Ganwyd 6 Mehefin 1874, ym Mhlas Corniog, Llanegryn, Sir Feirionnydd. Cafodd afiechyd yn gynnar yn ei oes a phan oedd tua 13 oed cyfyngwyd ef i'w wely am tua 10 mlynedd. Pan ddaeth yn well prentisiwyd ef yn deiliwr yn Abermo a Llanegryn. Yn 1907 fe'i penodwyd yn glerc cyngor plwyf Llanegryn ac yn dreth-gasglydd. Yn 1921 aeth i Groesoswallt i gadw gwesty ond dychwelodd i Lanegryn yn 1928. Bu farw 19 Mehefin 1949.
Ysgrifennodd lawer o ysgrifau i Cymru (O.M.E.), Yr Haul, Lleufer, Y Ford Gron, Heddiw, Y Dysgedydd, a Bathafarn. Rhoes help hefyd i Bodfan Anwyl gyda phumed argraffiad geiriadur Spurrell. Eithr ei waith pennaf oedd Hanes Plwyf Llanegryn, a gyhoeddwyd yn 1948.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/