FOOT, MICHAEL MACKINTOSH (1913 - 2010), gwleidydd, newyddiadurwr, awdur

Enw: Michael Mackintosh Foot
Dyddiad geni: 1913
Dyddiad marw: 2010
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd, newyddiadurwr, awdur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: D. Ben Rees

Ganwyd Michael Foot ar 23 Gorffennaf 1913 yn 1 Lipson Terrace, Plymouth, Dyfnaint, y pumed o saith o blant Isaac Foot (1880-1960) a'i wraig Eva (g. Mackintosh, 1877-1946). Cyfreithiwr oedd Isaac Foot yn Plymouth, a bu'n AS Rhyddfrydol dros Bodmin, Cernyw 1922-1924 a 1929-1935. Daeth brodyr a chwiorydd Michael yn bobl amlwg, sef Syr Dingle Foot (1905-1978), Hugh Foot (Barwn Carodon, 1907-1990), John Foot (Barwn Foot, 1909-1999), Margaret Elizabeth Foot (1911-1965), Jennifer Mackintosh Highet (1916-2002), a Christopher Isaac Foot (1917-1984).

Addysgwyd ef yn Ysgol Forris yn Swanage ac Ysgol Uwchradd y Crynwyr, Leighton Park, Reading, ac aeth ymlaen i Goleg Wadham, Rhydychen i astudio Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economeg (PPE). Gwnaeth ei farc yn y brifysgol a'i ethol yn llywydd (yr ieuengaf erioed) 'Cymdeithas Undeb Rhydychen'. Graddiodd yn yr ail ddosbarth yn 1934 a chafodd swydd gyda chwmni llongau yn Lerpwl.

Cefnodd ar blaid ei dad ac ymuno â'r Blaid Lafur ar ôl gweld y tlodi ar strydoedd Penbedw a Lerpwl. Yn 22 oed cafodd gyfle i sefyll fel ymgeisydd seneddol dros Lafur yn etholaeth Trefynwy yn etholiad cyffredinol 1935. Bodlonodd Aneurin Bevan i siarad ar ei ran a dyma'r cyfarfyddiad cyntaf o bartneriaeth oes rhwng y ddau. Roedd Foot eisoes wedi dechrau gyrfa fel newyddiadurwr ar y New Statesman, a phan sefydlodd Bevan yr wythnosolyn y Tribune yn 1937, gwahoddodd Foot i ymuno fel gohebydd, ond ymddiswyddodd Foot o fewn blwyddyn ar ôl i'r golygydd William Mellor gael ei ddiswyddo. Ar gyngor Aneurin Bevan, rhoddodd yr Arglwydd Beaverbrook swydd iddo ar yr Evening Standard a'i wneud yn olygydd yn 1942. Symudodd i'r Daily Herald yn 1945, ac yna yn 1948 aeth yn ôl yn olygydd y Tribune hyd 1952, ac eto o 1955 i 1960.

Enillodd Foot sedd Plymouth Devonport dros Lafur yn 1945 a'i chadw yn 1950 a 1951, ond ei cholli yn 1955. Yn 1949 priododd y cynhyrchydd ffilmiau Jill Craigie (1911-1999). Ni fu plant o'r briodas, ond roedd gan Jill un ferch, Julie, o briodas flaenorol.

