DAVIES, JENNIE EIRIAN (1925-1982), newyddiadurwraig

Enw: Jennie Eirian Davies
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 1982
Priod: James Eirian Davies
Plentyn: Guto Davies
Plentyn: Siôn Eirian Davies
Rhiant: Jane Howells
Rhiant: David Howells
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: newyddiadurwraig
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Elin Angharad

Ganwyd Jennie Howells ar 6 Chwefror 1925 yn ferch i Jane a David Howells, Waunrhelfa, Llanpumsaint, Sir Gaerfyrddin. Roedd yn un o chwech o blant, er y bu i ddau o'i brodyr, Richard a Dewi, ac un chwaer, Mary, farw yn ifanc iawn o'r diciâu. Addysgwyd hi'n Ysgol Elfennol Llanpumsaint, Ysgol Sir y Merched, Caerfyrddin a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth, lle dyfarnwyd gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg iddi. Aeth ymlaen wedi hynny i gwblhau cwrs dysgu gyda rhagoriaeth. Priododd y Parchedig James Eirian Davies ar 19 Tachwedd 1949 a ganed dau o feibion iddynt, Siôn Eirian (ganwyd 1954) a Guto Davies (ganwyd 1958). Bu'r teulu yn byw yn Hirwaun (1949-54), Brynaman (1954-62) ac yn yr Wyddgrug (1962-82).

Jennie Eirian oedd ymgeisydd benywaidd cyntaf Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin, a gwnaeth gryn argraff yn Etholiad Cyffredinol 1955 gan gipio 7.8% o'r bleidlais, ac eto yn is-etholiad 1957 pan gynyddodd ei chyfran o'r bleidlais i 11.5%. Roedd hwn yn gam sylweddol iawn yn hanes y Blaid gan fod y sir yn cael ei hystyried yn gadarnle i'r Rhyddfrydwyr, a diau i hyn fraenaru'r tir ar gyfer buddugoliaeth Gwynfor Evans yn 1966.

Cyhoeddodd Jennie dri llyfr i blant, Bili Bawd (1961), Guto (1961) a Fflwffen (1963). Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn Trysorfa'r Plant gan newid teitl y cylchgrawn i Antur yng Ngorffennaf 1966. Rhoddai hyn gyfle iddi bwysleisio pwysigrwydd ac ystyr '… bywyd Cristion: anturiaeth, menter, peryglon, rhamant … Mae'r darlun clawr gan Hywel Harries yn dangos dau ifanc yn cychwyn ar ANTUR. Mae eu llygaid yn edrych i fyny - ac i fyny mae'r nod bob amser. Beibl sy'n eu llaw, hwnnw fydd yn eu cyfarwyddo fel map ar y daith.' Dyma'r delfrydau Cristnogol a oedd yn hanfodol i fywyd a gwaith Jennie Eirian, y gred mai i fyny mae'r nod ac y dylid anelu am y gorau a gwneud hynny gydag arddeliad bob amser.

Un anrhydedd arbennig a ddaeth i ran Jennie yn 1965 oedd iddi ennill cystadleuaeth Cymraes y flwyddyn yn Eisteddfod Teulu Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid. Enwebwyd rhestr y gystadleuaeth newydd hon gan y cyhoedd a thri enw a ddaeth i'r brig, sef Mrs Tegryn Davies (Aber-porth), Mrs Jennie Eirian Davies (Yr Wyddgrug) a Dr Kate Roberts (Dinbych). Dyfarnwyd gan gynulleidfa yr Eisteddfod mai Jennie Eirian Davies oedd yr enillydd teilwng.

Bu Jennie'n golofnydd radio a theledu yn Y Cymro rhwng 1976-8 ac yn ei cholofnau byddai'n mynegi ei phryderon am y diffyg oriau darlledu Cymraeg a'i siom o weld mai yr hyn a alwai'n 'gawl eildwym' oedd y rhan fwyaf o'r rhaglenni a gaed yn y Gymraeg. Yn ystod y cyfnod hwn bu hefyd yn darlithio yn yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Cartrefle, Wrecsam. Erbyn 1978 daeth yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr ac fe'i hurddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr un flwyddyn.

Pinacl gyrfa Jennie Eirian oedd ei chyfraniad fel golygydd Y Faner am dair blynedd rhwng 1979 a 1982. Rhoddai'r swydd hon gyfle iddi fynegi ei barn ar faterion cyfoes, 'pwyso a mesur yng ngoleuni ei chredo,' fel y dywedodd Gwilym Prys Davies. Byddai'n rhoi llwyfan i amryw syniadau gwleidyddol a chymdeithasol gan annog amrywiaeth barn. Ac yn bwysicach na dim arall byddai'n gallu cenhadu ei neges ar lefel genedlaethol. Llwyfan y capel, mudiad Merched y Wawr a rhaglenni teledu oedd ei chyfryngau cyn hyn. Wrth olygu cylchgrawn wythnosol câi roi ei stamp ei hun ar faterion y dydd a hynny wedi'i gofnodi ar ddu a gwyn, ar gof a chadw. Ond cyfuniad o bleser a hunllef oedd y cyfnod hwn yn ei bywyd. Er iddi dderbyn canmoliaeth am ei gwaith dygn, cythruddwyd llawer gan ei dull o olygu'r cylchgrawn a'i barn ar ddigwyddiadau sylweddol cyfnod cythryblus 1979-82. Canlyniad hyn oedd i Jennie dderbyn nifer o lythyrau cas gan ffigurau amlwg yng Nghymru yn datgan eu gwrthwynebiad. Roedd egwyddorion pendant Jennie wedi cyfrannu'n fawr at y chwalfa, ond yr hyn a enynnai'r gwrthwynebiad mwyaf oedd ei barn ar ddadl y sianel. Fel Jac L. Williams, credai Jennie y byddai rhoi rhaglenni Cymraeg ar un sianel yn niweidiol i'r iaith, ac roedd ei barn yn her i safbwynt Gwynfor Evans a gefnogid gan y mwyafrif mawr o genedlaetholwyr ar y pryd.

Perffeithydd wrth reddf oedd Jennie Eirian Davies, rhaid oedd anelu at ddisgyblaeth, safon a phroffesiynoldeb er mwyn llwyddo a rhaid oedd paratoi yn drylwyr. Wrth gwrs, mewn byd amherffaith mae gofyn cyfaddawdu, ac nid oedd Jennie'n barod i wneud hynny. Roedd ganddi gonsýrn ingol a dyletswydd barhaol dros Gymru a'r Gymraeg yn ei ffordd anghonfensiynol ei hun, ac roedd hynny erbyn y diwedd yn ei gwneud yn wrthun gan rai o'i chyd-genedlaetholwyr. Cyfrannodd y tensiynau hyn at ei thrasiedi.

Bu farw Jennie Eirian ar 6 Mai 1982 yn 57 mlwydd oed ac fe ddyfarnwyd adroddiad agored gan y crwner. Cynhaliwyd ei hangladd yng nghapel Bethesda'r Wyddgrug, 12 Mai 1982.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2015-05-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.