JONES (TEULU), Cilie, Ceredigion Teulu o ofaint a ffermwyr, beirdd, cantorion a phregethwyr

Amaethent 'Y Cilie', fferm o dros dri chan erw uwchben y môr rhwng Llangrannog a Cheinewydd, Ceredigion. Gof oedd y tad, Jeremiah Jones (ganwyd 9 Ebrill 1855; bu farw 19 Chwefror 1902), a hanai o deulu o ofaint yng ngogledd Penfro, teulu â chysylltiad agos, yn ôl traddodiad, â Beirdd Cwm-du, ger Castell Newydd Emlyn (gweler Siencyn Thomas, a John Jenkin). Daeth ef a'i briod Mary (ganwyd George, 1853 - 1930), o deulu Georgeaid Sir Benfro i gadw'r efail ym Mlaencelyn, plwyf Llangrannog, yn 1876. Yno y ganed eu hwyth plentyn cyntaf; symudwyd i fferm 'Y Cilie' yn 1889, a ganwyd y gweddill o'r deuddeg plentyn yno.

Ceir peth o ganu Jeremiah 'r tad yn Awen ysgafn y Cilie (1976). Dysgodd y bechgyn i gyd grefft y gof er mai ynglyn â cheffylau a pheiriannau'r fferm y defnyddiwyd yr efail yn 'Y Cilie'. Rhoes amryw o'r merched a'r bechgyn wasanaeth gwiw gyda chanu yng nghylch Capel-y-Wig, yn arbennig Tom, y trydydd, ac Ann, y chweched plentyn. Yr oedd y meibion eraill, ac eithrio Tom, sef Frederick, David ('Isfoel'), John ('Tydu'), Evan George ('Sioronwy'), Simon Bartholomeus, ac Alun Jeremiah yn feirdd o fedr yn y mesurau caeth a rhydd, ac y mae llawer o'u gwaith ar gael. Ceir llawer o fân hanesion y teulu yn Ail gerddi Isfoel a hunangofiant byr (1965), ac yn Awen ysgafn y Cilie.

FREDERICK CADWALADR (Fred, 1877 - 1948), gweinidog (A), llenor a chenedlaetholwr

Ef oedd yr hynaf o'r plant, fe'i ganwyd 3 Mai 1877 yn nhy'r efail, Blaencelyn. Wedi gadael ysgol Pontgarreg, bu'n gweithio yn yr efail ac ar y fferm gan fynd i ysgol diwtorial y Cei am ysbeidiau o 1897 i 1899, pryd y cafodd fynd i Goleg Bala-Bangor ac i Goleg y Brifysgol ym Mangor i baratoi at waith y weinidogaeth; cymerodd raddau B.A. yn 1903 a B.D. (yn 1910 wedi mynd i'r weinidogaeth). Meysydd ei lafur gweinidogaethol oedd Moreia, Rhymni (1906-17); Bethania, Treorci (1917-27); Bethel, Tal-y-bont, Ceredigion (1927-48). Bu'n amlwg yn sefydlu'r Cymrodorion yn Rhymni a Threorci ac ymddiddorai mewn materion cymdeithasol a'i bwyslais bob amser, ar lwyfan ac yn y wasg, ar barch at yr iaith Gymraeg a'r gwaith o'i gwarchod. Bu'n gynghorwr ar gyngor sir Ceredigion o 1927 hyd ei farwolaeth yn 1948.

Perthynai i grwp deheudir Cymru y rhai a fynnai sefydlu plaid wleidyddol i weithio dros ymreolaeth, ac yr oedd yn un o'r chwech a gyfarfu ym Mhwllheli a sefydlu'r Blaid Genedlaethol yn 1925. Bu am gyfnod hir yn ddarlithydd poblogaidd ar destunau fel 'Michael D. Jones', 'Brethyn cartre', 'Dysgwch y ddwy', a 'Daniel Owen'. Darlithiai hefyd yn allanol dan y Brifysgol yn y Rhondda a Cheredigion. Daethai i amlygrwydd yn y coleg fel englynwr a chywyddwr, yn gwmnïwr ffraeth a diddan, a pharhaodd yn bregethwr gwreiddiol, grymus a dewr. Enillodd gadair Gwent yn 1913 am awdl 'Llywelyn ein llyw ola'; beirniadai yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Cyhoeddodd lyfryn ar yr Hen Destament, Llên a dysgeidiaeth cyfnod: I: Hanes Israel (1929); ysgrifennodd erthyglau i'r Geiriadur Beiblaidd (1926); gadawodd lawysgrif a gyhoeddwyd yn 1977 dan y teitl Hunangofiant gwas ffarm; cyhoeddwyd drama fer o'i waith 'Y ngwr i ' yn Y Llenor , Hydref 1926, ac englynion a cherddi ysgeifn yn Awen ysgafn y Cilie, 1976.

