CALLAGHAN, LEONARD JAMES, Arglwydd Callaghan o Gaerdydd (1912 - 2005), gwleidydd

Enw: Leonard James Callaghan
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 2005
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd James Callaghan ar 27 Mawrth 1912 yn 38 Funtington Road, Copnor, Portsmouth, yn fab i James Callaghan (1877-1921), morwr, a'i wraig Charlotte (g. Cundy, 1879-1961). Roedd ei dad o dras Wyddelig, a dihangodd o'i gartref i ymuno â'r Llynges Frenhinol yn y 1890au gan newid ei gyfenw o Garogher i Callaghan fel na fedrai neb ddod o hyd iddo. Un o Portsmouth oedd ei fam, o deulu selog ymhlith y Bedyddwyr Seisnig. Roedd gan Leonard (fel y gelwid ef tan ddechrau ei yrfa wleidyddol yn 1945) chwaer hŷn o'r enw Dorothy Gertrude (1904-1982).

Yn sgil marwolaeth annhymig y tad yn 1921 gadawyd y teulu yn ddibynnol ar elusen am gyfnod, nes i Charlotte Callaghan gael pensiwn o ddeg swllt yr wythnos yn 1924 ar sail y ffaith fod ei gŵr wedi marw o ganlyniad i'w wasanaeth yn y rhyfel. Roedd gan Callaghan brofiad personol o dlodi, felly, ond ar y llaw arall cafodd y teulu gymorth amhrisiadwy gan gymuned capel y Bedyddwyr. Un canlyniad o'i fagwraeth yn y capel oedd ei hoffter o emynau ar hyd ei oes. Mynychodd Ysgol Gynradd Brixham ac Ysgol Uwchradd Portsmouth Northern, ond ni allai fforddio dilyn cwrs gradd mewn prifysgol. Safodd arholiad y Gwasanaeth Sifil yn 1928 a daeth yn glerc yn swyddfa Cyllid y Wlad ym Maidstone, Swydd Gaint.

Daeth yn weithgar yng nghapel y Bedyddwyr, gyda'r Blaid Lafur leol a changen Undeb Llafur Cymdeithas Swyddogion y Trethi (AOT). Gwnaed ef yn athro Ysgol Sul a daeth i adnabod athrawes ifanc o'r enw Audrey Elizabeth Moulton (1915-2005). Priodwyd y ddau yn 1938, a ganwyd iddynt dri o blant: Margaret (b. 1939), a ddaeth yn arweinydd y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Arglwyddi, Julia (g. 1943) a Michael (g. 1946).

O fewn blwyddyn roedd Callaghan yn ysgrifennydd yr undeb yn ei swyddfa, ac yn 1932 llwyddodd yn yr arholiad i ddod yn Arolygydd Trethi. Etholwyd ef yn ysgrifennydd yr undeb dros Swydd Gaint, ac yn 1934 symudodd i bencadlys y Dreth Incwm yn Llundain. Ar ôl uno dau undeb, apwyntiwyd Callaghan i swydd dirprwy ysgrifennydd yr undeb newydd, Ffederasiwn Staff y Dreth Incwm (IRSF). Daeth i adnabod yr Athro Harold Laski, un o wŷr amlwg y Blaid Lafur, ac fe'i perswadiwyd ganddo i ystyried gyrfa wleidyddol.

Er nad oedd angen iddo, oherwydd ei fod yn swyddog undeb, mynnodd fod yn rhan o'r Ail Ryfel Byd a llwyddodd ar ôl cryn ymdrech i ymuno â'r llynges yn 1942. Ond yn ystod ei hyfforddiant, darganfuwyd ei fod yn dioddef o'r ddarfodedigaeth a bu'n rhaid iddo dreulio cyfnod yn yr ysbyty. Ar ôl llwyr wellhad, rhoddwyd cyfle iddo yn Swyddfa'r Morlys yn Whitehall lle bu'n gweithio ar Siapan, gan ysgrifennu llawlyfr ar gyfer y llynges, The Enemy: Japan. Gwasanaethodd ar y llong HMS Activity a'i benodi'n Lefftenant yn Ebrill 1944. Ef yw'r unig Brif Weinidog erioed o Brydain i wasanaethu yn y Llynges Frenhinol.

Ar seibiant adref o'r llynges, gwahoddwyd ef i gyfarfod Pwyllgor Gwaith y Blaid Lafur fel ymgeisydd posibl yn etholaeth De Caerdydd (ailenwyd yr etholaeth yn Dde-ddwyrain Caerdydd yn 1950 ac yn Dde Caerdydd a Phenarth yn 1983). Ei ffrind Dai Kneath o Abertawe (aelod o Bwyllgor Gwaith ei undeb) a'i gosododd mewn cysylltiad ag Ysgrifennydd y Blaid Lafur yn Ne Caerdydd, Bill Headon. Enillodd o un bleidlais yn erbyn George Thomas, a honnodd Thomas iddo ennill am iddo wisgo gwisg y llynges ar gyfer y cyfweliad. Sedd y Ceidwadwyr ydoedd ar wahân i gyfnod byr 1929-31 pan fu Arthur Henderson yn AS Llafur, ond yn etholiad cyffredinol 1945 cipiodd James Callaghan (fel yr adnabyddid ef bellach) y sedd oddi wrth H. Arthur Evans gyda mwyafrif o 5,944.

