Ganwyd T. Llew Jones, a gyhoeddodd tua hanner cant o gyfrolau i blant ac oedolion, 11 Hydref, 1915, yn 1 Bwlch Melyn, Pentre-Cwrt, Sir Gaerfyrddin, yn fab hynaf James Jones a Hannah Mary Jones ac yn frawd i Edwin Sieffre a Megan Eluned. Yr oedd ei dad yn wehydd yn Ffatri Derw ym Mhentre-cwrt. Priododd â Margaret Enidwen Jones, un o ddisgynyddion teulu'r Cilie, a chawsant ddau o feibion, Emyr Llewelyn ac Iolo Ceredig. Etifeddodd y ddau yn helaeth o ddoniau ei tad gan gyfrannu yn sylweddol at fywyd y genedl yn eu hamrywiol feysydd, Emyr fel llenor, athro a darlithydd ac Iolo fel gwyddbwyllwr rhyngwladol.
Addysgwyd Llew Jones yn ysgolion cynradd Capel Mair a Saron ac yna yn ysgol uwchradd Llandysul. Gadawodd yr ysgol yn un-ar-bymtheg oed a bu am gyfnod y ddisgybl-athro yn ei hen ysgol yng Nghapel Mair. Gobeithiai barhau gyda'i addysg ffurfiol gan fynd i'r Coleg Hyfforddi yng Nghaerfyrddin ond bu rhaid iddo anghofio am y cynlluniau hynny pan fu ei dad farw yn frawychus o sydyn yn 1936. Teimlai fod arno ddyletswydd i fynd i ennill cyflog ac yn y cyfnod hwn bu'n cyflawni pob math o waith er mwyn cynorthwyo ei fam weddw a'i theulu ifanc i gael dau pen llinyn ynghyd. Ond torrodd Rhyfel Byd II allan a derbyniodd ef ei bapurau listio ar ddydd ei briodas. Yn fuan wedyn bu rhaid iddo adael ei wraig a'i fam a'i throi hi am yr Eidal a Gogledd Affrica lle bu yn gwasanaethu tan ddiwedd yr ymladd. Bu'r rhain yn flynyddoedd anhapus iddo; dioddefodd o afiechyd a hiraethai am ei deulu a'i gydnabod yn ôl yng Nghymru.
Ar ôl dychwelyd manteisiodd ar y cynllun a oedd ar gael i gymhwyso pobl a oedd yn gadael y Lluoedd Arfog i fod yn athrawon. Dilynodd y cwrs yng Ngholeg y Waun, Caerdydd, a chafodd swydd fel athro yn Sir Aberteifi. Am gyfnod bu'n symud o fan i fan, o Abertefi i'r Borth, cyn iddo gael ei leoli yn Nhalgarreg. Yno, wrth draed T. Ll. Stephens, tyfodd yn y swydd ac atgyfnerthwyd ei Gymreictod. Wedi deunaw mis teimlai'r mentor fod ei gynorthwydd yn barod i gael ei ysgol ei hunan. Apwyntiwyd ef yn brifathro ysgol Tre-groes yn 1950 ac ym mhen saith mlynedd symudodd i Goed-y-bryn lle treuliodd weddill ei yrfa fel prifathro, cyn ymddeol i fyw ym Mhontgarreg yn 1975. Dysgodd gan T. Ll. Stephens mai lles y plant a ddylai gael y flaenoriaeth bob amser ac ni fyddai lle yn ei ysgol ef i unrhyw un na fedrai barchu'r safonau disgwyliedig.
Erbyn hyn yr oedd yn dechrau cael hwyl ar brydydda ac enillodd nifer o gadeiriau lleol a thaleithiol. Yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili yn 1950 yr oedd yn fuddugol ar yr englyn 'Ceiliog y Gwynt'. Bu'n llwyddiannus hefyd ar nifer o gystadleuthau llai yn Adran Llenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol cyn iddo ennill y Gadair yng Nglynebwy yn 1958 am ei awdl 'Caerllion-ar-Wysg'. Flwyddyn yn ddiweddarach yng Nghaernarfon enillodd eto, ar y testun 'Y Dringwr', gan efelychu camp Dewi Emrys, yr unig brifardd arall i gael ei gadeirio ddwy flynedd yn olynol. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth ar gyfer oedolion, sef Swn y Malu yn 1967 a Canu'n Iach! yn 1987. Meddai ar awen felys a rhoddai, fel bardd a beirniad, fri ar ganu swynol, clir a thelynegol.
