Ganwyd Tudor Watkins ar 9 Mai 1903 yn Abercraf yng Nghwm Tawe, yr hynaf o ddeg o blant Howell Watkins, glöwr, a’i wraig Anne (g. Griffiths). Roedd ei dad yn Gynghorydd Sir Llafur, yn Ynad Heddwch ac yn flaenor a phregethwr lleyg gyda’r Bedyddwyr. Addysgwyd Tudor yn yr ysgol elfennol leol, dosbarthiadau estyn gyda'r nos, dosbarthiadau tiwtorial y brifysgol, dosbarthiadau a drefnwyd gan Fudiad Addysg y Gweithwyr a Chyngor Cenedlaethol y Colegau Llafur. Yn ddiweddarach, ac yntau wedi ennill ysgoloriaeth, mynychodd Goleg Harlech. Enillodd ei fywoliaeth fel glöwr gan gychwyn yn y pwll yn 13½ oed rhwng 1917 a 1925. Wedyn bu'n asiant y Blaid Lafur yn etholaeth Brycheiniog a Maesyfed, 1928-33. Roedd yn ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Sir Frycheiniog o'r Cymdeithasau Lles, 1937-48. Roedd yn henadur ar Gyngor Sir Brycheiniog, 1940-74.
Gwasanaethodd yn AS Llafur dros etholaeth Brycheiniog a Maesyfed o etholiad cyffredinol 1945 nes iddo ymddeol o'r senedd ym 1970. Fe'i cydnabyddid yn lleol fel y gwleidydd a roddai anghenion ei etholwyr o flaen gwleidyddiaeth plaid. Roedd yn un o'r pum Aelod Seneddol Llafur a roddodd gefnogaeth gyson i ymgyrch gyndyn Senedd i Gymru'r 1950au cynnar, a hynny'n hollol groes i orchymyn y Blaid Lafur yn ganolog. Watkins oedd ysgrifennydd preifat seneddol y Gwir Anrhydeddus James Griffiths, sef y cyntaf i ddal swydd Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, 1964-66, a'r Gwir Anrhydeddus Cledwyn Hughes, 1966-67. Watkins oedd cadeirydd y Pwyllgor Dethol Seneddol ar Amaethyddiaeth, 1966-68. Roedd hefyd yn aelod o nifer fawr o bwyllgorau, yn eu plith Panel Cymreig y Cyngor Prydeinig (swydd y penodwyd ef iddi ym 1954), Bwrdd Twristiaeth Cymru, Pwyllgor Rheoli Ysbyty Brycheiniog a Maesyfed, Pwyllgor Ymgynghorol Cymreig Hedfan Sifil, a Chymdeithas Datblygu Diwydiannol Canolbarth Cymru. Crëwyd ef yn Farwn Watkins o Lantawe (iarllaeth am oes) ym 1972. Ar ôl ei ymddeoliad o'r senedd rhoddodd Watkins lawer o'i amser i wasanaethu llywodraeth leol; roedd yn henadur ac yn gadeirydd Cyngor Sir Brycheiniog. Ym 1970 penodwyd ef yn gadeirydd pwyllgor rheolaeth newydd Ysbyty Siroedd y Gororau (Cymru) a gwasanaethodd hyd at adrefnu'r gwasanaeth iechyd ym 1974. Ef oedd hefyd y cadeirydd cyntaf y Cyngor Sir Powys newydd, 1974-77, ac yn Arglwydd-Rhaglaw Powys o 1975 tan 1978. Ef oedd cadeirydd Pwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, 1974-78. Gwasanaethodd yn ysgrifennydd Clwb Athletau Abercraf, y Clwb Criced, Cynghrair Pêl-droed Ystalyfera a'r Gymdeithas Arddwrol a'r Sioe. Dioddefai oddi wrth glefyd y siwgr ar hyd ei oes, ond ymdrechai bob amser i guddio'r anhwylder oddi wrth ei etholwyr.
Priododd Watkins ar 13 Ebrill 1936 Bronwen R. Strather, trydedd ferch y diweddar T. Strather, Talgarth. Ni fu iddynt blant. Eu cartref oedd Bronafon, Ffordd Penyfan, Aberhonddu. Bu farw yn Ysbyty'r Gofeb Rhyfel yn Aberhonddu ar 2 Tachwedd 1983 ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Llwydcoed. Bu farw ei weddw 29 Awst 2007.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-31
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.