WILLIAMS, JAC LEWIS (1918-1977), addysgydd, awdur

Enw: Jac Lewis Williams
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 1977
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgydd, awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert (Bobi) Maynard Jones

Ganwyd 20 Gorffennaf 1918 yn fab i John a Sarah Ellen Williams, Aber-arth. Yn Lôn Llanddewi, Aberarth y ganwyd ef yng nghartref ei fam (yr oedd ei rieni wedi priodi yn Llanddewi ym mis Mai y flwyddyn honno). Ffermwyr yn Nhynbedw, Ciliau Aeron, oedd ei rieni. Pan oedd Jac yn bedair oed, symudodd y teulu i Gaebislan, Aber-arth, nid nepell o'r Lôn. Hanai ei dad o deulu Dolau Aeron, Llangeitho. Roedd teulu'r Dolau yn ddysgedig a phob un o'r brodyr yn barddoni. Bardd gwlad ac athro ysgol Sul oedd tad Jac a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn ffermio Tynbedw, Ciliau Aeron a Chaebislan Aber-arth. Eglwyswr selog ydoedd (fel y mab), a thri o'i frodyr yn offeiriaid. Gŵr busnes yn Llundain, a bardd adnabyddus, oedd y pedwerydd brawd, Gwilym Aeron. Cyhoeddwyd hunan-gofiant y tad yn Fferm a Ffair a Phentre, John Williams ac Eben Davies, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1958 (lle y ceir llun o'r tad). Magodd Ellen Williams, mam y tad hwn wyth o blant a dysgu i'w phum mab gynganeddu'n fedrus. Hyfforddodd yr wyth i gystadlu ar gân mewn Wythawd Aelwyd ar gyfer mân eisteddfodau. Ond John, sef y mab a arhosodd gartref i ffermio, oedd yr unig un i fagu ei blant yn Gymraeg. Dau o blant oedd gan John a Sarah Ellen, sef Jac a'i chwaer Joan. Ganwyd merch arall rhwng y ddau, ond bu farw yn fuan wedi'i geni. Priododd Joan â'r Parch. David John Davies, a fu'n weinidog yn Chwilog ac wedyn ym Mhen-y-groes, Caernarfon. Yn ôl yr hanes, babi bach gwanllyd oedd Jac ac ni fuasai wedi byw oni bai i'r forwyn ei drin fel oen bach a rhoi ambell lwyaid o frandi iddo. Cafodd Jac salwch go ddifrifol ar asgwrn ei gefn pan oedd yn ddyn ifanc a chafodd driniaeth radiwm i'w wella. O ganlyniad bu ei gefn yn grwm am weddill ei oes a chollodd rywfaint o'i daldra (yn ddyn ifanc roedd yn fain a thros 6 troedfedd). Roedd ganddo wallt a llygaid nodedig o dywyll: yr esboniad lleol am hyn oedd ei fod yn tarddu o 'dylwyth yr adar', sef disgynyddion rhyw filwr Sbaeneg a fu ar ffo o fyddin Napoleon ac yn cuddio yng nghaeau dyffryn Aeron. Wyneb crwn, ac aeliau duon trwchus (fel ei dad), a oedd ganddo. Er mwyn ei iechyd, yn rhannol, byddai'n teithio ar gefn beic yn feunyddiol, ac yr oedd yn hoff iawn o weithio yn ei ardd. Yr oedd yn gymdeithaswr o fri. Gwiw cofio hefyd ei ddiddordeb cynnar mewn llenyddiaeth: barddonai pan oedd yn grwt. Cyhoeddodd Straeon y Meirw 1947 ac ysgrifau Trioedd ym 1973, ac enillodd wobrau droeon yn ystod ei ieuenctid.