Roedd Foot yn areithiwr huawdl a grymus, ac yn ystod ei gyfnod fel AS Plymouth Devonport daeth yn un o ladmeryddion y mudiad a gysylltid ag Aneurin Bevan. Roedd nifer o aelodau seneddol o Gymry yn cefnogi, fel George Thomas, Tudor Watkins a Cledwyn Hughes. Ond cododd anghydfod rhwng Foot a Bevan ar fater arfau niwclear. Fel golygydd y Tribune mabwysiadodd Foot y slogan 'Dyma'r papur sy'n arwain ymgyrch yn erbyn y bom hydrogen'. Cythruddwyd ef pan wnaeth Bevan dro pedol yn 1957 a chefnogi cadw arfau niwclear mewn llywodraeth Lafur y dyfodol, ac aeth hi'n ffrae chwerw rhwng y ddau. Safodd Michael Foot yn etholiad cyffredinol 1959 yn Plymouth ond methodd Aneurin Bevan ddod i'w gefnogi gan iddo gael ei daro'n wael yn ystod yr ymgyrch. Ar ddiwedd y flwyddyn pan wynebai Bevan driniaeth lawfeddygol, bu cymodi rhwng y ddau ac anogodd Bevan ef i ystyried yr enwebiad am ei sedd. Wedi marwolaeth Bevan, enillodd Foot yr is-etholiad yng Nglyn Ebwy yn Nhachwedd 1960. Cymerodd etholwyr Glyn Ebwy ato am ei fod yn gymaint o ffrind i Nye a llwyddodd gyda mwyafrifoedd o ugain mil yn etholiadau 1964, 1966, 1970, 1974 (Chwefror a Hydref), 1979, 1983 a 1987. Prynodd fwthyn yn Nhredegar fel y medrai ymweld yn gyson â'r etholwyr. Ond bu bron iddo ef a'i briod gael eu lladd ar un o'r teithiau i'w etholaeth yn Hydref 1963. Ei briod oedd yn gyrru pan fu'r car mewn gwrthdrawiad â lori. Gadawyd ef yn hanner marw gyda niwed i'w ysgyfaint, ei asennau a'i goes chwith. Y canlyniad oedd ei wneud yn ŵr cloff, yn dibynnu ar ffon i gerdded, a'i wedd yn gwneud iddo edrych yn fregus.

Ymunodd Foot â Thŷ'r Cyffredin yn 1960 fel un a wisgai glogyn Aneurin Bevan, yn gydwybod yr asgell chwith. Rebel ydoedd o'r dechreuad, ac ychydig o edmygedd oedd ganddo tuag at ei arweinydd Hugh Gaitskell. Gweriniaethwr ydoedd ond eto daeth yn gyfeillgar iawn gyda'r Fam Frenhines. Galwai hi ef wrth ei enw bedydd a chanmolodd y gôt ddyffl ddadleuol a wisgodd wrth y Senotaff yn Whitehall yn 1981, yr un y mynnai'r wasg ei galw'n 'siaced asyn'.

Bu Foot yn gefnogol i lywodraeth Harold Wilson (1964-1970), a chroesawodd y ffaith fod y Blaid Lafur wedi symud i'r chwith. Yn 1972, rhoddodd Wilson swydd iddo fel Arweinydd y Tŷ ar ran yr Wrthblaid yn ystod llywodraeth Heath. Pan ddaeth Wilson yn Brif Weinidog am yr eildro yn 1974, cafodd Foot y cyfle i fod yn Ysgrifennydd Gwladol dros Gyflogaeth. Gofid mawr iddo yn ystod ei gyfnod yn y swydd honno oedd gweld gwaith dur Glyn Ebwy yn cau yn 1975. Er ei swydd gyfrifol ni allai arbed swyddi ei etholwyr, a gorfu iddo ef a John Morris eu hannerch yng nghanol y siom aruthrol. Serch hynny, gwnaeth waith pwysig ym maes cyflogaeth, gan ddadwneud diwygiadau undebau llafur llywodraeth Heath a chyflwyno'r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle a'r Ddeddf Amddiffyn Cyflogaeth. Ef oedd un o brif lefarwyr yr ymgyrch Na i Refferendwm 1975 ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd.

