Ganwyd 26 Mai 1881 ym Majorca House, Ceinewydd, Ceredigion, yn fab i Thomas Emrys James, gweinidog (A) yn Llandudno ar y pryd, a Mary Ellen (ganwyd Jones), ei wraig, merch i gapten llong. Daeth y fam yn ôl i'r Cei i eni'r plentyn, a alwyd i ddechrau David Edward, ond mabwysiadwyd Emrys yn ddiweddarach. Pan oedd yn saith oed cafodd ei dad alwad i fugeilio eglwys Rhosycaerau, ger Abergwaun, ac yno y treuliodd ei blentyndod. Cafodd ei addysg gynnar yn ysgol Henner, plwy Llanwnda, ysgol baratoi W. S. Jenkins, ac ysgol uwchradd Abergwaun. Aeth i'w brentisio'n gysodydd a newyddiadurwr i swyddfa'r County Echo yn Abergwaun. Yn 1896 symudodd y teulu i Gaerfyrddin, a chafodd yntau gyfle i orffen ei brentisiaeth ar y Carmarthen Journal. Rhoes y golygydd, Henry Tobit Evans, bob cefnogaeth iddo i barhau i lenydda ac adrodd ar lwyfannau fel y gwnaethai er yn ieuanc. Gwnaed ef yn is-olygydd ac yn olygydd colofn Gymraeg y Journal cyn ei fod yn 20 oed, a chafodd ei ryddhau i fynd yn fyfyriwr rhan amser yn ysgol yr Hen Goleg o dan Joseph Harry. Yn y cyfnod hwn y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i'r Coleg Presbyteraidd yn 1903. Bu am ychydig yn Eglwys Rydd y Cymry yn Lerpwl a sefydlwyd gan William Owen Jones, cyn derbyn galwad i Fryn Seion, Dowlais, yn 1907. Oddi yno, yn 1908, aeth i eglwys Saesneg Buckley, Sir y Fflint. Ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno priododd â Cissie Jenkins yng nghapel (A) Saesneg Caerfyrddin. Yn 1911 symudodd eto i eglwys Saesneg Gelliwastad, Pontypridd. Yr oedd yn un o bregethwyr huotlaf Cymru cyn Rhyfel Byd I; yna yn 1915 aeth i Loegr yn weinidog ar eglwys Finsbury Park yn Llundain, gan aros yno tan 1917. Ymunodd â'r fyddin ac erbyn 1918 diflannodd ei enw o'r Congr. Yr. Bk.
Aeth yn ddiofal yn ei berthynas â phobl, ac â'i eglwys, a threuliodd flynyddoedd fel pe'n ddiangor ac wedi ymwahanu oddi wrth ei deulu, - gwraig a dau fab. Ymsefydlodd drachefn yn 1940-41 gyda'i ferch, Dwynwen, yn 'Y bwthyn', Talgarreg, Ceredigion, gan ymaelodi ym Mhisgah a phregethu'n achlysurol yn y cylchoedd cyfagos, ac yno y bu weddill ei oes.
Bu'n cynnal dosbarthiadau llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg yma a thraw tan fudiad addysg oedolion, a bu'r ' Bwthyn ' yn gyrchfan beirdd a llenorion. Yr oedd yn un o feistri cerdd dafod gan ennill ymysg gwobrau lawer yn yr Eisteddfod Genedlaethol, y goron yn Abertawe, 1926 ('Rhigymau'r ffordd fawr'), a'r gadair bedair gwaith - Lerpwl, 1929 ('Dafydd ap Gwilym'), Llanelli, 1930 ('Y Galilead'), Bangor, 1943 ('Cymylau amser'), a Phen-y-bont ar Ogwr, 1948 ('Yr alltud'). Bu'n olygydd ' Pabell Awen ' Y Cymro o 1936 i 1952.
Bu farw yn ysbyty Aberystwyth ar 20 Medi 1952, a chladdwyd ef ym mynwent Pisgah, Talgarreg. Codwyd maen coffa hefyd uwchlaw clogwyni Pwllderi, gogledd Penfro.
Cyhoeddwyd llawer o'i waith: Rhigymau'r ffordd fawr, (1926), Rhymes of the road, (1928), Y cwm unig a chaniadau eraill, (1930), Ysgrifau (1937), Odl a chynghanedd (gwerslyfr ar gerdd dafod, 1938), Beirdd y Babell (gol.), (1939), Cerddi'r bwthyn, (1948), a llyfrynnau barddoniaeth: Y gwron di-enw (pryddest Eisteddfod Môn), (1922), Y gân ni chanwyd (pryddest ailorau Lerpwl), (1929), Atgof (pryddest ail-orau Pontypwl), (1924), Daniel Owen (awdl Eisteddfod Llundain), (1936).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.