JENKINS, DAVID ARWYN (DAFYDD) (1911 - 2012), bargyfreithiwr a hanesydd Cyfraith Hywel Dda

Enw: David Arwyn Jenkins
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 2012
Priod: Gwyneth Jenkins (née Owen)
Plentyn: Rhys Owen Jenkins
Rhiant: Elizabeth Jenkins
Rhiant: William Jenkins
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bargyfreithiwr a hanesydd Cyfraith Hywel Dda
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Addysg
Awdur: Richard W. Ireland

Ganwyd Dafydd Jenkins yn Llundain ar Wyl Ddewi, 1 Mawrth 1911, yn fab i William Jenkins, clerc banc a anwyd yn Bermondsey ond a ymfalchïai yn ei wreiddiau teuluol yn Sir Aberteifi ac a fu'n ysgrifennydd Capel Cymraeg Jewin yn Llundain, a'i wraig Elizabeth a anwyd yn Aberystwyth. Ei enw bedydd oedd David, ond dewisodd arddel yr enw Dafydd. Ganwyd ei chwaer hyn, Edith Nancy Jenkins ('Nansi') yn 1908. Addysgwyd Dafydd yn Ysgol Merchant Taylors a Choleg Sidney Sussex, Caergrawnt, lle'r aeth i astudio Gwyddorau Naturiol cyn newid i'r Gyfraith. Ar ôl graddio fe'i galwyd i'r Bar fel aelod o Gray's Inn yn 1934 ac aeth ymlaen i weithredu ar Gylchdaith De Cymru o'i siambrau ei hun yng Nghaerfyrddin.

Hyd yn hyn roedd bywyd Dafydd yn ddigon confensiynol, ond aeth ymlaen i wneud cyfraniad aruthrol ac eang iawn i fywyd cyhoeddus a llenyddol Cymru yn ystod ei oes hir. Dechreuodd ei yrfa lenyddol yng nghanol y 1930au, weithiau dan y ffugenwau 'Myrddin Gardi' neu 'D. Meurig Rhys', a bu'n un o olygyddion cychwynnol y cylchgrawn Heddiw a lansiwyd yn 1936. Amrywiai ei bynciau, ond cyhoeddwyd cyfrol bwysig, Tân yn Llŷn: hanes brwydr gorsaf awyr Penyberth, yn 1937 yn sgil llosgi'r ysgol fomio ac achos llys y tri diffynnydd, Saunders Lewis, D. J. Williams a Lewis Valentine. Parhaodd ei ymdrechion llenyddol wedyn, ac enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Aberpennar yn 1946 gyda Hanes y Nofel Gymraeg.

Roedd ymroddiad Dafydd i wleidyddiaeth Cymru yn fwy na mater o lenydda yn unig. Oherwydd ei ddoniau fel trefnydd ac areithydd, fe'i penodwyd yn ysgrifennydd y Ddeiseb Iaith Genedlaethol yn 1938 a lofnodwyd gan 365,000 o bobl mewn ymgais i godi'r gwaharddiad ar y defnydd o'r Gymraeg yn y llysoedd a gyflwynwyd gan Harri VIII a sicrhau cydraddoldeb i'r iaith yn y cyd-destun hwnnw. Yn sgil hyn symudodd i Aberystwyth. Syrthiodd Deddf Llysoedd Cymru 1942 yn brin o'r ail nod, ond erys yn ddeddfwriaeth arwyddocaol. At ei gilydd safai gwleidyddiaeth Dafydd i'r chwith ar sbectrwm y mudiad cenedlaethol. Fel heddychwr, bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel, gan wneud gwaith amaethyddol yn Nhrawsnant yn Sir Aberteifi. O ganlyniad daeth yn rhan o'r mudiad cydweithredol yn amaethyddiaeth Cymru, yn ogystal â dysgu dosbarthiadau allanol yn Aberystwyth. Dylanwadodd ei ddiddordeb mewn ffermio ar ei astudiaeth academaidd o Gyfraith Hywel hefyd, ac arweiniodd at gyhoeddi Law for Co-operatives yn 1958.

Yn sgil ei gyswllt â'r mudiad cydweithredol ymwelodd Dafydd â Sgandinafia, a chyhoeddodd ddau lyfr am y rhanbarth, sef Ar Wib yn Nenmarc (1951) ac Ar Wib yn Sweden (1959), ond deilliodd llawer mwy na llyfrau taith o'i ddiddordeb yn ieithoedd a hanes gwledydd eraill. Trwy gydol ei yrfa academaidd ymheliodd yn frwd â'r wedd gymharol ar hanes y gyfraith, nid yn unig yn oddefol er mwyn ychwanegu at ei wybodaeth ei hun, ond hefyd yn weithredol gan drosglwyddo profiad cyfreithiol Cymru i gynulleidfa ryngwladol ehangach. Mantais fawr iddo yn hyn o beth oedd ei ddawn am ieithoedd a'i galluogodd i fynychu cynadleddau Hanes Cyfraith yr Almaen. Mae'n debyg y byddai Dafydd wrth ei fodd gyda sylw cydweithiwr o Sweden ei fod yn siarad 'math egsotig - canoloesol bron - o Swedeg gydag acen Gymraeg'.

