JENKINS, ROY HARRIS Barwn Jenkins o Hillhead (1920 - 2003), gwleidydd ac awdur

Enw: Roy Harris Jenkins
Dyddiad geni: 1920
Dyddiad marw: 2003
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd ac awdur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Marc Collinson

Ganwyd Roy Jenkins ar 11 Tachwedd 1920 yn Greenlands, Ffordd Snatchwood, Abersychan, ger Pontypŵl, yn unig fab i Arthur Jenkins (1882-1946), undebwr llafur a gwleidydd a garcharwyd am ei ran yn Streic Gyffredinol 1926, a'i wraig Harriet (g. Harris, 1886-1953). Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pentwyn ac Ysgol Ramadeg Sirol Abersychan, a mynychodd ddosbarthiadau am chwe mis yng Ngholeg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, Caerdydd i'w baratoi i ymgeisio i Goleg Balliol, Rhydychen (1938-1941), lle graddiodd gyda dosbarth cyntaf mewn Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac Economeg. Yn Rhydychen, chwaraeodd ran weithredol mewn gwleidyddiaeth myfyrwyr, ac yn ól ymchwil ddiweddar, cafodd berthynas gyfunrhywiol gydag Anthony Crosland, cyd-fyfyriwr a fyddai maes o law yn gyd-aelod o’r cabinet.

Ar ôl iddo raddio, aeth gyrfa Jenkins rhagddi'n gyflym, gyda chymorth yn aml gan gysylltiadau ei dad yn y mudiad llafur (roedd yn AS Pontypŵl 1935-1946 ac yn gynorthwyydd seneddol i Clement Attlee yr un pryd) a chan gydnabod iddo o Rydychen. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd Jenkins yn swyddog ar fagnelfa gartref wedi 1942 cyn cael ei symud i weithio fel torrwr côd yn Bletchley Park o 1944 tan ddiwedd y rhyfel. Cwrddodd â Jennifer Morris (1921-2017) mewn Ysgol Haf y Ffabiaid yn Nyfnaint yn 1940, a phriodasant ar 20 Ionawr 1945 yn Llundain. Cawsant ddau fab, Charles ac Edward, ac un ferch, Cynthia.

Ac yntau erbyn hynny'n 24 oed, ceisiodd Jenkins ennill sedd yn San Steffan. Ymgynigiodd mewn sawl etholaeth yn y Canolbarth ar gyfer etholiad 1945, a chafodd ei ddewis yn ymgeisydd yn Solihull, lle llwyddodd i leihau mwyafrif ei wrthwynebydd i 5,049 yn unig mewn ardal Geidwadol yn bennaf. Daeth y cyfle nesaf ychydig fisoedd wedyn. Yn sgil marwolaeth annhymig ei dad, a achoswyd mae'n debyg gan orweithio, cafwyd is-etholiad ym Mhontypŵl yn 1946. Ymgynigiodd Jenkins i fod yn ymgeisydd Llafur, ond collodd i'r cyfreithiwr lleol Granville West. Dyna unig ymgais gwirioneddol Jenkins i gael ei ethol yng Nghymru, a hyd 1982 dim ond mewn etholaethau yn Lloegr y bu iddo gystadlu. Tra'n gweithio fel economegydd i'r Industrial and Commercial Finance Corporation ac yn newyddiadurwr, lluniodd gyfrol o areithiau Clement Attlee a chyhoeddodd ei fywgraffiad gwleidyddol cyntaf, 'bywgraffiad dros dro' o Attlee. Erbyn i'r llyfr hwnnw gael ei gyhoeddi, Jenkins oedd yr ymgeisydd Llafur am Southwark Central mewn is-etholiad yn 1948. Roedd y sedd i'w diddymu yn 1950, ond roedd yn gyfle i fynd i Dŷ'r Cyffredin a chael sedd arall fel aelod profiadol. Llwyddodd yn hynny o beth, gan sicrhau etholaeth Stechford, ger Birmingham, erbyn etholiad 1950, sedd a ddaliodd nes iddo ymddiswyddo yn 1977. Pan aeth Llafur yn wrthblaid, bu'n gefnogwr cadarn i'r cyn-Ganghellor cymhedrol (a gŵr gradd o Rydychen) Hugh Gaitskell dros ei gyd-aelod o dde Cymru Aneurin Bevan. Daliodd ati i ysgrifennu yn ystod y cyfnod hwn, gan gynhyrchu Mr Balfour's Poodle (1954) am argyfwng Seneddol 1910-11, Dilke: a Victorian Tragedy (1958) am ddinistr gyrfa wleidyddol Charles Dilke, ac Asquith (1964) am y cyn-Brif Weinidog Rhyddfrydol.

