JONES, THOMAS (1870 - 1955), Athro prifysgol, gwas sifil, gweinyddwr, awdur

Enw: Thomas Jones
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1955
Priod: Eirene Theodora Jones (née Lloyd)
Plentyn: Eirene Lloyd White (née Jones)
Plentyn: Elphin Lloyd Jones
Plentyn: Tristan Lloyd Jones
Rhiant: Mary Ann Jones (née Jones)
Rhiant: David Benjamin Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Athro prifysgol, gwas sifil, gweinyddwr, awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Benjamin Bowen Thomas

Ganwyd 27 Medi 1870 yn Rhymni, Mynwy yr hynaf o naw o blant David Benjamin Jones, siopwr, a'i wraig Mary Ann Jones. Addysgwyd ef yn yr ysgol fwrdd, Rhymni, ac Ysgol Lewis, Pengam. Dechreuodd weithio'n 14 oed fel clerc yng ngwaith haearn a dur Rhymni. Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, 1890 a'i fryd ar y weinidogaeth (MC). Derbyniwyd ef i Brifysgol Glasgow yn 1895 lle cafodd yrfa academaidd ddisglair, a'i benodi'n ddarlithydd yno yn 1901. O 1904 i 1905 bu'n darlithio yn Iwerddon dan drefniant Cronfa Barrington ac o 1906 i 1909 bu'n ymchwiliwr i'r Comisiwn Brenhinol ar Ddeddf y Tlodion. Yn 1909-10 bu'n Athro Economeg ym Mhrifysgol Belfast. Dychwelodd i Gymru yn 1910 fel ysgrifennydd Yr Ymgyrch yn erbyn y Dicáu (TB). Yn 1912 penodwyd ef yn ysgrifennydd Comisiwn Cenedlaethol Yswiriant Iechyd (Cymru). Yn 1916 aeth i Lundain yn is-ysgrifennydd y Cabinet a'i godi'n ddirprwy-ysgrifennydd yn ddiweddarach. Ymddiwsyddodd yn 1930 a'i benodi'n ysgrifennydd Ymddiriedolaeth Pilgrim. Daeth yn aelod ohono yn 1945 ac yn gadeirydd o 1952 i 1954. O 1934 i 1940 bu'n aelod o'r Bwrdd Cymorth i'r Di-waith. Penodwyd ef yn C.H. yn 1929.

Yr oedd yn wr o ymroad eithriadol iawn. Er cefnu ohono ar y weinidogaeth Gristnogol ffurfiol parhaodd dysgeidiaeth gymdeithasol yr ysgrythurau yn brif ysbrydiaeth ei fywyd. Dylanwadwyd yn drwm arno gan Thomas Charles Edwards, Joseph Mazzini, Syr Henry Jones a Sidney Webb a cheisiodd fod yn ' wneuthurwr y Gair ' ar hyd ei oes.

Ef oedd un o sylfaenwyr y Welsh Outlook (a'i olygydd cyntaf, 1914-16), Gwasg Gregynog (1922), a phrif sylfaenydd Coleg Harlech (1927). Trwyddo ef yn fwy na neb y cychwynnwyd Cyngor y Celfyddydau yn 1939 dan yr enw ' Cyngor er Cefnogi Cerddoriaeth a'r Celfyddydau '.

Yn ystod ei dymor fel Swyddog y Cabinet gwnaeth gyfraniad eithriadol bwysig i sicrhau cytundeb ag Iwerddon : felly hefyd adeg y streic gyffredinol yn 1926. Enillodd ymddiriedaeth lwyr Lloyd George, Bonar Law a Stanley Baldwin pan oeddynt yn brifweinidogion ond nid i'r un graddau Ramsay Macdonald. Cadwodd mewn cysylltiad agos â Lloyd George a Baldwin hyd ddiwedd eu hoes a defnyddiwyd ef ganddynt i ddibenion gwleidyddol cyfrinachol, e.e. wrth geisio cydwelediad â'r Almaen rhwng 1935 ac 1938. Ymdaflodd i'r gwaith o liniaru dioddefaint y diwaith rhwng 1929 ac 1939 fel cadeirydd Pwyllgor Caledi'r Maes Glo yng Nghymru a Phwyllgor Diweithdra'r Cyngor Cenedlaethol Gwasanaeth Cymdeithasol. Ef oedd cadeirydd Cronfa York 1934-40 a Chronfa Elphin Lloyd-Jones 1935-45.

Bu'n aelod o gynghorau lawer, megis Prifysgol Cymru, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (Llywydd 1944-54), Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Ef oedd cadeirydd Bwrdd Henebion Cymru o 1944 i 1948. Penodwyd ef yn aelod o ymddiriedolaeth yr Observer pan sefydlwyd hwnnw yn 1946.

Ysgrifennodd a chyhoeddodd lawer o erthyglau a phamffledi. O'i lyfrau gellir enwi argr. Everyman o draethodau Mazzini ar ddyletswyddau dyn (1907), Old memories Syr Henry Jones (1922), A Theme with variations (1933), Rhymney memories (1938), Leeks and daffodils (1942), Cerrig milltir (1942), The Native never returns (1946), Lloyd George (1951), Welsh broth (1951), A diary with letters (1954), The Gregynog Press (1954), Whitehall diaries cyf. I a II (1969) dan olygiaeth Keith Middlemas. Derbyniodd raddau, er anrhydedd, LL.D. gan brifysgolion Glasgow (1922), Cymru (1928), St. Andrews (1947) a Birmingham (1950). Dyfarnwyd bathodyn Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion iddo yn 1944.

Priododd Eirene Theodora Lloyd yn 1902 a bu iddynt dri o blant, sef Eirene Lloyd, (y Farwnes White ), Tristan Lloyd Jones, bu farw 1990, ac Elphin Lloyd Jones, bu farw 1928.

Cafodd Thomas Jones ddamwain yn ei gartref yn St. Nicholas-at-Wade, swydd Caint, ym Mehefin 1955 a bu farw mewn ysbyty preifat yn Golders Green, Llundain, 15 Hydref 1955. Amlosgwyd ei weddillion.

Fel gweinyddwr egnïol a dyfeisgar, cyfrifid ef ymysg cymwynaswyr mwyaf anhunanol ac ymroddedig ei ddydd. Siaradai ac ysgrifennai Gymraeg, ond claear oedd ei agwedd at genedlaetholdeb gwleidyddol yng Nghymru. Yr oedd ganddo gylch eithriadol eang o gyfeillion a chydnabod, nid yn unig yng Nghymru a'r Deyrnas Gyfunol ond yn y Gymanwlad a Thaleithiau Unedig America. Yr oedd yn llythyrwr diflino, hael ei gyngor a pharod ei gymwynas i bawb yn ddiwahân, yn wreng a bonedd. Ei amser oedd ei gynhysgaeth a gwnaeth ddefnydd ardderchog ohono.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.