Cynrychiolodd Callaghan seddi yn ardal Caerdydd tan ei ymddeoliad yn 1987. Gellir priodoli ei lwyddiant i'w ofal dros ei etholwyr a'i sgiliau cyfathrebu. Gallai siarad yn rhwydd â phob cymuned o fewn ei etholaeth, o ardal dosbarth gweithiol Splott a phoblogaeth gymysg Llanrymni ac yna ar ôl 1983 i blith dosbarth canol llewyrchus Penarth. Unwaith yn unig y bu dan fygythiad etholiadol a hynny yn 1959 pan ddaeth y Ceidwadwr Michael H. A. Roberts o fewn 868 o bleidleisiau i gipio'r sedd. Credai'r Ceidwadwyr fod ganddynt gyfle da i ennill y sedd y tro nesaf, a pherswadiodd Wilfred Wooller y cricedwr Ted Dexter i sefyll yn 1964 er mwyn apelio at etholwyr o India'r Gorllewin, er bod y mwyafrif o'r gymuned Ddu yn tueddu i fod o Orllewin Affrica. Methodd Dexter â chyfathrebu gyda'r un rhwyddineb, a chafodd Callaghan fuddugoliaeth fawr gyda mwyafrif o 7,841.

Roedd Callaghan ymhlith un ar hugain o ASau Llafur a luniodd lythyr yn Hydref 1946 yn beirniadu Ernest Bevin, y Gweinidog Tramor, gan erfyn arno i fabwysiadu llwybr canol rhwng America a Rwsia. Cytunodd â Hugh Dalton ac Aneurin Bevan yn yr ymgyrch yn erbyn ailarfogi'r Almaen. Yn y cyfnod 1947-1948, teimlai Callaghan ei fod ef a Jim Griffiths yn haeddu cymeradwyaeth arbennig am eu cyfraniad i lwyddiant porthladdoedd a dociau de Cymru. Nid oedd Callaghan o blaid Ysgrifennydd Gwladol i Gymru, ond fel Aneurin Bevan, newidiodd ei feddwl a hynny oherwydd ei fod yn credu bod blaenoriaeth wedi cael ei rhoi i adeiladu Pont Forth yn yr Alban yn lle Pont Hafren am fod Ysgrifennydd Gwladol dros yr Alban yn y Cabinet.

Yn 1947 penodwyd Callaghan yn Ysgrifennydd Seneddol ar Drafnidiaeth ac anfonwyd ef fel cynrychiolydd i Gyngor Ewrop yn Strasbourg o 1948 i 1950. Yn ail lywodraeth Llafur yn 1950-51 gwasanaethodd fel Ysgrifennydd Seneddol ac Ariannol y Morlys. Ef oedd llefarydd yr Wrthblaid ar Drafnidiaeth (1951-53); ar Danwydd a Phŵer (1953-55); ar y Trefedigaethau (1956-61), ac yn Ganghellor yr Wrthblaid (1961-64). Yn ystod y cyfnod hwn dangosodd ei allu fel perfformiwr llwyddiannus yn nadleuon Tŷ'r Cyffredin ac ar y cyfryngau.

Pan fu farw Hugh Gaitskell yn Ionawr 1963 safodd Callaghan am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, ond fe'i trechwyd gan Harold Wilson. Pan enillodd Wilson etholiad 1964, penododd Callaghan yn Ganghellor, er iddo greu Adran Faterion Economaidd hefyd a gosod George Brown yng ngofal yr adran honno. Ni fu cyllideb gyntaf y Canghellor yn Nhachwedd 1964 yn dderbyniol yn y marchnadoedd arian, ac arbedwyd y sefyllfa gan fenthyciad ariannol o dair mil o filiynau o ddoleri, yn bennaf o'r Unol Daleithiau. Gwaethygodd y sefyllfa ymhellach ym mis Gorffennaf 1966 pan godwyd graddfa'r banc i saith y cant. Roedd Callaghan mewn dyfroedd dyfnion, a bu'n rhaid iddo gydnabod ei fethiant. Oni bai am ei briod Audrey mi fyddai wedi ymddiswyddo o'r Senedd. Gofalodd Wilson nad oedd hynny i ddigwydd trwy osod Callaghan yn y Swyddfa Gartref a dod â Roy Jenkins yn ei le i'r Trysorlys.

