WHITE, EIRENE LLOYD, Barwnes White (1909-1999), gwleidydd

Enw: Eirene Lloyd White
Dyddiad geni: 1909
Dyddiad marw: 1999
Priod: John Cameron White
Rhiant: Eirene Theodora Jones (née Lloyd)
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd Eirene Lloyd Jones yn Anwylfan, Rhodfa Sant Ioan, Belfast, unig ferch Thomas Jones a'i wraig, Eirene Theodora Lloyd, ar 7 Tachwedd 1909. Llai na blwyddyn wedyn, dychwelodd Thomas Jones i Gymru gan ymgartrefu yn y man yn y Barri, lle bu Eirene'n ddisgybl mewn ysgol gynradd. Wedi i Thomas Jones dderbyn swydd fel cynorthwyydd dros dro yn Swyddfa'r Cabinet, lle bu'n gweithio'n agos iawn â David Lloyd George, symudodd y teulu rhwng y Barri a Llundain, lle bu Eirene Jones yn ddisgybl mewn ysgol gynradd yn Upper Norwood. Ym 1919 penderfynodd Thomas Jones symud ei deulu i Lundain i aros; aeth Eirene i Ysgol Sant Paul i Ferched ym 1920. Ym 1929 enillodd ysgoloriaeth i Goleg Somerville, lle bu'n astudio athroniaeth, gwleidyddiaeth ac economeg. Tra oedd yn fyfyrwraig yn Rhydychen, trefnodd yr Arglwyddes Astor, cyfeilles i'r teulu, barti i Eirene Jones yn Cliveden i ddathlu ei phen-blwydd yn 21 oed.

Wedi gadael Rhydychen â gradd ail-ddosbarth ym 1932, bu'n teithio ar gyfandir Ewrop cyn mynd i Unol Daleithiau America am flwyddyn ym 1931/32. Yno, trwy gysylltiadau cyfaill i'w thad, Abraham Flexner, cafodd swydd ddi-dâl fel ymgynghorydd i ddarllenwyr yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd. Datblygodd safbwynt gwrth-hiliol o argyhoeddiad wedi iddi gael ei rhwystro rhag cael pryd mewn lle bwyta yng nghwmni Paul Robeson. O 1933 hyd 1939, bu'n weithiwr cymdeithasol gyda'r di-waith ac i raddau llai yn newyddiadurwraig. Ei phrofiad mewn gwaith cymdeithasol a'i harweiniodd i wasanaethu gyda Gwasanaeth Gwirfoddol Menywod yng Nghaerdydd rhwng 1939 a 1941, cyn iddi dderbyn swydd dros dro fel gwas sifil yn swyddog lles yn y Weinyddiaeth Lafur yn Ne Cymru.

Yr oedd Eirene Jones yn awyddus i ddilyn gyrfa wleidyddol, ac felly ymddiswyddodd o'r gwasanaeth sifil er mwyn ceisio sedd i'w hymladd dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf. Cafodd ei henwebu yn ymgeisydd Llafur yn Sir y Fflint. Cafodd ganlyniad teilwng yn etholiad cyffredinol 1945, wrth ddod yn agos i drechu Nigel Birch yr ymgeisydd Ceidwadol mewn sedd ddiogel i'r Ceidwadwyr. Yn y cyfamser, derbyniodd swydd fel newyddiadurwraig wleidyddol gyda'r Manchester Evening News; yn un o'r menywod cyntaf i ddal y fath swydd, hi oedd y gohebydd gyntaf o'r wasg daleithiol i gael ei derbyn i'r cyntedd seneddol. Priododd â John Cameron White ar 2 Ionawr 1948, yntau'n ohebydd gwleidyddol, yr oedd wedi cyfarfod ag ef am y tro cyntaf mewn cyfarwyddyd i'r wasg yn 10 Downing Street. Fel aelod o Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur, darbwyllodd gynhadledd y blaid ym 1947 i bleidleisio, trwy fwyafrif sylweddol, o blaid cyflogau cyfartal i fenywod yn y sector cyhoeddus.