Diau fod ei ymweliadau ysgolheigaidd â Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi eu bywiogi gan bresenoldeb aelod o staff y llyfrgell, Gwyneth Owen, a ddaeth yn wraig iddo yn 1942. Bu Gwyneth farw yn 1962. Cafodd eu mab Rhys yrfa academaidd fel ei dad.

Pendowyd Dafydd yn ddarlithydd yn y Gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1965, a dyfarnwyd Cadair Bersonol iddo ddeng mlynedd yn ddiweddarach, a gellir dadlau mai ym maes astudiaethau cyfreithiol academaidd y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf. Ei brif ddiddordeb ymchwil oedd cyfreithiau Cymru yn yr Oesoedd Canol, Cyfraith Hywel, ac erys ei waith ar amryfal agweddau ar y maes hwnnw yn ddihafal o ran ei rychwant a'i ddylanwad. Golygodd destun Llyfr Colan yn 1963, a chynhyrchodd y gyfrol Cyfraith Hywel yn 1970, gan gyhoeddi argraffiad newydd yn 1976 cyn cynhyrchu The Laws of Hywel Dda ar gyfer cynulleidfa Saesneg yn 1986. Sefydlodd y gweithiau hyn sylfaen ysgolheigaidd ar gyfer astudiaeth, ond arweiniodd diddordebau Dafydd at dros hanner cant o gyfraniadau ar y cyfreithiau canoloesol. Dangosodd rhai ohonynt fod diddordeb Dafydd yn ymarferol yn hytrach na thestunol yn unig; roedd am adnabod y bobl a fuasai'n ymwneud â'r cyfreithiau a gwybod beth oedd effaith y deddfau ar eu bywydau. Roedd am i bobl eraill wybod hefyd, gan rannu syniadau ac awduraeth ag ysgolheigion eraill a chwarae rhan ganolog yn y gyfres o seminarau ar Gyfraith Hywel sy'n parhau hyd heddiw. Nid oedd yr awydd i ledaenu gwybodaeth am gyfraith Cymru yn gyfyngedig i'r rhai a oedd eisoes wedi eu darbwyllo am ei phwysigrwydd chwaith; trwy ei lafur a'i frwdfrydedd aeth Dafydd â'r pwnc ymhell y tu hwnt i Aberystwyth, fel ei bod yn anodd i haneswyr cyfraith mewn gwledydd eraill ei hanwybyddu. Sefydlodd Dafydd (er iddo fynnu bob amser nad ei waith ef yn unig ydoedd) yr hyn a ddaeth yn Gynhadledd Hanes Cyfraith Prydain, gyda'r cyfarfod cyntaf yn Aberystwyth yn 1972. Cynhelir y gynhadledd bob dwy flynedd o hyd, a hwn erbyn hyn yw'r fforwm ysgolheigaidd mwyaf ei fri yn y ddisgyblaeth. Cydnabuwyd ei waith academaidd trwy ddyfarnu D. Litt. gan Gaergrawnt a Doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Würzburg.

Ymddeolodd Dafydd yn 1978. Roedd yn athro uchel ei barch gan ei fyfyrwyr am ei frwdfrydedd. Roedd bob amser yn barod i herio confensiwn yn ei ddysgu, a synnodd ei gydweithwyr trwy ei benderfyniad i ddysgu Cyfraith Cytundeb 'am yn ôl', hynny yw gan ddechrau gyda'r iawn sydd ar gael i barti yn hytrach na thrwy drafod rheolau llunio cytunebau, ond yma eto roedd ei flaenoriaeth yn ymarferol yn hytrach na damcaniaethol.

Daliodd ati i weithio, i ysgrifennu ac i ymdrafod ymhell ar ôl ymddeol, yn wir hyd at y diwedd bron. Hyfrydwch oedd i Gynhadledd Hanes Cyfraith Prydain glywed yn 2011 fod Dafydd yn mynychu dathliad canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru, er bod y llyfrgell yn iau nag ef. Oherwydd ei hirhoedledd bu'n wrthrych tair cyfrol deyrnged, yr olaf wedi cyhoeddi ar ôl ei farwolaeth, Canmlwyddiant, Cyfraith a Chymreictod, gan gynnwys llawer o atgofion personol amdano a rhestr o'i gyhoeddiadau. Bu Dafydd Jenkins farw ar 5 Mai 2012 ym Mlaenpennal ac fe'i claddwyd yng Nghapel Penrhiw, Jopa.

Braslun yn unig o fywyd hir, llawn ac amrywiol Dafydd Jenkins a roddir uchod. Erys yn ffigwr arwyddocaol yn hanes y Gymru fodern, nid yn lleiaf am iddo ef ei hun ddatgelu cymaint am yr hanes hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2018-12-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.