Priododd ddwywaith (1) yn 1906, Maud, merch y Parch. a Mrs. E. H. Davies, Llan-non, Sir Gaerfyrddin, a (2) Eunice, merch y Parch. a Mrs. D. Rhagfyr Jones, Treorci, Morgannwg. Bu farw 2 Tachwedd 1948.

DAVID (Isfoel, 1881 - 1968), bardd, baledwr ac arweinydd eisteddfodau

Ef oedd y pedwerydd plentyn, ganwyd yn nhy'r efail, Blaencelyn ar 16 Mehefin 1881. Wedi marw y tad yn 1902 disgynnodd gwaith y fferm arno ef a'i fam. Yr oedd yn of a pheiriannydd dawnus. Yn ifanc daeth 'Dai Cilie' neu 'Isfoel' yn enw adnabyddus drwy'r cymdogaethau fel bardd a baledwr ac arweinydd eisteddfodau gyda'r ffraethaf. Yr oedd yn enillydd cyson mewn eisteddfodau ar englyn a chywydd a chân. Aeth ei englynion a phenillion ar achlysuron arbennig ar gof gwlad. Er y ffraethineb a'r cellwair a fynnai reoli ei ganu, cyfansoddodd gywyddau, telynegion ac yn arbennig englynion coffa â graen y meistr arnynt. Fe'i derbyniwyd yn dderwydd er anrhydedd yng Ngorsedd y Beirdd, ac enwodd yr annedd a gododd at ymddeol gyda'i briod Catrin (o Nanternis) yn 'Derwydd'. Bu iddynt un mab, a threuliasant y rhan helaethaf o'u hoes yn ardal Pontgarreg, Llangrannog. Bu Isfoel yn feirniad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a chyda'i frawd Alun bu'n hyfforddi cwmni drama 'Cilie-Crannog'. Cyhoeddodd yn hydref ei fywyd rai cyfrolau: Cerddi Isfoel, 1958; Ail gerddi Isfoel a hunangofiant byr, 1965; Hen yd y wlad, 1966; a cheir peth o'i waith yn Awen ysgafn y Cilie, 1976. Bu farw 1 Chwefror 1968.

SIMON BARTHOLOMEUS (1894 - 1964), gweinidog (A), a bardd

Ef oedd yr ieuengaf ond un o'r plant. Ganwyd yn y Cilie, 5 Gorffennaf 1894. Bu'n forwr yn ifanc, ond ar ôl torri ei goesau wrth syrthio i howld y llong ym mhorthladd Buenos Aires a bod am naw mis mewn ysbyty yno, dychwelodd i fferm y Cilie. Yna aeth i'r weinidogaeth drwy ysgol diwtorial y Ceinewydd, Coleg y Brifysgol, Bangor, a Choleg Bala-Bangor. Cafodd radd B.A. ar ôl torri ei gwrs pan fu gyda'r Y.M.C.A. yn ystod Rhyfel Byd I. Bu'n weinidog yn eglwysi Great Mersey Street, Lerpwl, 1922-27, Creigfryn, Carno, 1927-32, a Peniel ger Caerfyrddin, 1932-62. Ymddeolodd ac aeth ef a'i briod (priododd 1923, Annie, merch Mr. a Mrs. David Jones, ysgolfeistr Glynarthen) i fyw i Lynarthen, lle y bu farw 27 Gorffennaf 1964. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, a chyfrifid ef yn artist o efengylydd; bu'n arwain cymanfaoedd canu pan oedd yn weinidog ieuanc. Hyfforddodd gwmni drama llwyddiannus iawn ym Mheniel, a bu'n beirniadu actio drama amryw droeon.

Barddonai'n gyson o ddyddiau coleg hyd ei farw. Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, 1933, gyda phryddest 'Rownd yr Horn', a chadair Eisteddfod Genedlaethol Abergwaun, 1936, gydag awdl 'Tyddewi', a mân wobrau eraill yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Beirniadodd droeon yn y brifwyl ac yr oedd yn brifardd yng Nghorsedd y Beirdd tan yr enw 'SB'. Cyhoeddodd awdl arbennig iawn 'Yr unben', 1935, a ddaethai i frig y gystadleuaeth unwaith, ac ar ôl ei farwolaeth cyhoeddwyd ei weithiau barddonol a pheth o'i ryddiaith yn Cerddi ac ysgrifau S.B. Jones (1965).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.