Rhannwyd Sir y Fflint yn ddwy ar gyfer etholiad cyffredinol 1950: Gorllewin Fflint a Dwyrain Fflint. Gyda chefnogaeth Huw T. Edwards, cyfaill i Thomas Jones, llwyddodd Eirene White i ennill yr enwebiad i sedd Dwyrain Fflint, a enillwyd ganddi gyda mwyafrif sylweddol ac a gadwyd ganddi hyd 1970. Ymgyrchodd Thomas Jones yn frwd dros ei ferch. Enillodd fri yn fuan fel seneddwraig fedrus. Yr oedd llawer o ddynion a menywod yn byw mewn perthynas sefydlog ar wahân i'w priod cyfreithiol, ond o dan y ddeddf fel yr oedd ni allent gael ysgariad. Yr oedd gan Eirene White gydymdeimlad â hwy oherwydd i'w phriod lwyddo i gael ysgariad. Ym 1951 cynigodd fesur preifat dadleuol. Mesur Achosion Priodasol, a oedd yn caniatáu methiant priodas yn cael ei ddilyn gan saith mlynedd o fod ar wahân, fel rheswm digonol i dderbyn ysgariad. Er braw i'r llywodraeth, fe gafodd y mesur ailddarlleniad yn Nhy'r Cyffredin ar 9 Mawrth 1951; gyda sicrhad y byddai Comisiwn Brenhinol ar briodas ac ysgariad yn cael ei benodi, cytunodd Eirene White i dynnu ei mesur yn ôl. Yn anffodus, safbwynt mwy ceidwadol a fabwysiadwyd gan y Comisiwn a rhoddodd ei adroddiad ball ar drafodaeth ymhellach am gyfnod o dair blynedd ar ddeg. Derbyniodd deddfwriaeth, maes o law, safbwynt Eirene White ar y pwnc anodd hwn. Aeth David Astor, cyfaill i'w theulu, ati ag achos Seretse Khama, a alltudiwyd o'i wlad Bechuanaland (Botswana erbyn hyn) wedi iddo briodi â'r Saesnes, Ruth Williams. Am flynyddoedd lawer, pwysodd Eirene White ar y llywodraeth yn yr achos hwn. Drwy'r helynt gwelwyd ei gallu fel seneddwraig, gan iddi gadw at ffeithiau'r achos a bod yn fanwl gywir yn ei hymchwil i'r cefndir.

Fe'i hapwyntiwyd gan Hugh Gaitskell i fod yn ddirprwy i Anthony Greenwood, llefarydd ar addysg ar fainc flaen yr wrthblaid. Yr oedd hi'n hyblyg: ymunodd â Margaret Thatcher i gynnal cynhadledd i'r wasg er mwyn tynnu sylw at absenoldeb trefniadau ar gyfer plant cyn dyddiau'u hysgol yn y blociau o fflatiau aml-lawr a oedd yn codi ledled y wlad. Bu ei llwyddiant ar fainc flaen yr wrthblaid i ddigon i arwain Gaitskell i addo iddi mai hi fyddai'r Gweinidog dros Addysg mewn cabinet y Blaid Lafur. Wedi marwolaeth sydyn Gaitskell, Harold Wilson a etholwyd yn arweinydd y Blaid Lafur ac yn Brif Weinidog ym mis Hydref 1964. Apwyntiwyd Eirene White ganddo yn Is-ysgrifennydd Gwladol yn Swyddfa'r Trefedigaethau. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf bu'n teithio pellterau'r ddaear er mwyn ymweld â gweddill y trefedigaethau. Bu yn Fiji i gasglu barn y boblogaeth leol cyn cynnal cynhadledd Gyfansoddiadol Fiji, ac yn Gibraltar i gefnogi'r llywodraeth leol mewn cyfnod pan oedd llywodraeth Sbaen wedi gosod rhwystrau ar y ffin rhyngddynt.

Wedi etholiad cyffredinol 1966, penododd Wilson Eirene White yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Dramor, gyda George Brown yn Ysgrifennydd Tramor. Perthynas oeraidd oedd rhyngddynt. Nid oedd hwn yn gyfnod hapus i Eirene White, gan fod ei phriod yn sâl ac fe'i nyrsiwyd ganddi ag ymroddiad hyd at ei farw ar 4 Rhagfyr 1968. Yr un pryd cyflawnodd ei dyletswyddau fel gweinidog yn effeithiol gan ennill edmygedd y Prif Weinidog. Yr oedd y sefyllfa yn Rhodesia ar y pryd yn anodd iawn a bu rhaid iddi oddef derbyniad gelyniaethus yng nghynhadledd y blaid ym 1967. Yn deyrngar i ddelfrydau'r Cenhedloedd Unedig, brwydrodd yn erbyn y rheini a oedd yn ceisio dibrisio'r sefydliad. Yn ad-drefnu'r llywodraeth ym 1967, symudwyd Eirene White i fod yn Weinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig. Yma gweithiodd gydag'i hen gyfaill, Cledwyn Hughes, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd, a roddodd iddi ran bwysig a chyfrifol yn natblygiad polisi'r llywodraeth dros Gymru. Yn ystod ei hamser yn y Swyddfa Gymreig ymddiddorodd mewn materion amgylcheddol. Chwaraeodd ran bwysig yn y dadleuon ar y Mesur Cefn Gwlad 1967-68. Wedi i Hughes adael y Swyddfa Gymreig, fe'i dilynwyd gan George Thomas nad oedd yn agos at Eirene White ac o hynny ymlaen rhan lawer mwy ymylol a gafodd hi yng nghyfrifoldebau'r adran.

