgliad o raglenni nodwedd (1951). Yn 1966, fe'i penodwyd yn Bennaeth Rhaglenni BBC Cymru, a pharhaodd i gefnogi beirdd a llenorion yn Gymraeg ac yn Saesneg. Er bod y Gymraeg yn agos iawn at ei galon, gwnaeth lawer i gau'r bwlch rhwng dwy iaith a dau ddiwylliant Cymru.

Yn 1940, ar y cyd â'i frawd Alun, a ddaeth yn fargyfreithiwr llwyddiannus ymhen blynyddoedd, dechreuodd Aneirin Talfan Davies gyhoeddi cyfres o lyfrynnau bychain, a'u galw yn Llyfrau'r Dryw. Cyhoeddwyd 44 o'r rhain i gyd, rhwng 1940 a 1952. Y fenter hon oedd cychwyniad a sail Llyfrau'r Dryw, un o weisg pwysicaf Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, er i gynnyrch y wasg - dan yr enw Gwasg Christopher Davies bellach - ddechrau prinhau o 1980 ymlaen. Nid yw'r wasg yn bodoli rhagor. Llyfrau'r Dryw a fu'n gyfrifol am y gyfres lwyddiannus Crwydro Cymru, a chyfrannodd Aneirin ei hun dair cyfrol ragorol i'r gyfres, Crwydro Sir Gâr (1955) a Crwydro Bro Morgannwg mewn dwy gyfrol (1972 a 1976). Yn 1962 sefydlwyd cylchgrawn Cymraeg newydd, Barn, gan y ddau frawd. Bu Aneirin yn ei olygu am gyfnod, a chyfrannai golofn reolaidd i'r cylchgrawn, 'Ar Ymyl y Ddalen'. Cyhoeddwyd ei golofn olaf yn rhifyn Gorffennaf/Awst 1980 o Barn, yn fuan ar ôl ei farwolaeth.

Roedd Aneirin Talfan Davies yn llenor amryddawn, eang ei ddiddordebau ac eang ei chwaeth hefyd, ac roedd yn feirniad llenyddol gwreiddiol a chraff. Cyhoeddodd nifer o astudiaethau o waith beirdd a llenorion mwyaf yr ugeinfed ganrif, a'r rhai mwyaf modernaidd a mwyaf cymhleth hefyd. Ymhlith y llyfrau hyn y mae Yr Alltud (1944), rhagarweiniad i waith James Joyce, Y Tir Diffaith (1946), astudiaeth o waith T. S. Eliot, a thrafodir Eliot ymhellach yn Eliot, Pwshcin, Poe (1948). Daeth i sylweddoli bod gan Gymru etifeddiaeth lenyddol a Christnogol gyfoethog, yr hyn a alwai ef yn 'etifeddiaeth dda', mewn pennod yn ei lyfr Munudau gyda'r beirdd (1954) ac mewn llyfr cyfan, Yr Etifeddiaeth Dda (1967). Yr oedd yn llenor coeth ei Gymraeg a chaboledig ei arddull.

Roedd Aneirin Talfan Davies hefyd yn fardd medrus. Yn 1937, cyhoeddodd gyfrol o gerddi ar y cyd â bardd arall, W. H. Reese (1908-1997) o Flaenau Ffestiniog. Gofynnodd William Griffiths, goruchwyliwr Adran Gymraeg Foyle's yn Llundain, i Aneirin gasglu ei gerddi ynghyd i'w cyhoeddi'n gyfrol. Dywedodd Aneirin wrtho nad oedd ganddo ddigon o gerddi i lenwi cyfrol, a gofynnodd William Griffiths iddo wahodd W. H. Reese i fod yn rhan o'r fenter. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1935, dyfarnwyd cerdd gan Aneirin yn ail yn y gystadleuaeth vers libre, a W. H. Reese yn drydydd, a Gwilym R. Jones (1903-1993) yn ennill y gamp. Cyfrwng mydryddol dieithr ac anghyfarwydd oedd y vers libre yng Nghymru ar y pryd, ac roedd cerddi Y Ddau Lais yn ddieithr i ddarllenwyr y cyfnod o safbwynt cyfrwng a chynnwys. Cerddi heriol a oedd yn ymgais i ddehongli cymhlethdod y bywyd modern, a hwnnw'n fywyd diwydiannol a dinesig, oedd y rhan fwyaf o gerddi'r gyfrol. Yn 1975, cyhoeddodd gyfrol o'i farddoniaeth ef ei hun yn unig, Diannerch Erchwyn a Cherddi Eraill. Cerddi personol eu naws, yn hytrach na cherddi gwleidyddol-gymdeithasol, a geir yn y gyfrol, ynghyd â nifer o gerddi crefyddol eu cywair. Dwys a myfyrgar yw'r cywair y tro hwn. Cyfieithodd hefyd gerdd hir Christina Rossetti, Goblin Market, i'r Gymraeg, dan y teitl Marchnad y Corachod (1947).

Lladdwyd Owen Talfan Davies mewn damwain car yn yr Alban ar Hydref 24, 1963, a lluniodd T. Glynne Davies (1926-1988) bryddest radio, 'Yr Hedydd yn yr Haul', er cof amdano. Lluniodd Aneirin Talfan Davies yntau ddwy gerdd er cof am ei fab, ac fe'u ceir yn ei gyfrol Diannerch Erchwyn a Cherddi Eraill, 'Nadolig 1970' ac ail ran y gerdd fer, 'Hen ac Ifanc', lle disgrifir Owen fel 'Hoywlanc lluniaidd a llawen'.

I ddathlu ac i warchod yr etifeddiaeth dda golygodd ac ysgrifennodd lawer o gyfrolau, fel Gwŷr Llên (1948), casgliad o ysgrifau beirniadol ar waith nifer o awduron blaenllaw hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif gan wahanol feirniaid, a chyfrolau o ysgrifau ar feirdd a llenorion, ac ar ddiwinyddiaeth, fel Sylwadau (1951), Astudio Byd (1967) a Gyda Gwawr y Bore (1970). Roedd ganddo ddiddordeb yn y gynghanedd a'r mesurau traddodiadol yn ogystal, a chyhoeddwyd dwy flodeugerdd o ganu caeth dan ei olygyddiaeth, Blodeugerdd o Englynion (1950) ac Englynion a Chywyddau (1958).

Yn 1958, dyfarnwyd gradd MA iddo gan Brifysgol Cymru, ac yn 1970 fe'i hanrhydeddwyd â'r OBE.

Bu Aneirin Talfan Davies farw o strôc ar 14 Gorffennaf 1980 yn Ysbyty Priordy, Caerfyrddin, ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Gadeiriol Llandaf.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2019-06-04

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.