ROBESON, PAUL LEROY (1898 - 1976), actor, canwr ac actifydd gwleidyddol

Enw: Paul Leroy Robeson
Dyddiad geni: 1898
Dyddiad marw: 1976
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: actor, canwr ac actifydd gwleidyddol
Maes gweithgaredd: Perfformio; Cerddoriaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ymgyrchu
Awdur: Jamie Griffiths

Ganwyd Paul Robeson ar 9 Ebrill 1898 yn Princeton, New Jersey, U.D.A., yr ieuengaf o bump o blant y Parch. William Drew Robeson, gweinidog o Ogledd Carolina o dras Igbo, a'i wraig Maria Louisa (g. Bustill). Dylanwadwyd yn fawr arno'n blentyn gan eiriau ac esiampl ei dad, a oedd wedi dianc rhag caethwasiaeth yn ei arddegau, yn ogystal â'i brofiad o undod dosbarth gweithiol o fewn ei gymuned. Bu ei fam farw mewn tân yn y cartref pan oedd Paul yn chwech oed.

Mynychodd ysgol uwchradd yn Somerville, New Jersey, lle rhagorodd ar ganu yn y côr, ar ddrama ac mewn chwaraeon, gan gynnwys pêl-droed Americanaidd, pêl fasged, pêl-fas a mabolgampau trac. Yn 1915 enillodd ysgoloriaeth academaidd i Goleg Rutgers, lle daeth yn aelod o'r tîm pêl-droed Americanaidd, er gwaethaf gelyniaeth hiliol chwyrn a arweiniodd at ymosodiad milain pan dorrwyd ei drwyn. Er mai dim ond y trydydd Americanwr Affricanaidd i fynychu Goleg Rutgers ydoedd, cafodd Robeson yrfa ddisglair gan wneud ei farc mewn gweithgareddau amrywiol, yn bennaf dadlau ac areithio, canu, a mabolgampau, gan ofalu ar hyd yr amser am ei dad a fu farw tua diwedd ei gyfnod astudio. Nid oedd y grymoedd hiliaeth ddiwylliannol a sefydliadol gyfreithiol a wynebai Robeson yn ei flynyddoedd ffurfiannol yn ddigon i lethu ei garisma a'i ddeheurwydd cymdeithasol, a bu'r profiad yn sbardun i weithredu gwleidyddol yn ddiweddarach yn ei fywyd.

Mynychodd Ysgol Gyfraith Columbia, lle cwrddodd ag Eslanda 'Essie' Goode, patholegydd mewn ysbyty. Priodasant yn 1921, a chawsant un mab, Paul Robeson Jr (1927-2014). Ymunodd Robeson â chwmni cyfreithiol, ond rhoddodd y gorau i'w yrfa yn y gyfraith oherwydd hiliaeth. Ar anogaeth ei wraig dechreuodd actio, ac wrth i'w yrfa ddatblygu daeth hithau'n rheolwr a llefarydd cyhoeddus iddo. Daeth Robeson i'r amlwg fel actor gyda rhannau mewn dwy ddrama gan Eugene O'Neill, The Emperor Jones ac All God's Chillun Got Wings.

Gwnaeth Robeson enw iddo'i hun ym Mhrydain gyda'i berfformiadau grymus yn y sioe gerdd Show Boat yn y Theatre Royal yn 1928, gan gynnwys perfformiad ar orchymyn y brenin ym Mhalas Buckingham. Ef oedd yr actor Du cyntaf i chwarae Othello yn Llundain yn 1930 ac yn Efrog Newydd yn 1943. Chwaraeodd rannau mewn llu o ffilmiau, amrywiol eu safon yn llygaid y beirniaid, ond daeth Robeson â bri i bob un. Cafodd glod dibrin, ond byddai'n cyfaddef iddo wneud camgymeriadau wrth ddewis rhannau yn gynnar yn ei yrfa, megis yn achos 'Bosambo' o Sanders of the River gyda'i naws bleidiol i drefedigaethedd.

Dechreuodd cyswllt Robeson â phobl Cymru yn sgil cyfarfod damweiniol yng ngaeaf 1929. Ar ei ffordd i noson fawr yn Llundain clywodd ganu gan gôr o lowyr ar orymdaith o'r Rhondda. Wedi ei gyffwrdd gan eu stad druenus a'i dynnu i mewn gan eu canu teimladwy, ymunodd Robeson â'u gorymdaith, gan roi perfformiadau difyfyr o 'Ol' Man River' ac emynau ei bobl. Gyda chyfeillgarwch yn trosgynnu rhaniadau hil, cenedl a dosbarth, llwyddodd Robeson a'r glowyr i godi digon o arian iddynt allu dychwelyd adref ar drên nwyddau gyda bwyd a dillad i'w teuluoedd.

Ymwelodd Robeson â Chwm Rhondda y flwyddyn honno, a chryfhaodd ei gyswllt â phobl Cymru dros y blynyddoedd dilynol, gan gynnwys cyngerdd ym Mhafiliwn Pier Llandudno yn 1934. Ymwelodd hefyd â chymuned amlethnig Tre-biwt yng Nghaerdydd, lle roedd un o deulu yng nghyfraith ei fam, Aaron Mossell (1863-1951), yn byw. Yn 1937 canodd i godi arian i achos y Gweriniaethwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen, ac ysgogodd yr achos hwnnw iddo wneud datganiad mawr a ddaeth yn epitaph iddo: 'The artist must take sides. He must elect to fight for freedom or slavery. I have made my choice. I had no alternative.'

