ROBERTS, MICHAEL HILARY ADAIR (1927-1983), gwleidydd Ceidwadol

Enw: Michael Hilary Adair Roberts
Dyddiad geni: 1927
Dyddiad marw: 1983
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Ceidwadol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Aberystwyth ym mis Mai 1927, yn fab i'r Parch T. A. Roberts, ficer Anglicanaidd a ddaeth yn Rheithor Castell-nedd yn ddiweddarach. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd a Choleg Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd. Enillodd ei fywoliaeth yn swyddog addysg yn yr Awyrlu Brenhinol ac yna yn athro ysgol. Roberts oedd prifathro cyntaf Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd, 1963-70. Bu hefyd yn hyfforddwr i Undeb Rygbi Cymru, aelod o'r Bow Group a llywydd cangen Caerdydd o Undeb Cenedlaethol yr Athrawon. Bu hefyd yn ymgynghorydd i Undeb Genedlaethol yr Athrawon, 1970-79, ac yn gynt yn ei yrfa gwasanaethodd ar Bwyllgor Ymgynghorol Ieuenctid Cenedlaethol.

Safodd Roberts yn ymgeisydd Ceidwadol yn is-etholiad Aberdâr ym 1954 yn erbyn Arthur Probert, ac yn etholaeth De-ddwyrain Caerdydd yn etholiadau cyffredinol 1955 a 1959 yn erbyn James Callaghan. Roberts oedd AS Ceidwadol Gogledd Caerdydd, 1970-Chwefror 1974, ac, yn dilyn newidiadau sylweddol yn ffiniau'r etholaethau, bu'n AS Gogledd-orllewin Caerdydd o Chwefror 1974 hyd at ei farwolaeth. Penodwyd ef yn gyd-is-gadeirydd pwyllgor addysg yr Aelodau Seneddol Ceidwadol ym 1974, a dewiswyd ef yn chwip yr wrthblaid yn yr un flwyddyn. Ym 1979 penodwyd ef yn Is-ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, gyda chyfrifoldeb dros addysg o fewn y Dywysogaeth. Roedd yn llywydd yr Undebwyr Llafur Ceidwadol, 1977-79, ac etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas y Clybiau Ceidwadol ym 1980. Ym 1974 daeth Roberts yn gyfarwyddwr ymgynghorol i John Addey Associates, cwmni cysylltiadau cyhoeddus, ac ym 1975 penodwyd ef yn ymgynghorydd diwydiannol i Minton, Treharne and Davies, dadansoddwyr ac ymgynghorwyr cemegol yng Nghaerdydd.

Priododd Mrs Eileen Jean Evans, merch C. H. Billing. Bu iddynt ddau fab a merch. Bu'r ferch farw o flaen ei thad. Roeddent yn byw yn Fferm Ashgrove, yr Eglwys Newydd, Caerdydd. Bu farw Roberts ar 10 Chwefror 1983 ar ôl iddo lewygu wrth y Blwch Dogfennau yn y Tŷ Cyffredin tra oedd yn cyflwyno ateb yn ystod dadl ar faterion Cymreig. Roedd wedi dioddef o broblemau iechyd am ddwy flynedd cyn hynny ac yr oedd yn farw pan gyrhaeddodd ysbyty San Steffan. Claddwyd ei gorff ym mynwent Pantmawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.