Ganwyd 31 Rhagfyr 1899 ym Mhen-clawdd, Morgannwg, yn fab i Llewelyn a Margaret (ganwyd Rees) Jones. Bu mewn ysgol gynradd ym Mhenclawdd ac yn ysgol sir Tre-gŵyr, wedyn yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth lle y graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn Saesneg yn 1922. Cafodd ei M.A. yn 1924 am draethawd ar ' The Critical ideas of Matthew Arnold, with special reference to French and German Criticism '. Gwnaeth ei ddiploma mewn addysg yng Ngholeg y Brenin, Prifysgol Llundain.
Cafodd brofiad fel athro yn gyntaf yn ysgol elfennol Llanmorlais, Morgannwg, o 1919 ymlaen; wedyn yn ysgol uwchradd dinas Westminster 1924-25; ac yn 1924 cymerai ddosbarthiadau nos yng Ngholeg y Gweithwyr yn Llundain. Apwyntiwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn adran addysg Coleg y Brifysgol, Abertawe, 1925-30, lle y bu'n uwch-ddarlithydd 1930-39, ac am gyfnod (1933-34) yn bennaeth gweithredol yr adran ac yn ohebydd dros y coleg i'r Bwrdd Addysg. Penodwyd ef i'r Gadair Addysg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1939-60. Ef oedd deon cyntaf y gyfadran addysg yn y coleg hwnnw, a bu'n foddion i ddatblygu cysylltiadau â Choleg y Drindod, Caerfyrddin, ac ag athrawon a phlant yn nalgylch helaeth y gyfadran. Ef hefyd oedd yn gyfrifol am roi cychwyn swyddogol ar ddysgu pwnc heblaw'r Gymraeg drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, a bu'n dadlau'r achos yna ac yn amddiffyn y gwaith hwnnw gyda deheurwydd anghyffredin a threiddgarwch. Yr oedd yn bwyllgorwr tan-gamp: fel pob Athro addysg câi ei lethu gan bwyllgorau di-rif, ond yr oedd ef yn y mannau hynny'n ddadleuwr haelfrydig ond hynod o gryf ac yn ddiwyro Gymreig. Mae llawer o ddiolch iddo fod y Gymraeg wedi datblygu fel cyfrwng dysgu safonol a chydnabyddedig yn y Brifysgol. O dan ei arweiniad ef y datblygodd adran addysg Aberystwyth yn ganolfan o bwys yn rhyngwladol mewn efrydiau dwyieithog. Bu ef ei hun yn darlithio drwy'r Gymraeg yn allanol ar seicoleg yn 1931, ac yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i lunio erthyglau ar seicoleg ddiweddar (e.e. 'Yr hunan o safbwynt seicoleg', 'Cyfraniad James Ward i seicoleg'; a 'Spearman' yn Efrydiau Athronyddol). Ymchwiliai i hanes addysg yng Nghymru, a chyhoeddodd waith ar Thomas Gee, 'The voluntary system at work' (yn Nhrafodion y Cymmrodorion, 1933), darlledu gwersi, 'Y plentyn a'r eglwys', a 'Y bardd a'r athro'.
Yr oedd ynddo ryw foneddigeiddrwydd cynhenid, a hyd yn oed yn ei ddyddiau olaf o waeledd yr oedd yn ffigur trawiadol o hardd a mawrfrydig. Priododd, ar 29 Mehefin 1933, Kitty, merch Syr John Herbert Lewis o Blas Penucha, Caerwys; a bu iddynt fab a dwy ferch. Bu'r cysylltiad â Phlas Penucha yn ysgogiad iddo i lunio'r llyfryddiaeth safonol ar Thomas Jones o Ddinbych yn 1937. Bu rhaid iddo ymddiswyddo o'i Gadair cyn ei amser yn 1960 oherwydd afiechyd a achoswyd i raddau helaeth trwy orweithio yn ystod blynyddoedd Rhyfel Byd II. Bu farw 3 Ionawr 1966 yng Nghaerwys, a chladdwyd ef ym Mae Colwyn.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.