BOWEN, EMRYS GEORGE (1900-1983), daearyddwr

Enw: Emrys George Bowen
Dyddiad geni: 1900
Dyddiad marw: 1983
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: daearyddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg; Teithio
Awdur: Harold Carter

Ganwyd Emrys Bowen, neu EGB fel yr adnabyddid ef, ar 28 Rhagfyr 1900 yn Stryd Spilman, Caerfyrddin, plentyn hynaf Thomas ac Elizabeth Bowen. Roedd ei dad yn asiant yswiriant a chyn-weithiwr gwaith tin. Mynychodd Ysgol y Cyngor, Pentre-poeth ac Ysgol Ramadeg y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin, ac wedi blwyddyn fel athro cynorthwyol yn The Model and Practising School, Caerfyrddin, aeth ymlaen ym 1919 i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle bu'n ddisgybl i'r Athro H. J. Fleure, gan ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth ym 1923. Yn ystod y flwyddyn ganlynol, enillodd dystysgrif dysgu yn yr adran Addysg. Ar ôl hynny, ac wedi blwyddyn o waith ymchwil yn Aberystwyth, ef oedd y cyntaf i'w apwyntio yn Gymrawd Cecil Prosser yn Ysgol Feddygol Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Yn ystod 1928-9 bu'n olygydd cynorthwyol i'r pedwerydd argraffiad ar ddeg o'r Encyclopaedia Britannica, cyn ei apwyntio yn 1929 yn ddarlithydd cynorthwyol yn yr adran Daearyddiaeth ac Anthropoleg yn Aberystwyth. Yno y treuliodd weddill ei yrfa academaidd fel darlithydd, uwch ddarlithydd ac yn y pen draw, yn Athro Gregynog ym 1946. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd arhosodd yn Aberystwyth gan ddarlithio mewn Meteoroleg i'r RAF Initial Training Wing (ITW) a oedd wedi ei leoli yn y dref.

Cyfrannodd Bowen i dri o'i feysydd disgyblaeth yn ystod ei yrfa academaidd. Y cyntaf oedd anthropoleg gorfforol, nodweddion corfforol poblogaethau. Adlewyrchwyd hyn ym maes ei draethawd MA, 'South West Wales; a study of physical anthropological characters in correlation with varied distributions', a dderbyniwyd gyda rhagoriaeth. Dyma ffrwyth ei waith yn y maes a elwir heddiw yn ddaearyddiaeth feddygol ac roedd ganddo ddiddordeb arbennig yn nigwyddiad phthisis cloddwyr yng ngweithiau plwm Ceredigion. Roedd nifer o'i gyhoeddiadau, sef 'The incidence of Phthisis in relation to race type and social environment in South and West Wales' yn y cylchgrawn, Journal of the Royal Anthropological Institute ym 1928, ac 'The incidence of Phthisis in relation to racial types and social environment in Wales' yn y cylchgrawn British Journal of Tuberculosis ym 1929 yn adlewyrchu ei waith cynnar. Daeth anthropoleg gorfforol yn llai pwysig iddo yn ei faes academaidd, nes iddo roi'r gorau i'r gwaith yn sgil mabwysiadu dulliau mwy soffistigedig. Serch hynny, roedd yn dal i oruchwylio gwaith ymchwil yn y maes.

Yr ail drywydd yn ei waith oedd arwyddocâd etifeddiaeth ddiwylliannol ym myd daearyddiaeth a dylanwadwyd arno gan waith daearyddwyr Ffrainc, gyda'u pwyslais ar genre de vie, neu ffordd o fyw. Roedd yn flaenllaw ymysg daearyddwyr Prydain wrth bwysleisio arwyddocâd diwylliant yn ffurfiant y tirwedd. Effaith yr amgylchfyd corfforol ar batrymau daearol oedd ei drydydd trywydd, yn cyfleu thema fwy confensiynol i'w gyd-ddaearyddwyr. Er ei fod yn grediniwr cadarn yn swyddogaeth diwylliant yn fframio'r tirwedd, ac yn ddehonglwr o hynny, nid ymwadodd â'r syniad cyfoes, a oedd yn llywodraethu ar y pryd, mai prif swyddogaeth daearyddiaeth oedd effaith yr amgylchfyd ar ddynoliaeth, lle bo'r amgylchfyd wedi ei ddehongli'n gul fel y byd corfforol.

Adlewyrchwyd y diddordebau diweddaraf hyn yn ei gyhoeddiadau a ddilynodd. Yn wir, ei bapur cyhoeddedig cyntaf oedd 'A study of rural settlement in South-West Wales' (The Geographical Teacher, (1925-6, 13, 317-326), a oedd yn rhagarwydd o'r maes a ddaeth i fod yn arbenigrwydd iddo a'r maes a gysylltid yn bennaf ag ef. Ymysg y sefydliadau cynharaf yn ymsefydliadau gwledig Cymru roedd celloedd gan genhadon Cristnogol yn y cyfnod ôl-Rufeinig, y rhai a ddaeth i'w hadnabod fel y Seintiau Celtaidd. Dyma'r maes lle y bu i Bowen ganolbwyntio cyfran helaeth o'i waith. Ym 1932 cyhoeddodd erthygl ar 'Early Christianity in the British Isles. A study in historical geography' (Geography, 17, 1932, 267-277), ac ym 1934 cafodd ei bapur 'The travels of St Samson of Dol' ei gynnwys yn yr Aberystwyth Studies, (Aberystwyth Studies, 13, 61-7).