Ni cheisiodd ei hailethol yn Etholiad Cyffredinol 1970 ac fe'i henwebwyd gan Wilson am arglwyddiaeth am oes yn rhestr anrhydeddau'r diddymiad. Dewisodd y teitl Barwnes White o Rhymni yn Sir Fynwy. Yn Nhy'r Arglwyddi cyfrannodd ag egni yng ngweithgareddau'r Pwyllgor Dethol ar Gymunedau Ewrop, a sefydlwyd wedi i Brydain ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Heblaw ei gwasanaeth ar y prif bwyllgor, yn gyntaf fel aelod ac wedyn fel cadeirydd o 1979 hyd 1982, bu'r Fonesig White yn gadeirydd ar yr is-bwyllgor ar faterion amgylcheddol lle bu hi'n gyfrifol am gyflwyno mwy o fanylrwydd a safon ddeallusol uchel i waith yr is-bwyllgor. Gwasanaethodd hefyd fel Dirprwy-Lefarydd i'r Ty.

Yr oedd y Fonesig White yn gymaint mor weithgar tu allan i'r Ty, gan dderbyn nifer o benodiadau gan y llywodraeth; yn Is-gadeirydd y Bwrdd Metrigeiddio 1972-76; aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Lygredd Amgylcheddol 1974-81; aelod o Fwrdd y Dyfrffyrdd Prydeinig 1972-76; cadeirydd Awdurdod Tiroedd Cymru 1975-80; cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol ar Lygredd Olew yn y Môr 1974-78. Ymddiddorodd yn weithgar ym materion addysgol ac amgylcheddol yng Nghymru fel Llywydd Coleg Harlech 1974-84; cadeirydd y Cyngor 1983-88 a Llywydd Athrofa Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru 1987-88; Llywydd a chadeirydd Cyngor Gwarchod Cefn Gwlâd Cymru 1973-79. Yn y Blaid Lafur bu'n aelod o'r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol 1947-53 a 1958-72; yn gadeirydd y blaid 1968-69 a chadeirydd Cymdeithas Fabian 1958-59. Derbyniodd Eirene White raddau er anrhydedd gan Brifysgol Cymru (1979), Prifysgol Queen's, Belfast (1981) a Phrifysgol Caerfaddon (1983).

Hyd 1995 bu'r Fonesig White yn mynychu Ty'r Arglwyddi yn gyson, ond, wrth heneiddio lleihaodd ei chyfraniadau i'r dadleuon ac ymddeolodd i'r Fenni; mynychodd y Ty am ysbaid byr yn ystod dyddiau cynnar Llywodraeth y Blaid Lafur ym 1997. Nid oedd hi'n dal ac yr oedd yn debyg iawn ei phryd a'i gwedd i'w thad. Nid oedd bob amser yn arddangos llawer o dact, ac ni feddai ryw lawer o hiwmor; gallai ar brydiau fod yn chwyrn, ond yr oedd ganddi alluoedd deallusol a gweinyddol yn ogystal â charedigrwydd arbennig at rai dethol. Fel menyw ym myd gwleidyddiaeth, gosododd fwy o bwys ar y frwydr dros sosialyddiaeth a diddymu anghyfartaledd dosbarth nag ar yr ymgyrch dros hawliau menywod. Yr oedd yn hollol ymroddgar i Gymru a gweithiodd yn ddi-dor dros gyrff addysgol ac amgylcheddol, yn arbennig Coleg Harlech, y coleg dros addysg i oedolion a sefydlwyd gan ei thad. Trefnodd, â haelioni mawr, i gyflwyno papurau'i thad i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yr hynaf o dri o blant, cefnogodd Eirene White ei thad wedi marwolaeth ei mam ym 1935; collodd ei brawd ieuengaf, Elphin Lloyd Jones mewn damwain ar y ffordd ym 1928; bu farw'i brawd hŷn, Tristan Jones, o'i blaen ym 1990. Y mae plant Tristan Jones yn ei goroesi. Bu'r Fonesig White yn byw yn Shotton tra oedd yn aelod seneddol dros Ddwyrain Fflint. Roedd ganddi gartref yn Llundain a bu'n berchen ar fwthyn bach, heb gyflenwad dwr, yn agos i Fachynlleth. Yn ystod ei blynyddoedd olaf, roedd gandi dy yn Nhreberfydd, Sir Frycheiniog, yn agos at ei ffrind, Dorothea Raikes, ynghyd â fflatiau yng Nghwmbrân a Chaerdydd. Wedi ymddeol o fywyd cyhoeddus, bu hi'n byw yn y Fenni ac yng nghartref nyrsio Trebencyn, hefyd yn y Fenni, lle bu hi farw 23 Rhagfyr 1999. Cynhaliwyd angladd gyhoeddus yn Eglwys Priordy'r Santes Fair yn y Fenni, gyda gwasanaeth preifat yn Amlosgfa Croesyceiliog, Cwmbrân. Gwasgarwyd ei llwch wedyn yn y Barri, lle yr oedd wedi treulio dyddiau mebyd hapus iawn. Cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn eglwys y Santes Margaret, San Steffan ar 17 Mai 2000 lle rhoddwyd yr anerchiad gan Arglwydd Morris o Aberavon. Gadawodd y Fonesig White ystad o £325,448 net.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.