Ganwyd 26 Mehefin 1897 yn Newgate, plwyf Llangunllo, Ceredigion, mab William ac Ellen Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Rhydlewis, ysgol ramadeg Llandysul, a Choleg Diwinyddol Aberystwyth. Ordeiniwyd ef yn 1922, a gweinidogaethodd yng Nghwm-parc (1922-28), Minffordd (1928-32), Llanwrtyd (1932-36), Port Talbot (1936-47), Clydach-ar-Dawe (1947-58). Priododd, 1934, Mary Symmons, Abertawe, a ganwyd un mab iddynt. Bu farw 9 Ionawr 1963 yn Llansamlet.
Yr oedd yn bregethwr craff a gwreiddiol, a galw mawr am ei wasanaeth, ond ar ôl anhwylder tost amharwyd ar ei leferydd. Troes ei allu creadigol wedyn i farddoni, gan arbenigo yn y mesurau caeth a chyhoeddi ei gynhyrchion yn y papurau wythnosol a'r cylchgronau Cymraeg. Cystadleuai yn yr Eisteddfod Genedlaethol gan ennill gwobrwyon ar yr englyn a'r rhieingerdd. Ef, yn 1955, ym Mhwllheli a gafodd y gadair am awdl ('Gwrtheyrn'). Ceir awdlau o'r eiddo ef ('Bro'r Ogofeydd') a T. Ll. Jones yn y llyfryn Dwy Awdl, a chyhoeddwyd casgliad o'i farddoniaeth ar ôl ei farw dan y teitl Diliau'r Dolydd (1964).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.