HARRIES, HYWEL (1921-1990), athro celf, arlunydd, cartwnydd

Enw: Hywel Harries
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 1990
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro celf, arlunydd, cartwnydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganed Hywel Harries yn y Tymbl, sir Gaerfyrddin 7 Hydref 1921, yn fab i David John Harries a'i wraig Sarah Ann. Derbyniodd ei addysg yn lleol ac yn ysgol ramadeg y Gwendraeth. Dangosodd dalent arbennig mewn arlunio ac aeth i Ysgol Gelf Llanelli ond ymunodd â'r Llu Awyr ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd yn 1941 gan wasanaethu am bum mlynedd. Wedi'i ryddhau yn 1946 bu'n fyfyriwr yng Ngholeg Technegol Caerdydd lle yr enillodd ei ddiploma yn 1947.

Bu'n athro ysgol yn Ealing am flwyddyn yn 1948 a phriododd â Caroline Thomas o Bontypridd yr un flwyddyn. Cawsant ddau o blant, David a fu farw yn ifanc, a Carol. Dychwelodd Hywel Harries i Gymru, yn athro celf yn ysgol Machynlleth, yn 1950 ac yn 1954 penodwyd ef yn athro a phennaeth yr adran gelf yn ysgol Ardwyn Aberystwyth, ac yna, yn dilyn adrefnu addysg uwchradd yn lleol, yn Ysgol Penglais. Yr oedd yn athro ysgol, anghonfensiynol mewn rhai agweddau, a lwyddodd i ysbrydoli to ar ôl to o ddisgyblion i feithrin eu doniau a thrwy ei wersi ar hanes celfyddyd i'w tywys i ddyfnach dealltwriaeth a gwerthfarwogiad o gelfyddyd. Ymddeolodd yn 1981.

Dechreuodd arlunio yn gynnar gan amlygu talent ac addewid arbennig fel y dengys yr enghreifftiau o'i waith yn y portffolios ymhlith ei bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Er gwaethaf gofynion trwm ei swydd bu Hywel Harries yn artist egnïol a chynhyrchiol gydol ei fywyd. Soniodd ef ei hun am y tyndra creadigol a fodolai rhwng gofynion ei swydd a'r angen i greu a dangosodd ei ymrwymiad nid yn unig yng nghysondeb ei gynnyrch ond yn yr arbrofi parhaus yn ei arddull a'i gyfryngau. Er bod ganddo rai gweithiau haniaethol (e.e. 'River scene', 'Humoresque') a chiwbaidd (megis 'Salem re-visited'), yr oedd ar ei fwyaf cysurus ac effeithiol yn ei ddarluniau o agweddau ar dirwedd a threfwedd ei gynefin - gan amlaf yng Ngheredigion ac Aberystwyth - rhai ohonynt, yn arbennig ambell un o ddociau Caerdydd, Aberafon ac Abertawe, yn fwy tywyll argraffiadol na'r naturiolaidd a chynnes, nodweddiadol ohono. Lluniodd o bryd i'w gilydd rai portreadau, yn eu plith E. G. Bowen, E. D. Jones a rhai o'i gydnabod.

Datblygodd yn ddarluniwr cylchgronau (rhai Urdd Gobaith Cymru yn arbennig) a llyfrau (gan gynnwys Llyfr Eiry (1955), gwaith ei chwaer Lilian Rees, mam y caligraffydd Ieuan Rees) a lluniodd ugeiniau o siacedi llwch i amryw o gyhoeddwyr. Yn y Llu Awyr yn y 1940au y darganfu ei ddawn darlunio doniol. Ymroes i astudio ac i feistroli crefft y cartwnydd, crefft a barchai yn uchel iawn. Cynhyrchai gartwnau'n rheolaidd yn y papurau newyddion, yn eu plith Cambrian News, Y Goleuad, Cristion, Y Faner - telid unrhyw ffïoedd i elusennau - a lluniai gasgliadau ohonynt er budd amryw o elusennau. Cynhyrchai gartwnau hefyd yn gardiau cyfarch pesonol ar achlysuron arbennig i'w gyfeillion.

Yr oedd yn hael iawn ei wasanaeth a'i gymwynas bob amser ac yn ei awydd i rannu ei frwdfrydedd dros bob agwedd o gelfyddyd ac i feithrin talent sefydlodd Gymdeithas Gelf Ceredigion yn 1963. Bu'n Is-lywydd yr Academi Frenhinol Gymreig, cadeirydd Pwyllgor Celf a Chrefft Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol, a chadeirydd Ffederasiwn Grwpiau Celf Gogledd Cymru.

Yr oedd yn eang ei ddiwylliant, mewn cerddoriaeth yn arbennig, ac yr oedd yn wr ag argyhoeddiadau cadarn, yn gapelwr cyson a welai ochr ddoniol llawer agwedd ar fywyd traddodiadol y capeli a ddatgelodd yn garedig a heb falais mewn cartwnau. Yr oedd yn flaenor gweithgar yn eglwys Salem, wedyn Capel y Morfa, Aberystwyth. Bu farw yn ysbyty Treforus 26 Tachwedd 1990, bu'r angladd yn Aberystwyth 3 Rhagfyr.

Cyhoeddodd Cymru'r Cynfas: pymtheg artist cyfoes (1983, dwyieithog, 1988), Wales on Canvas (1990), Arlunio (1975), a chasgliadau o gartwnau, Cambrian News Cartoons, 1956-1964 (1964), Mentra! Gwena! (1969), Gwenwch gyda'r 'Goleuad' (1978), Smile with Hywel (1985), Tra-la-laugh (dd). Cynhaliwyd arddangosfa 'Arolwg deugain mlynedd' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 12 Mai-24 Mehefin 1989; mae'r catalog yn rhestru llawer o'i weithiau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-07-12

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.