Yn fuan iawn daeth Callaghan yn feistr ar y Swyddfa Gartref, gan ailsefydlu ei enw da fel gweinidog y Goron. Roedd ei wreiddiau mewn undebaeth a'i fagwraeth fedyddiedig yn ei orfodi i fod yn geidwadol o fewn y Swyddfa. Ni allai oddef safonau moesol isel mewn cymdeithas, a'r duedd ymhlith yr ifanc i gymryd cyffuriau, gwastraffu arian yn gamblo a goryfed alcohol. Fel un a fu'n llefarydd dros yr heddlu yn y Senedd o 1955 i 1964, cefnogodd bolisi cadarn ar gyfraith a threfn. Mewn ymgais i reoli mewnfudo cyflwynodd ddeddf ddadleuol Mewnfudwyr y Gymanwlad yn 1968, a hefyd yn yr un flwyddyn y Ddeddf Perthnasau Hiliol a'i gwnaeth yn anghyfreithlon gwrthod cyflogaeth, tai neu addysg ar sail cefndir ethnig. O ran y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, bu'n barod i amddiffyn hawliau sifil y lleiafrif Pabyddol, gan benderfynu anfon milwyr i gadw trefn. Lluniodd gyfrol ar broblemau'r dalaith, A House Divided (1973).

Callaghan oedd un o'r ychydig wleidyddion nad oedd yn gweld y Blaid Lafur yn ennill etholiad cyffredinol 1970. Profwyd ei fod wedi darogan yn gywir a daeth llywodraeth Geidwadol i rym am bedair blynedd. Cadwodd Callaghan ei sedd yn hawdd yn etholiadau 1974 a 1979, pan fu John Edward Brooks yn asiant iddo. Gwnaeth ef yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi yn 1979 fel Barwn Brooks o Dremorfa. Gwasanaethodd Callaghan fel Ysgrifennydd Cartref yr Wrthblaid yn 1970-71, Llefarydd yr Wrthblaid ar gyflogaeth yn 1971-72, ac Ysgrifennydd yr Wrthblaid ar Faterion Tramor o 1972 i 1974.

Llwyddodd i gael y Blaid Lafur i gefnogi refferendwm ar Ewrop er na fu ef ei hun yn gysurus o gwbl ar y mater. Nid oedd erioed wedi bod yn bleidiol iawn i'r Gymuned Ewropeaidd. Ar ôl i Lafur ddod i rym yn 1974, mynnodd Wilson aildrafod aelodaeth Prydain. Yn y refferendwm yn 1975, pleidleisiodd 67.2 y cant o'r etholwyr o blaid aros yn y Farchnad Gyffredin. A phan ddaeth Callaghan yn arweinydd a Phrif Weinidog, cafodd berthynas dda gyda chyfandir Ewrop, yn well na'i berthynas gyda'r undebau llafur ym Mhrydain, er mai ef oedd yr undebwr mwyaf cydwybodol o bawb a fu'n Brif Weinidog.

Gwasanaethodd Callaghan yn Weinidog Tramor yn llywodraeth Wilson o 1974 i 1976. Bu'n llwyddiannus yn trin argyfyngau yn Cyprus, Ynys Iâ ar fater y pysgod, a De Affrig, a chadwodd berthynas dda gyda'r Amerig. Pan ymddiswyddodd Wilson yn Ebrill 1976, nid oedd amheuaeth na fyddai Callaghan yn ei ddilyn fel Arweinydd y Blaid Lafur ac fel Prif Weinidog. Enillodd Callaghan yn y bleidlais derfynol yn erbyn Michael Foot. O blith ASau Cymru, yr un agosaf ato oedd Cledwyn Hughes, a daeth y Prif Weinidog i ddibynnu'n helaeth arno fel Cadeirydd Plaid Seneddol Llafur.

Fel Prif Weinidog wynebai Callaghan nifer o broblemau astrus. Oherwydd cyflwr yr economi bu'n rhaid mynd am fenthyciad gan yr IMF. Cafwyd dadlau ffyrnig o fewn y Cabinet ond llwyddodd y Prif Weinidog i gadw undod. Lluniwyd Cytundeb Cymdeithasol gyda'r undebau llafur er mwyn cadw cyflogau rhag codi'n ormodol. Erbyn 1978 gwelid chwyddiant a diweithdra yn lleihau. Problem arall oedd cynnal ei lywodraeth gan i'r Blaid Lafur golli seddi mewn isetholiadau, a bu'n rhaid dibynnu ar gytundeb gyda'r Blaid Ryddfrydol ac ewyllys da'r cenedlaetholwyr o Gymru a'r Alban. Cydnabu Callaghan yn ei hunangofiant y dylai fod wedi galw etholiad yn Hydref 1978.

