Ganwyd Eirian Davies ar 28 Mai 1918 yn fab i Rachel a Dafydd Davies, y ddau yn enedigol o Frechfa, ond wedi cartrefu yn y Llain, Nantgaredig. Daeth ei dad yn arweinydd ym myd crefydd a'i ethol yn flaenor yng nghapel y Presbyteriaid. Addysgwyd Eirian yn ysgol gynradd Nantgaredig ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin. Bu'r drychineb o golli ei frawd Emrys, a foddodd pan oedd y ddau'n nofio yn afon Tywi gerllaw'r Llain, yn ysgytwad mawr iddo, ac yn yr argyfwng derbyniodd gysur yng nghymdeithas ei gapel. Bu hyn yn ysgogiad iddo ystyried y weinidogaeth fel galwad ei fywyd.
Treuliodd flwyddyn yn hogi arfau yng Ngholeg Trefeca, ac yna symudodd i Goleg y Brifysgol Abertawe i astudio ar gyfer ei radd. Dechreuodd ennill sylw fel bardd yn y cyfnod hwn, gan gipio'r Gadair a'r Goron ddwywaith mewn eisteddfodau rhyngolegol, a derbyniai ganmoliaeth gyson gan Dewi Emrys yn y golofn Awen y Beirdd yn y Cymro. Gwelwyd ei waith barddonol yn y Y Fflam, cylchgrawn a ymddangosodd yn 1946, ac yn y Cymro, a chyhoeddodd Keidrych Rhys ei gyfrol gyntaf Awen y Wawr yn 1947. Daeth i adnabod Ludwig Wittgenstein, yr athronydd athrylithgar, oedd ar staff yr Adran Athroniaeth. Datblygodd yr adnabyddiaeth yn gyfeillgarwch a bu Wittgenstein yn aros am rai dyddiau ar aelwyd ei deulu yn Nantgaredig. O Abertawe dilynodd Eirian gwrs diwinyddiaeth yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. Adnabyddid ef yn y cylchoedd gwledig yn Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi fel pregethwr deniadol a myfyriwr anghonfensiynol yn ei arddull, ac yn arbennig ei wisg. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1949 a gwasanaethodd mewn tair gofalaeth, sef Hirwaun a Phenderyn, Cwm Cynon (1949-1954), Brynaman (1955-1961) a Bethesda, yr Wyddgrug a Nercwys (1962-1981).
Cyn dechrau ar ei yrfa fel gweinidog priodwyd ef yn 1949 â Jennie Howells o Lanpumsaint, merch dalentog a gweithgar o fewn y byd Cymreig. Gosododd hi yr enw Eirian yn rhan o'i henw ei hun. Daeth Jennie Eirian Davies (1925-1982) i sylw'r cyhoedd a'r cyfryngau pan safodd fel ymgeisydd seneddol dros Blaid Cymru yn etholaeth Caerfyrddin yn Etholiad Cyffredinol 1955 ac eto mewn is-etholiad yn 1957. Cefnogai ei phriod hi yn yr etholiadau hyn ac yn ei hymgyrchoedd eraill dros yr iaith Gymraeg a'r bywyd crefyddol. Ganwyd iddynt ddau fab, Siôn Eirian (1954) a ddaeth yn llenor Cymraeg llawn-amser, a Guto (1958).
Cafodd Eirian a'i briod ddylanwad mawr ym mhob cylch o'u gweinidogaeth, yn arbennig ym myd yr Eisteddfod, ond yn fwyaf arbennig yn ystod eu hamser yn nhref yr Wyddgrug. Daeth Capel Bethesda yn ganolfan i'r Cymry Cymraeg yn y dref a derbyniai yr aelodau a phlant yr Ysgolion Cymraeg gryn gymorth o arweiniad Eirian yn yr addoliad a'i bregethu didwyll. Meddai ar lais melodaidd a chyflwynai ei neges yn hamddenol braf mewn iaith goeth. Medrai gyfathrebu yn effeithiol gyda'r ifainc. Ysgogodd ugeiniau ohonynt i berffeithio eu doniau llefaru a barddoni gan y bu galw amdano fel beirniad yn yr eisteddfodau led-led Cymru, yn arbennig Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd yn un o sylfaenwyr a golygydd y cylchgrawn Byw ar gyfer pobl ieuainc capeli Cymru o bob enwad, a gwahoddwyd ef gan gyhoeddwyr o Lerpwl, Cyhoeddiadau Modern Cymreig, i fod yn olygydd y gyfres Beirdd Cyfoes. Cyflawnodd hynny heb drafferth a llwyddo i gael y bardd Ben T. Hopkins i gasglu ei gerddi ynghyd. Enillodd Wobr Cyngor y Celfyddydau ym 1975 a 1984 ac ysgoloriaethau ym 1983 a 1989.
Cyhoeddwyd tair cyfrol arall o'i farddoniaeth, Cân Galed (1967), Cyfrol o Gerddi (1985) ac Awen yr Hwyr (1991), a chyfrol o gerddi i blant, Darnau Difyr (1989). Ef oedd golygydd Iaith Amlwch (1969), sef cyfrol o bregethau'r Parchedig D. Cwyfan Hughes, a bu'n olygydd Diliau'r Dolydd o waith y Parchedig G. Ceri Jones, Clydach-ar-Dawe, a gyhoeddwyd yn 1964. Ceir pregeth nodweddiadol o'i arddull yn Ffolineb Pregethu a olygwyd gan Dewi Eirug Davies yn 1967.
Cynorthwyodd ei briod yn ei gwaith fel golygydd Y Faner o 1979 i 1982. Bu ei cholli mewn amgylchiadau mor drist yn loes o'r mwyaf iddo. Ymddeolodd o'r fugeiliaeth yn yr Wyddgrug a phenderfynodd symud i Langynnwr, ger Caerfyrddin, i ymyl ei chwaer Aeres a'r bechyn a'u teuluoedd ym Morgannwg. Yn niwedd ei oes bu'n rhaid iddo symud i gartref henoed yn Ffairfach, ger Llandeilo ac yno y bu farw ar 5 Gorffennaf 1998. Cynhaliwyd yr arwyl ar 11 Gorffennaf a gwasgarwyd ei lwch yn y pwll lle boddodd ei frawd. Gosodwyd plac i'w goffáu yng Nghapel Nantgaredig yn 2004 a thraddododd ei gyfaill W. I. Cynwil Williams anerchiad cofiadwy ar yr achlysur.
Dyddiad cyhoeddi: 2015-05-13
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.