Cymru oedd y llwyfan ar gyfer ffilm Brydeinig olaf Robeson, The Proud Valley (1940), lle chwaraeodd ran morwr o Americanwr Affricanaidd, David Goliath, enw a ffigwr sy'n cyfleu cryfder tyner, sy'n teithio o'r Unol Daleithiau i Gaerdydd. Mewn golygfa sy'n dwyn i gof gyfarfod go iawn Robeson â glowyr y Rhondda, mae David yn clywed côr ym mhentref glofaol 'Blaendy' yn canu Elijah Mendelssohn ac mae'n ymuno trwy ganu aria bariton. Yn ystod y ffilmio bu Robeson yn rhan o'r gymuned leol, gan aros fel gwestai gyda theuluoedd y glowyr. 'There is no place in the world I like more than Wales', meddai Robeson yn ddiweddarach (Western Mail, 24 Chwefror 1949).

Yn sgil ei actifiaeth wleidyddol a'i safiad huawdl dros hawliau dynol ar draws y byd aeth Robeson benben â grymoedd gormesol yn y gymdeithas; gosodwyd ef dan oruchwyliaeth a chroesholi eithafol gan brif sefydliadau gwleidyddol a diwylliannol America, a chwtogwyd ar ei ryddid a'i ddylanwad trwy ddulliau agored a chudd. Ac yntau wedi cael ei groesawu yn Rwsia dan Stalin, ac wedi bod yn dyst i dwf Ffasgaeth yn yr Almaen, daeth Robeson yn fath o berson annerbyniol yn ei wlad ei hun. Er iddo ddatgan ei gefnogaeth i achos Sosialaeth sawl gwaith a chondemnio Ffasgaeth, nodwyd gan ei fab fod ganddo amheuon preifat am wrthddywediadau hanfodol Rwsia Stalinaidd. Ymhlith ymdrechion i gyfyngu arno yn ystod cyfnod McCarthy roedd dileu pob cyfeiriad ato'n chwarae pêl-droed Americanaidd colegol a bod yn 'All-American', mynd â'i basbort oddi wrtho, a'i gwneud yn fwyfwy anodd cael gafael ar unrhyw un o weithiau Robeson o fewn y wlad.

Yn 1954-5, gydag anogaeth gan y gwleidydd Aneurin Bevan, recordiodd Robeson nifer o gyngherddau radio ar gyfer gwrandawyr yng Nghymru. Ym mis Hydref 1957 defnyddiodd y cebl teliffon trawsatlantig o Efrog Newydd i annerch cynulleidfa o dros 2,000 yn Eisteddfod y Glowyr ym Mhafiliwn Mawr Porthcawl, gan ganu 'Didn't My Lord Deliver Daniel?' a chaneuon eraill, ac atebodd Côr Meibion Treorci trwy ganu 'Y Delyn Aur'.

Yn 1958, cafodd Robeson ei basbort yn ôl wedi wyth mlynedd o'r hyn a ddyfarnwyd yn y pen draw yn ymyriad â'i ryddid cyfansoddiadol, diolch yn rhannol i ddeisebu gan lowyr de Cymru. Heb fod wedi ei gyfyngu i'r Unol Daleithiau bellach, cymerodd fantais lawn o'i ryddid. Tra ar daith genedlaethol yn y DU y flwyddyn honno, gan gynnwys cyngherddau ym Mhorthcawl, Caerdydd ac Abertawe, mynnodd ymweld â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nglyn Ebwy, lle bu iddo gwrdd ag Aneurin Bevan a derbyn llyfr emynau'n rhodd gan T. H. Parry-Williams, a datgan: 'You have shaped my life - I have learnt a lot from you. I am part of the working class. Of all the films I have made the one I will preserve is The Proud Valley.'

Trwy gydol y cyfnod hwn roedd dirywiad graddol yn iechyd corfforol a meddyliol Robeson, wedi ei waethygu gan elyniaeth agored o du llywodraethau'r Gorllewin a hefyd gan yr hyn roedd ei fab Paul Robeson Jr. yn amau oedd ymdrechion gwasanaethau cuddwybodaeth i ddirymu ei dad. Bu farw ei wraig Essie yn Rhagfyr 1965 ac o hynny ymlaen tynnodd yn ôl yn araf deg o fywyd cyhoeddus wrth iddo symud i fyw yn gyntaf gyda'i fab yn Efrog Newydd ac wedyn gyda'i chwaer yn Philadelphia.

Bu Paul Robeson farw o gymhlethdodau yn sgil strôc ar 23 Ionawr 1976 yn Philadelphia. Bu'n gorwedd yn gyhoeddus yn Harlem cyn cael ei gladdu ym mynwent Ferncliffe, Hartsdale, Efrog Newydd. Daeth Robeson i'r byd mewn amgylchiadau anaddawol yn ystod terfysgodd cymdeithasol a gwleidyddol mawr, ond trwy ei garisma, ei ddynoliaeth, ei ddysg, a'i lais soniarus, bu'n gyfrwng i lywio cwrs yr ugeinfed ganrif.

Teithiodd arddangosfa dan y teitl 'Let Robeson Sing' o amgylch Cymru yn 2001, ac yn yr un flwyddyn rhyddhaodd y band roc Manic Street Preachers y gân 'Let Robeson Sing'. Yn 2010, lansiodd Susan Robeson brosiect ym Mhrifysgol Abertawe, gyda chefnogaeth Cynulliad Cymru, i greu adnodd dysgu ar-lein er cof am ei thad-cu.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-12-14

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.