Trwy gydol ei amser yn y Senedd, cymerodd Foot ddiddordeb mawr yng nghwestiwn datganoli i Gymru a'r Alban. Pan gyhoeddwyd Adroddiad Kilbrandon yn 1973, aeth Foot ati i berswadio ASau Cymru o rinweddau'r adroddiad, ac i raddau helaeth gwrandawyd arno. Cyhoeddodd George Thomas, llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, y byddai Cyngor Etholedig yng Nghaerdydd yn rhan o faniffesto etholiad 1974. Pan ddaeth James Callaghan yn Brif Weinidog yn 1976, gwnaeth Foot yn arweinydd Tŷ'r Cyffredin ac yn Arglwydd Lywydd y Cyngor, a hefyd yn gyfrifol am ddatganoli i Gymru a'r Alban. Yn ei ddatganiad cyntaf dywedodd Foot na fyddai ddim cyfaddawdu na cholli cyfle. Mewn dim o dro, daeth ef a Gwynfor Evans yn gydweithwyr, a thros gyfnod llywodraeth Callaghan daeth y ddau yn gyfeillion agos. Ond siomwyd y ddau pan fu gwrthwynebiad cryf i'r cynlluniau cyn i'r mesur ar ddatganoli i Gymru a'r Alban gyrraedd Tŷ'r Cyffredin. Sylweddolwyd bod angen paratoi ar gyfer refferendwm. Llywiodd Foot y mesurau trwy Dŷ'r Cyffredin yn 1977, er mai John Morris oedd yr unig aelod arall o'r Cabinet a ddangosodd frwdfrydedd dros y Cynulliad. Bu canlyniad y refferendwm ym Mawrth 1979 yn siom aruthrol i Foot, ond cyn hynny roedd Cledwyn Hughes wedi talu teyrnged i'w ymdrechion yn ei ddyddiadur ar 22 Chwefror 1978:

He has made a greater effort to understand us, and to meet Welsh aspirations, than any other non-Welsh politician I have ever known. He has stood up to cruel attacks which would have daunted lesser men. Foot has won an honourable place in Welsh history whatever may come of this Bill.

Pan ymddiswyddodd Callaghan ar ôl colli etholiad 1979 i Margaret Thatcher, etholwyd Foot yn Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhachwedd 1980. Roedd ef bellach yn 67 oed ac yn ddigon bregus. Ac mewn cyfnod byr, gorfu iddo wynebu argyfwng mawr yn Ionawr 1981 pan benderfynodd pedwar o sêr y Blaid Lafur, Roy Jenkins, David Owen, Shirley Williams a Bill Rodgers, adael a chreu plaid newydd yr SDP.

Trwy gyfnod arweinyddiaeth Foot, mynnai'r polau piniwn nad oedd yn boblogaidd a chafodd y llysenw 'Worzel Gummidge' gan wleidyddion a'r wasg fel ei gilydd. Roedd maniffesto'r Blaid Lafur ar gyfer etholiad 1983 yn adlewyrchu daliadau adain chwith Foot, ac fe'i galwyd gan Gerald Kaufman 'the longest suicide note in history'. Enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad gyda mwyafrif mawr dros Lafur, ac ymddiswyddodd Foot ym Mehefin 1983. Etholwyd un o'i edmygwyr, a chymydog iddo fel Aelod Seneddol, Neil Kinnock yn arweinydd i'w olynu.

Pan dderbyniodd Foot D.Litt er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yng Ngorffennaf 1983, dywedodd mewn llythyr at yr Arglwydd Cledwyn Hughes:

I really did feel honoured: nobody can match the Welsh when it comes to courtesy and I can assure you that we the Celts from elsewhere, from Cornwall in particular, appreciate the atmosphere all the more.

Michael Foot oedd aelod hynaf Tŷ'r Cyffredin o 1987 hyd ei ymddeoliad cyn etholiad cyffredinol 1992. Ysgrifennodd yn helaeth o 1940 ymlaen, gan gynnwys cofiant cynhwysfawr i'w arwr Aneurin Bevan a gyhoeddwyd mewn dwy gyfrol yn 1962 a 1973, a gweithiau awdurdodol ar William Hazlitt, Thomas Paine, Arglwydd Byron, Daniel Defoe a Jonathan Swift. Dyn egwyddorol a diwylliedig ydoedd a gyflwynodd ei fywyd i sosialaeth, democratiaeth, datganoli i Gymru a'r Alban, iawnderau dynol a rhyddid i'r unigolyn a'r cenhedloedd.

Bu Michael Foot farw yn ei gartref yn Hampstead, Llundain, ar 3 Mawrth 2010 a chynhaliwyd ei angladd dyneiddiol yn Amlosgfa Golders Green ar 15 Mawrth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2024-02-07

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.