Cadwodd Jenkins gyswllt agos â Gaitskell ar ôl i hwnnw ennill etholiad 1955, er gwaethaf anghydfod mawr dros Ewrop ar ddechrau'r 1960au. Yn ystod y cyfnod hwn, cyhoeddwyd ei ysgrif bwysig ar gynlluniau Llafur am ddiwygio cyfreithiol yn gyfrol gan Penguin, The Labour Case (1959). Pan ddaeth Harold Wilson yn arweinydd y blaid ar ôl marwolaeth Gaitskell in 1963, ac wedyn yn Brif Weinidog yn sgil y fuddugoliaeth yn etholiad 1964, cychwynnodd cyfnod mwyaf dylanwadol Jenkins fel lluniwr polisi a gweinidog. Rhwng 1964 a 1977, bu'n Weinidog dros Awyrennu (1964-65), Ysgrifennydd Cartref (ddwywaith, 1965-67 a 1974-76), Canghellor yr Trysorlys (1967-1970), a Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur (1970-1972). Yn ei dymor cyntaf fel Ysgrifennydd Cartref, hyrwyddodd ddeddfwriaeth yn diwygio cyfreithiau ar gyfunrhywiaeth, erthylu, ac ysgariad, gweithredodd ddiddymiad y gosb farwolaeth, ac ailstrwythurodd yr heddlu. Fel Canghellor deliodd ag adladd dibrisiad ac adferodd hyder. Serch hynny, er iddo gychwyn ar ei ddirprwy-arweinyddiaeth fel etifedd eglur, bu ei ymrwymiad i ymuno â'r Farchnad Gyffredin Ewropeaidd yn rhwystr terfynol i'w obeithion. Ar ddechrau'r 1970au, plaid wrthwynebus i'r Farchnad Gyffredin oedd Llafur yn bennaf, ac roedd gwaith ei Dirprwy Arweinydd yn arwain 69 o ASau Llafur i gefnogi cais Edward Heath yn 1971 yn broblematig iddi. Er iddo gefnogi polisi'r blaid trwy gydol y broses o basio'r hyn a ddaeth yn Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd, 1972, teimlai Jenkins dan orfodaeth i ymddiswyddo fel Dirprwy Arweinydd ar ôl iddo wrthod cefnogi polisi Llafur o refferendwm ar aelodaeth. Ffurfiwyd gweddill ei yrfa mewn sawl ffordd gan Ewrop. Er iddo basio deddfwriaeth bwysig ar gydraddoldeb rhywiol a hiliol ar ôl dychwelyd i'r Swyddfa Gartref (1974-1976), ei brif weithred oedd arwain yr ymgyrch 'Ie' yn ystod refferendwm Ewrop 1975. Arweiniodd hyn yn uniongyrchol at ei benodi'n Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd (1977-1981) - yr unig un o Brydain i ddal y swydd honno - ond rhoddodd derfyn hefyd ar unrhyw obaith o ddod yn Arweinydd Llafur ac yn Brif Weinidog.

Yn ystod ei gyfnod ym Mrwsel, cafodd Jenkins amser i ystyried dyfodol gwleidyddiaeth Prydain a'i yrfa wleidyddol ei hun. Yn 1979, traddododd ddarlith Dimbleby y BBC, gan ddadlau dros ganolbleidiaeth a symud oddi wrth drefn ddwy blaid Prydain. Pan ddaeth ei Arlywyddiaeth i ben yn 1981, cwrddodd ag ASau Llafur o gyffelyb anian (y rhai a elwid yn 'Gang of Four', sef Jenkins, Shirley Williams, David Owen, a Bill Rodgers), a chyhoeddwyd eu hamcanion yn y 'Limehouse Declaration' gan fynd ati wedyn i ffurfio'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol (SDP). Jenkins oedd arweinydd cyntaf y blaid (1982-1983), ac enillodd sedd Glasgow Hillhead mewn is-etholiad yn 1982 a'i chadw tan 1987. Yn ystod ei gyfnod byr fel arweinydd cynorthwyodd i negodi cynghrair etholiadol gyda Phlaid Ryddfrydol David Steel ac ef oedd 'Darpar Brif Weinidog' y gynghrair honno yn etholiad 1983, pan geisiasant 'dorri mold' gwleidyddiaeth Prydain. Gellir mesur eu llwyddiant trwy eu cyfran o'r bleidlais. Enillodd Llafur 27.6% o'r bleidlais, a chynghrair yr SDP a'r Rhyddfrydwyr 25.4%, a Llafur a elwodd o'r drefn etholiadol Brydeinig. Serch hynny, rhoddodd Jenkins y gorau fel arweinydd y blaid yn fuan wedyn, ac fe'i dilynwyd gan David Owen. Safodd i lawr o Dŷ'r Cyffredin yn 1987, ac fe'i penodwyd i Dŷ'r Arglwyddi yr un flwyddyn dan y teitl Baron Jenkins of Hillhead, gan wasanaethu'n arweinydd arglwyddi plaid newydd y Democratiaid Rhyddfrydol dan Paddy Ashdown (1988-1997).

Parhaodd Jenkins yn brysur yn rhan olaf ei fywyd, gan gynghori Ashdown a hefyd Tony Blair, arweinydd y Blaid Lafur wedi 1994. Fe'i penodwyd gan Blair i arwain comisiwn i ystyried y system bleidleisio. Yn 1987 fe'i penodwyd yn Ganghellor Prifysgol Rhydychen, penodiad am oes, ac yn 1988 daeth yn llywydd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol. Cynhyrchodd nifer o lyfrau yn ystod ei flynyddoedd olaf, gan gynnwys ei hunangofiant, A Life at the Centre (1991), a bywgraffiadau o Gladstone (1995) a Churchill (2001). Roedd ei fywgraffiad o Franklin Delano Roosevelt bron wedi ei gwblhau ar adeg ei farwolaeth.

Bu Roy Jenkins farw ar 5 Ionawr 2003 yn ei gartref yn East Hendred, Swydd Rydychen. Cynhaliwyd ei angladd ar 10 Ionawr yn eglwys y pentref, lle cafodd ei gladdu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2023-07-10

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.