Ehangodd ei gyhoeddiadau a'i ymchwil o'r sylfeini cynnar hyn, i ymdrin â phroto-hanes gorllewin Prydain a'i rhagflaenwyr cyn-hanesyddol. Dilynwyd y rhain gan gadwyn eang o bapurau yn cynnwys dau yn y cylchgrawn Antiquity: 'The travels of the Celtic Saints' (XVII, 1944, 16-28) a 'The settlements of the Celtic Saints' (XIX, 1945, 175-186). Fodd bynnag, cynrychiolwyd datblygiad ei waith gan ei dair cyfrol, The settlements of the Celtic Saints (1954), Saint, seaways and settlements (1969) a Britain and the western seaways (1972).

Ar wahân i'r maes arbennig yma roedd gan Emrys Bowen ddiddordebau eang ac ysgrifennodd ar nifer helaeth o bynciau o ddiddordeb Cymreig. Ymysg y rhain oedd ei lyfr cyntaf, Wales: a study in geography and history a gyhoeddwyd ym 1941. Bu hefyd, am lawer o flynyddoedd, yn athro Ysgol Sul ym Methel, un o gapeli'r Bedyddwyr yn Aberystwyth ac wedi ei ymddeoliad darlithiai ar hanes eglwysig yng Ngholeg Diwynyddol Undedig Aberystwyth. Mae papurau ymysg ei gyhoeddiadau sy'n adlewyrchu y diddordeb yma, sef 'Bedyddwyr Cymru tua 1714' yn Nhrafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru (1957-8, 5-14) ac 'Eglwys Bethel a Bedyddwyr Gogledd Ceredigion' (Llawlyfr Undeb Bedyddwyr Cymru, Aberystwyth, 1972, 10-19). Fel teyrnged iddo ac yn cyrychioli ystod eang ei waith, cyhoeddwyd detholiad o'i waith cyhoeddedig gan ddau o'i gyn-fyfyrwyr (H. Carter a W. K. D. Davies, goln, Geography, Culture and Habitat, 1975), llyfr sy'n cynnwys esboniadaeth estynedig o'i waith gan y golygyddion, ynghyd â llyfryddiaeth gynhwysfawr hyd at y dyddiad hwnnw. Gwelwyd ymrwymiad Bowen i'r astudiaeth o'r diwylliant Cymreig, yn y modd y symbylai ymchwil yn y maes. Apwyntiodd Alwyn D. Rees i'w Adran gan gyd-symbylu ag ef gyfres o astudiaethau o gymunedau gwledig Cymreig, cyfres a ddaeth i fod yn brif gynhaliaeth astudiaethau cymunedol ym Mhrydain.

Cydnabyddwyd yn helaeth gyfraniad Emrys Bowen i'w faes. Roedd yn Llywydd yr Institute of British Geographers ym 1958, Llywydd Adran E o'r British Association ac yn Llywydd The Geographical Association ym 1962 a Llywydd y Cambrian Archaeological Society ym 1967. Ym 1958 dyfarnwyd iddo grant Murchison y Royal Geographical Society ac ym 1949 etholwyd ef yn Gymrawd o'r Society of Antiquaries. Dyfarnwyd Ll.D. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru a Doethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol Agored. Roedd yn aelod er anrhydedd o Orsedd y Beirdd.

Er ehangder ei waith ysgrifenedig, ei brif ddawn oedd fel athro a darlithydd. Seiliwyd ei anerchiadau ar strwythur gofalus ynghyd ag amseru actor medrus; roedd yn nhraddodiad y cyfarwyddiaid, chwedleuwyr y Gymru gynnar a phregethwyr Cymreig yr oes ddiweddaraf, yn hytrach na thraethu academig. Yn yr un modd, seiliwyd ei waith ymchwil ar sythwelediad, yn hytrach na dadansoddiad cyfundrefnol o'r cronfeydd data. Roedd yn berson byr, pryd tywyll, darlun o'r Cymro confensiynol. Mae yna ddarlun ffotograffig ohono yn y llyfr a olygywd gan Carter a Davies, ac ym 1968, ar ei ymddeoliad, cyflwynwyd iddo bortread ohono'i hun, gan yr arlunydd Scott Nisbett, yn anrheg oddi wrth ei gyn-fyfyrwyr. Wedi iddo farw, cyflwynwyd y darlun i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan ei chwaer. Roedd ei bersonoliaeth yn fodd i gyfoethogi ei gyflwyniadau mwyaf bywiog. Roedd yn barod i ddarlithio led-led Cymru, yn y neuaddau pentref lleiaf yn ogystal â neuaddau darlithio. Drwy ei ymroddiad i'w faes, llwyddodd yn helaeth i sefydlu daearyddiaeth fel disgyblaeth academig yng Nghymru. Ond yn fwy na hyn, ymledodd ei ddylanwad yn llawer lletach, gan sicrhau arwyddocâd patrymau hanesyddol a strwythurau cymdeithasol ym maes astudiaethau daearyddiaeth ym Mhrydain.

Roedd Emrys Bowen yn ddibriod ac yn ei flynyddoedd olaf gwnaeth ei gartref gyda'i chwaer, Elizabeth (Betty) Bowen. Bu farw 8 Dachwedd 1983 yn Aberystwyth ac fe'i claddwyd yng Nghaerfyrddin.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-03-22

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.