I Gymru a'r Alban, roedd datganoli yn bwnc llosg. Pan gyflwynwyd polisi datganoli, cafwyd gwrthwynebiad gan chwech o ASau Llafur de Cymru. Ildiodd Callaghan i gynnal refferendwm a chytuno i ychwanegu cymal bod angen deugain y cant o fwyafrif cyn sefydlu'r Cynulliad. Tacteg Neil Kinnock a Tam Dalyell a'u cefnogwyr oedd hyn i sicrhau na cheid datganoli yn yr Alban na Chymru. Yn anffodus, ni roddodd Callaghan yr arweiniad a ddylai ar y mater hwn, ac nid ystyriodd ddisgyblu'r gwrthryfelwyr ymosodol. Yn ôl y wasg yng Nghymru roedd agwedd Callaghan ar bwnc datganoli yn ddidaro ac yn glaear. Yn hwyr yn y dydd yr anogodd Callaghan Gymru i 'bleidleisio 'ie' a meddiannu grym' ond ni wrandawyd arno ar yr unfed awr ar ddeg, ac yn y refferendwm ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979 gwrthododd mwyafrif poblogaeth Cymru gefnogi datganoli.

Ac yn drist hefyd erbyn diwedd ei gyfnod yn Stryd Downing roedd wedi colli cefnogaeth arweinwyr yr undebau llafur. Nid oedd dim fel petai'n gweithio iddo, a chafwyd streiciau a thensiwn yn ystod gaeaf 1978-79, y 'Gaeaf Anfodlonrwydd'. Ar 28 Mawrth 1979 collodd bleidlais o ddiffyg ymddiriedaeth o 311 i 310 ac nid oedd dim amdani ond galw etholiad ym Mai 1979 a ddaeth â'r Blaid Geidwadol i rym dan arweiniad Margaret Thatcher. Pe bai Callaghan wedi galw'r etholiad yn 1978, ac wedi ennill, mi fyddai holl hanes Prydain wedi bod yn wahanol. Camgymeriad mawr arall o'i eiddo oedd dal ymlaen ar ôl colli'r etholiad. Credai y medrai drosglwyddo plaid unedig i'w olynydd, ond fel arall y bu. Fe'i disodlwyd fel arweinydd gan Michael Foot yn Nhachwedd 1980, ac yn Ionawr 1981 sefydlwyd plaid newydd yn seiliedig ar ddau ddwsin o ASau Llafur. Ond cadwodd Callaghan ei sedd yng Nghaerdydd drachefn yn etholiad 1983, a dod yn 'Dad Tŷ'r Cyffredin'. Ymddeolodd fel AS yn 1987 pan ddyrchafwyd ef yn Arglwydd Callaghan o Gaerdydd.

Roedd Callaghan wedi prynu fferm yn Ringmer, Sussex, yn 1968, a chafodd ef a'i wraig flynyddoedd hapus yn ffermio ar raddfa ddigon eang yn ei ymddeoliad. Daliodd ei gyfeillgarwch gyda Julian Hodge fel cyfarwyddwr Banc Cymru, ac fel dehonglydd a llysgenad o'r Blaid Lafur draddodiadol ni fu mo'i well. Derbyniodd lu o anrhydeddau, gan gynnwys doethuriaethau er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1976, Prifysgol Sardal Patel, India yn 1978, Prifysgol Birmingham yn 1981, a Phrifysgol Sussex yn 1989, a chymrodoriaethau gan Brifysgol Cymru, Caerdydd yn 1978 a Pholitechneg Portsmouth yn 1981. Bu'n gymrawd o Goleg Nuffield, Rhydychen o 1959 i 1967, a gwnaed ef yn gymrawd am oes y flwyddyn honno. Bu'n Llywydd Prifysgol Cymru, Abertawe o 1986 i 1995, ac fe'i gwnaed yn gymrawd er anrhydedd yn 1995. Derbyniodd Ryddfraint Dinas Caerdydd yn 1974 a Rhyddfraint Dinas Sheffield yn 1979. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Time and Chance, yn 1987.

Bu'n rhaid i Audrey Callaghan fynd i gartref nyrsio yn 2001 oherwydd dementia, a bu farw yno ar 15 Mawrth 2005. Bu James Callaghan farw o niwmonia un diwrnod ar ddeg yn ddiweddarach ar 26 Mawrth 2005, diwrnod cyn ei ben-blwydd yn 93 mlwydd oed. Amlosgwyd ei gorff a gwasgarwyd ei lwch yn ymyl cofgolofn Peter Pan yng ngardd Ysbyty Plant Great Ormond Street, Llundain, lle bu ei briod yn un o'r llywodraethwyr.

Fe'i coffeir heddiw gan Sgwâr Callaghan yng Nghaerdydd a chan Adeilad Callaghan ym Mhrifysgol Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-11-22

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.