Ganwyd 17 Ionawr 1897, yn fab i William John Evans o Aberdâr a Mary Elizabeth (ganwyd Milligan) ei wraig. Addysgwyd ef yng Ngholeg Wycliffe, Stonehouse a bu'n astudio yn Ffrainc a'r Almaen lle, yn 1914, y cafodd ei garcharu yn Ruhleben hyd ddiwedd y rhyfel. Yno y dysgodd Gymraeg a newid ei enw bedydd Ivor i Ifor. Gweithiodd am gyfnod byr yn y fasnach lo yn Abertawe cyn mynd i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, lle y cafodd radd dosbarth cyntaf mewn economeg a hanes. Yno cafodd ysgoloriaeth Whewell mewn cyfraith rhyngwladol, a phenodwyd ef yn ddarlithydd ac yn Gymrawd Coleg S. Ioan (1923-34). Bu'n aelod o staff yr Economist am gyfnod a gwasanaethodd ar gomisiwn Cynghrair y Cenhedloedd i ymchwilio i sefyllfa economaidd Awstria. Teithiodd yn helaeth yn nwyrain Ewrob ac Affrica a chyhoeddi The agrarian revolution in Rumania (1924), The British in tropical Africa (1929), a Native policy in Southern Africa (1934).
Yn 1934 daeth yn brifathro C.P.C., Aberystwyth, lle yr amlygodd ddoniau creadigol nodedig ynghyd â mesur helaeth o ddoethineb. Llwyddodd i ddileu dyled sylweddol y coleg, denodd roddion gwerthfawr iddo a phrynodd eiddo yn ddoeth. Ef a fu'n bennaf gyfrifol am gynllunio'r datblygiadau tymor hir ar safle newydd y coleg ar dir Penglais ac am godi'r adeiladau cyntaf. Er na threuliai fawr o'i amser yng nghwmni myfyrwyr, hyrwyddai unrhyw gynullun a fyddai er eu lles, gan sefydlu cyfundrefn flaengar a alluogai'r awdurdodau a chorff y myfyrwyr i gydymgynghori. Cymerodd ddiddordeb dwfn yng ngwaith adran amaethyddol y coleg, gan gyhoeddi mewn cydweithrediad ag A.W. Ashby The agriculture of Wales and Monmouthshire (1944).
Rhoddodd wasanaeth nodedig i Brifysgol Cymru fel is-ganghellor (1937-39, 1946-48, 1950-52), cadeirydd Bwrdd y Wasg ac, yn arbennig felly am lawer blwyddyn, fel cadeirydd y pwyllgor ystadau, pryd y daeth symiau mawr a ddeilliodd o ddatgysylltiad yr Eglwys yng Nghymru yn rhydd i'w buddsoddi. Cymerodd ran flaenllaw mewn sefydlu Prifysgol Frenhinol Malta (a'i hanrhydeddodd â gradd D.Litt.) a hefyd yn natblygiad Coleg Prifysgol Ibadan.
Yr oedd yn ddyn awdurdodol, dewr, er weithiau'n ddidrugaredd, gyda phrofiad eang o'r byd a'i bethau a dealltwriaeth ddiwylliedig o bobloedd ac ieithoedd; cymerai ddiddordeb angerddol yn y diwylliant Cymreig. Cyhoeddodd nifer o gasgliadau a chyfieithiadau i'r Gymraeg o weithiau llenyddol, yn eu plith Y Cybydd (L'Avare Molière), Chwedlau La Fontaine, Emynau o'r Almaen, Blodau hyfryd, Ffordd y Deyrnas a Mawl yr oesoedd (casgliad o emynau Ewrob).
Ar 11 Tachwedd 1938 priododd Ruth Jolles o Hamburg a bu iddynt fab a merch. Bu farw 31 Mai 1952.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.