Derbyniodd ei addysg yn ysgol gynradd Aber-arth, ysgol ramadeg Aberaeron, a Choleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle yr astudiodd y Gymraeg, Lladin a Groeg. Derbyniodd radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg ym 1939. Bu'n gweithio mewn labordy diwydiannol yn Lloegr cyn dychwelyd i ddysgu ym Morgannwg. Yna bu'n darlithio ar economeg a masnach yng Ngholeg Technegol sir Fynwy. Enillodd radd allanol mewn Economeg a Diploma mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a hefyd ddoethuriaeth Prifysgol Llundain am astudiaeth o gymdeithaseg ardal wledig yng Nghymru. Ym 1945 fe'i hapwyntiwyd yn ddarlithydd yn y Gymraeg ac Addysg Ddwyieithog yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin lle y bu am dros ddeng mlynedd. Ym 1956 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ac yn swyddog ymgynghorol i'r Gyfadran Addysg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Ymhen pedair blynedd, ym 1960, olynodd yr Athro Idwal Jones yn Athro a Deon y Gyfadran honno. Ym 1976 cafodd ei ddyrchafu'n Is-brifathro. Ar ôl iddo fynd i gadair Addysg Aberystwyth y daeth Jac i fri fel ffigur cenedlaethol. Dywedodd Dr W. Gareth Evans amdano, 'Never before had a Professor of Education in the University of Wales achieved such a high profile in the educational, cultural and political life of Wales.' Disgrifiodd ef fel 'one of the few real pioneers of education in the twentieth century.' Dehonglai ef ei swydd yn Athro Addysg fel gweithredydd ac ysgogydd yn hytrach nag fel ymchwilydd, er iddo wneud digon o ymchwil i gyflawni'i waith yn awdurdodol. Arweinydd a diwygiwr addysgol ymarferol oedd yn anad dim, yn hytrach nag academydd pur. A dyna'i gynhysgaeth a'r effaith etifeddol barhaol a gafodd ef ar addysg yng Nghymru. Fe'i cafodd ei hun yn gynnar mewn dadl fawr yn erbyn y traddodiad ac yn erbyn arolygwyr y Weinyddiaeth Addysg, sector anrhydeddus iawn fel arfer am ei oleuedigaeth flaengar yn hanes yr ugeinfed ganrif ond a safai o blaid peidio â chyflwyno'r Gymraeg (na'r Saesneg) fel ail iaith nes bod plant yn saith mlwydd oed. Gyda llwyth o dystiolaeth, gan gynnwys Wilder Penfield (yr ysgrifennodd Jac deyrnged iddo adeg ei farwolaeth ym 1976), a chyda'i wybodaeth am sefyllfaoedd ieithyddol ledled y byd, enillodd Jac L. Williams yn derfynol y ddadl o blaid dysgu ail iaith yn gynnar. Bu'n gadeirydd ar bwyllgor llyfrau Cymraeg y Cyd-Bwyllgor Addysg, pwyllgor a fuasai'n gyfrifol mewn ychydig o flynyddoedd am gyhoeddi 700 o lyfrau. Bu'n un o gynheiliaid Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) hefyd yn ystod y blynyddoedd gwan. Bu'n gweithio gyda Mudiad yr Ysgolion Meithrin. Ef am gyfnod fu prif propagandydd y Mudiad. Yn Eglwyswr pybyr, gweithiai'n ddiwyd gyda Chorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru. Cyn iddo dderbyn Is-brifathrawiaeth Coleg Aberystwyth, yr oedd yn aelod o hanner cant o bwyllgorau ac yn gadeirydd ar ddwsin ohonynt. O dan ei arweiniad ef daeth yr Adran Addysg yn Aberystwyth i fod y fwyaf llwyddiannus yn ystadegol ym Mhrydain, adran a oedd yn tyfu pan oedd adrannau Addysg eraill yn lleihau. Dyna Adran ar flaen y datblygiad ym Mhrifysgolion Prydain i wneud Addysg yn bwnc gradd. Datblygodd sawl cwrs diploma newydd ac M.Ed. Ym maes dwyieithedd, arweiniodd Gymru oddi wrth y pwyslais ar fesur 'effeithiau' dwyieithedd, ymchwil a oedd yn seithug ac yn rhy simplistig ar y pryd oherwydd anwybyddu ffactorau dysgu allweddol, megis oriau cyswllt, oedran cyflwyno'r iaith, cymhlethrwydd agweddau dulliol, adnoddau ac yn y blaen. Ysgogai Jac symudiad tuag at baratoi defnyddiau a dulliau o wella ac o wneud dwyieithedd yn broffesiynol fwy effeithiol. O sefydlu Addysg fel pwnc academaidd drwy'r Gymraeg, aeth ati i drefnu a golygu cyfresi o lyfrau i wasanaethu'r datblygiad, Ysgrifau ar Addysg, Welsh Studies in Education, Cyfres y Dysgwyr, Cyfres yr Ysgol a'r Aelwyd, Pamffledi Llenyddol Cyfadran Addysg. Erbyn adeg ei farw yr oedd dros gant o fyfyrwyr ymhlith aelodau'r Adran yn gwneud o leiaf ran o'u gwaith trwy'r Gymraeg. Trefnodd gyfarfodydd pythefnosol am flynyddoedd lawer i lunio rhestri o dermau ar ddysgu holl bynciau ysgol a choleg trwy'r Gymraeg, yna eu gyrru ymlaen i Bwyllgor Termau Cyfadran Addysg y Brifysgol, a'r cyfan yn arwain maes o law i gyhoeddi Geiriadur Termau. Heb fod y gwaith hwn wedi'i wneud, buasai addysg Gymraeg yng Nghymru yn bur aneffeithiol.

Priododd â Frances Gwyneth Watkins ar Awst 7fed 1946, yng nghapel Presbyteriaid Windsor Road, Caerffili. Roedd Gwyneth, a oedd yn enedigol o Gaerffili, yn ddi-Gymraeg ar y pryd. Athrawes Ladin oedd hi a bu iddynt gyfarfod pan aeth Gwyneth i ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos lle'r oedd Jac yn athro. Roedd ei thad yn hanu o Dalgarth, sir Frycheiniog, ac wedi mynd i Gaerffili yn ddyn ifanc i weithio fel crydd. Roedd ei mam yn dod o deulu di-Gymraeg o'r Gororau (ardal Abaty Cwm Hir a Swydd Henffordd) ac yn wniadures yng Nghaerffili. Cafodd Jac a Gwyneth ddwy ferch. Bu farw Jac yn sydyn ar Fai 27, 1977 yng ngorsaf drenau Casnewydd, pan oedd ar ei ffordd i gyfarfod yn Llundain. Trawiad ar y galon oedd achos ei farwolaeth. Wedi gwasanaeth angladd yn eglwys Llanbadran Fawr, claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanddewi Aber-arth 31 Mai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.