WILLIAMS, DAVID JOHN (1885 - 1970), llenor

Enw: David John Williams
Dyddiad geni: 1885
Dyddiad marw: 1970
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwladgarwyr; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Hywel Teifi Edwards

Ganwyd ym Mhen-rhiw, ffermdy ym mhlwyf Llansawel, Sir Gaerfyrddin, 26 Mehefin 1885, yr hynaf o ddau blentyn John a Sarah (ganwyd Morgans) Williams. Symudodd y teulu i Aber-nant yn 1891 ac aeth ef i ysgol Rhydcymerau, 1891-98. Rhwng 1902 ac 1906 bu'n löwr yn Ferndale, y Rhondda; y Betws, Rhydaman a Blaendulais. Ailgydiodd yn ei addysg yn 1906 pan aeth i Ysgol Stephens Llanybydder. Bu'n ddisgybl athro yn ysgol Llandrillo, Edeyrnion, 1908-10 cyn mynychu Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, 1910-11. Yn 1911 aeth i Goleg y Brifysgol yn Aberystwyth ac wedi graddio ac ennill Ysgoloriaeth Meyricke yn 1916 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd yn 1918. Ar ôl tymor yn athro Cymraeg dros-dro yn Ysgol Lewis, Pengam, bu'n athro Saesneg ac addysg gorfforol yn ysgol ramadeg Abergwaun o 1919 hyd 1936, ac yna'n athro Cymraeg yno o 1937 tan ei ymddeoliad yn 1945. Priododd Siân Evans, merch Dan Evans, gweinidog (A) Hawen, a Mary ei wraig, a chwaer i'r bardd William Evans, ' Wil Ifan ', yn 1925 ac ymgartrefodd y ddau yn Abergwaun gan wneud eu haelwyd yn y ' Bristol Trader ' yn gyrchfan i lu o ffrindiau. Codwyd D. J. Williams yn flaenor yn eglwys Pentowr (MC) yn 1954. Ni bu iddynt blant. Bu farw ei wraig yn 1965 a bu farw yntau'n ddramatig o briodol ar nos Sul, 4 Ionawr 1970, ar ôl rhoi anerchiad gwladgarol mewn cyngerdd cysegredig yng Nghapel Rhydcymerau. Fe'i claddwyd ym mynwent y capel hwnnw gyda'i wraig. Dadorchuddiwyd cofeb iddo ar fur ty Aber-nant, 17 Medi 1977.

Flynyddoedd cyn ei farw yr oedd D. J. wedi tyfu'n chwedl ymhlith llengarwyr a chenedlaetholwyr Cymru. Yr oedd yn un o sefydlwyr Plaid Cymru yn 1925, a chyda John Saunders Lewis a'r Parch. Lewis Valentine treuliodd naw mis yng ngharchar Wormwood Scrubs yn ystod 1936-37 am losgi rhai o gytiau'r Ysgol Fomio ym Mhenyberth, ger Pwllheli. Y mae i'r brotest sumbolig honno le canolog ym muthos y mudiad cenedlaethol. Ymroes ar hyd ei oes i ymgyrchu dros Gymru Rydd Gristnogol. Ysgrifennodd gannoedd o lythyrau i'r wasg a chyflwynodd ddau o'i arwyr, y Gwyddel ' A.E. ' (George William Russell) a'r Eidalwr, Mazzini, i sylw ei gyd- Gymry. Cyhoeddodd A. E. a Chymru (1929); Y bod cenhedlig: cyfieithiad gyda rhagymadrodd o 'The national being' gan A. E. (1963) a Mazzini: cenedlaetholwr, gweledydd, gwleidydd (1954). Croniclodd ryw gymaint o hanes cynnar Plaid Cymru 'n ogystal mewn pamffled, Codi'r faner (1968). Trwy'r cyfan ymdeimlir ag angerdd yr unplygrwydd a'i gwnâi'n dafodog mor argyhoeddiadol.

Yr unrhyw angerdd sy'n rhoi i'w lên greadigol ei harbenigrwydd. Gyda Kate Roberts gosododd fri ar y stori fer Gymraeg a chasglwyd y mwyafrif o'i storïau cyhoeddedig ynghyd yn Detholiad o storïau'r tir (1966). Ceir rhai o'i storïau cynharaf, ynghyda nifer o bortreadau ac ysgrifau sy'n fynegai i'w themâu pwysicaf, yn Y gaseg ddu (1970). Wfftiai ar rai o lenorion amlycaf Cymru na fynnent ran yn y frwydr i 'achub enaid' y genedl, rhai a oedd ' yn gallu sefyll o'r neilltu yn llipa heb wneud unrhyw osgo i gynorthwyo yn y frwydr mewn unrhyw fodd - fel petai rhyw barlys moesol wedi eu taro '. Mor ddiffygiol oeddent o'u cyferbynnu â'r proffwydi hynny yn Israel gynt, propagandwyr diedifar a roes fod i lenyddiaeth fawr. ' Llenorion dan angerdd cydwybod ' a oedd ar Gymru eu hangen ac fel propagandydd o genedlaetholwr Cristnogol yr ymgymrodd D. J. â llenydda.

Llenor bugeiliol ydoedd yn ei hanfod, llenor y 'gweld cofus'. Yn ei ganol oed a'i henaint cynnar y lluniodd y cyfrolau a fydd o werth arhosol. Fel ei arwr, William Llewelyn Williams, ymserchodd yn llwyr ym mywyd gwledig ' Shir Gâr ', ond ni fodlonodd ar sentimenta. Gwelodd y Gymru a oedd iddo ef yn werth byw a marw drosti yn nrych ei 'filltir sgwâr'. Fe'i delfrydodd, mae'n wir, ond y mae'r un mor wir iddo ddangos y gymdeithas wâr, ymdrechgar, aml ei doniau a ddelweddodd yn Hen wynebau (1934) a Storïau'r tir glas (1936) yn graddol ymddatod yn Storïau'r tir coch (1941) a Storïau'r tir du (1949) wrth i'r 'newyddfyd blin' gau amdani. Yr un weledigaeth a roes fod i'w ddwy gyfrol o hunangofiant, Hen dy ffarm (1953) ac Yn chwech ar hugain oed (1959). Hen dy ffarm yw ei gampwaith, hanes diwyllio tir Penrhiw, creu gardd a pherllan ac yna'n gadael am fod caledwaith yr ennill yn esgor ar afiechyd, a chroesterau o fewn teulu yn rhwystro parhad. Fel pob paradwys fugeiliol glasurol, difethir paradwys D. J., hefyd, o'r tu mewn yn ogystal ag o'r tu maes.

Ni all fod parhad i'r un baradwys ddynol, ond y mae'n rhaid i ddyn o hyd wrth baradwys i'w choledd. Y mae'n angen gwaelodol sydd mor hen â bodolaeth, a'i ymateb iddo sy'n peri fod D. J. Williams ar ei orau yn un o archstorïwyr y Gymraeg. Cydnabuwyd ei gamp yn 1957 pan roes Prifysgol Cymru radd D.Litt. iddo er anrhydedd. Yn 1963 etholwyd ef yn Llywydd yr Academi Gymreig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.