Ganwyd 10 Rhagfyr 1905 yn Hafoty Fawr, Melin-y-Wig, Meirionnydd, yn drydydd mab Rice Price Jones a Jane (ganwyd Jones). Bu farw ei dad cyn bod J.E. yn flwydd oed, a'i fam, gyda chymorth ei ddau frawd hynaf, a ffermiodd y lle wedyn. Diau i safle godidog ei gartref a diwylliant cyfoethog yr ardal, yn gerddorol, llenyddol a chrefyddol, ei glymu wrth Gymru yn ieuanc. Cafodd taid iddo ei garcharu adeg rhyfel y degwm.
Yn ysgol gynradd Melin-y-Wig - enw a adferwyd ganddo ef- - 1910-18, ac yn ysgol ramadeg y Bala, 1918-24, y cafodd ei addysg cyn mynd i Brifysgol Cymru yng ngholeg Bangor yn 1924. Yno bu'n ysgrifennydd Undeb y Myfyrwyr gan lwyddo i wneud y Gymraeg yn gyd-swyddogol â'r Saesneg. Yr oedd yn flaenllaw yng nghymdeithas ' Y tair G ', un o'r tair ffrwd a ymunodd i ffurfio Plaid Genedlaethol Cymru yn Awst 1925. Ef a benodwyd yn ysgrifennydd cangen y Blaid pan ffurfiwyd hi yn y coleg ym mis Tachwedd 1926, a safodd fel cenedlaetholwr mewn ffug etholiad gan ddod ar ben y pôl. Graddiodd yn 1927.
Wedi iddo gymryd swydd athro yn Llundain yn 1928 ffurfiwyd cangen o'r Blaid yno gyda J.E. eto yn ysgrifennydd. Daeth y gangen, o achos ei ddawn trefnu eithriadol, yn od o lewyrchus - y fwyaf yn y Blaid. Dychwelodd i Gymru yn 1930 fel ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Genedlaethol. Yng nghapel MC Glanrhyd, 27 Gorffennaf 1940 priododd ag Olwen Roberts, chwaer John Iorwerth Roberts, a bu iddynt fab a merch.
Meddai ar gymeriad gwydn, meddwl cryf ac amynedd. Yn fynych cuddid nerth mawr ei bersonoliaeth gan ei addfwynder. Ar wahân i'w waith fel ysgrifennydd pwyllgor gwaith y Blaid, ef a drefnai'r gynhadledd a'r ysgol haf flynyddol, a'r ralïau. Adeiladodd y rhain yn sefydliadau cryf, ond hefyd symbylai godi canghennau ar hyd ac ar led y wlad. Ar wahân i'w gyfrifoldeb am etholiadau lleol a seneddol (safodd ei hun fel ymgeisydd yn Arfon yn 1950), trefnodd lawer ymgyrch arbennig, megis y rhai dros radio a theledu, dros gorfforaeth ddatblygu, yn erbyn cynlluniau eithafol y Comisiwn Coedwigo ac yn erbyn meddiannu tir Cymru gan y Swyddfa Rhyfel; cylchynwyd gwersyll milwrol Trawsfynydd ddwywaith gan aelodau'r Blaid. Tyfodd yr ymgyrch yn erbyn boddi Cwm Tryweryn yn fawr iawn; ond diau mai'r ymgyrch yn erbyn yr Ysgol Fomio yn Llŷn oedd yr enwocaf, pan garcharwyd Saunders Lewis , Lewis Valentine a D.J. Williams. Golygai'r ymgyrchoedd niferus hyn waith mawr wrth geisio ennill cefnogaeth y wlad. Cyfrannodd ef yn fwy na neb i'r gamp fawr o gadw Plaid Cymru at ei gilydd yn ystod Rhyfel Byd II.
Gofalai am y wasg a phob cyhoeddusrwydd, ac ar adegau syrthiai pen trymaf y baich o gyhoeddi papurau'r Blaid, Y Ddraig Goch a'r Welsh Nation, ar ei ysgwyddau. Cyhoeddwyd dros gant o lyfrau a phamffledi yn ystod ei ysgrifenyddiaeth. Ef hefyd a adeiladodd Gronfa Gwyl Ddewi fel prif ffynhonnell ariannol y Blaid.
Bu'n darlithio a pharatoi cyfresi teledu ar arddio yr oedd yn gryn arbenigwr arno. Ar wahân i gyfrol werthfawr ar y pwnc ysgrifennodd lyfr teithio am Yr Yswisdir. Eithr ei gyfrol werthocaf yw Tros Gymru, sy'n fwynfa o wybodaeth am Blaid Cymru hyd at 1945. Ar ben hyn oll, bu'n athro ar ddosbarth mawr o wragedd ifanc yn Ysgol Sul capel Heol y Crwys (MC), Caerdydd.
Afiechyd a'i gorfododd yn 1962 i roi'r gorau i ysgrifenyddiaeth y Blaid, gan gymryd swydd ysgafnach fel cynghorwr iddi, ac ar ei ffordd adref o'r swyddfa, yn ystod yr etholiad cyffredinol, yr oedd pan fu farw yn sydyn, 30 Mai 1970. Claddwyd ef ym mynwent Melin-y-Wig. Meddylir amdano bob amser fel prif bensaer Plaid Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.