Yr oedd, yn y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, brinder affwysol o ddeunydd darllen Cymraeg ar gyfer plant ysgol ac o dan ysgogiad Llyfrgellydd Cerdigion ar y pryd, Alun R. Edwards, cynhaliwyd nifer o gynhadleddau ym Mhlas y Cilgwyn yng Nghastell Newydd Emlyn er mwyn cymryd camau tuag at ddiwallu'r angen. Trefnid cystadleuthau llenyddol ac aed ati i gyhoeddi gwaith yr enillwyr. Dechreuodd T. Llew Jones gael blas ar ysgrifennu storïau antur ac yn fuan iawn sefydlodd ei hun fel prif awdur llyfrau plant yn y Gymraeg. Enillodd Wobr Tir na n-Og yn 1976 am Tân ar y Comin ac yn 1990 am Lleuad yn Olau a Thlws Mary Vaughan Jones yn 1991 am ei gyfraniad arbennig i faes llyfrau plant. Bu'n hynod gynhyrchiol a chafodd ei ryddhau ar ddiwedd ei yrfa o'i ddyletswyddau ysgol er mwyn iddo gael yr amser i ysgrifennu rhagor o gyfrolau i ateb y galw. Âi o amgylch ysgolion Cymru i ddarllen ei waith a byddai'r plant yn ei addoli. Troswyd dwy o'i gyfrolau yn ffilmiau ar gyfer y teledu a chyfiethwyd un ohonynt, Tân ar y Comin, i nifer o ieithoedd ac fe'i dangoswyd ar hyd y byd. Recordiwyd ef yn darllen Lleuad yn Olau.
Cyfansoddai gerddi hefyd ar gyfer plant a chyhoeddodd ddwy gyfrol, Penillion y Plant yn 1965 a Cerddi Newydd i Blant yn 1973. Yn ddiweddarach cyfunwyd hwy mewn argraffiad newydd o dan y teitl gwreiddiol Penillion y Plant (1990). Bu mynd mawr arnynt fel darnau adrodd a daeth nifer ohonynt yn glasuron. Mae nifer o'i gerddi gorau, megis 'Cwm Alltcafan', yn apelio ar wahanol lefelau at blant ac oedolion fel ei gilydd. Mae'n bosibl mai yn y maes hwn y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf oll ac fe'i cyfrifir, fel bardd plant, ymhlith y mawrion oesol. Er 2009 cynhelir Diwrnod Cenedlaethol T. Llew Jones yn flynyddol o gwmpas dyddiad ei benblwydd, 11 Hydref a bydd plant ysgol ledled Cymru'n cymryd rhan yn y dathliadau. Disgyblion ysgol Chwilog a gafodd y syniad a Chyngor Llyfrau Cymru sy'n trefnu'r diwrnod. Cyhoeddodd T. Llew Jones gyfrol o atgofion, 'Slawer Dydd', yn 1979 ac y mae ei ddyddiaduron yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Yr oedd T. Llew Jones yn wr eang ei ddiddordebau. Ymddiddorai mewn llên gwerin ac mewn mytholeg a chyfrannodd nifer o erthyglau yn Gymraeg ac yn Saesneg i gylchgronau megis Llafar Gwlad a Carmarthenshire Life. Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd ac yn wyneb a llais cyfarwydd ar y cyfryngau torfol. Ar ben hynny yr oedd yn wyddbwyllwr medrus ac y mae iddo le pwysig yn hanes gweinyddiaeth y gêm fel un o sylfaenwyr Undeb Gwyddbwyll Cymru.
Bu farw ar 9 Ionawr 2009 ym Mhontgarreg a chladdwyd ei lwch ym mynwent Capel y Wig, Pontgarreg.
Dyddiad cyhoeddi: 2013-02-19
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.