Ganwyd 19 Awst 1886, yn fab hynaf Joseph a Hannah Ashby, Tysoe, swydd Warwick. Cafodd ei addysg yn yr ysgol leol ac ar ôl gadael honno'n ddeuddeg oed bu'n cynorthwyo'i dad (gwr arbennig iawn, yn ôl yr hanes, ac arweinydd ym mywyd ei fro) nes ei fod yn 23 oed, pryd y cafodd ysgoloriaeth i fynd i Goleg Ruskin, Rhydychen, yn 1909. Enillodd ddiploma gydag anrhydedd mewn economeg a gwyddor boliticaidd. Yn 1912 cafodd ysgoloriaeth gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a bu'n fyfyriwr yn y Sefydliad Ymchwil mewn Economeg Amaethyddol yn Rhydychen ac ym Mhrifysgol Wisconsin. Dyma gyfnod ei astudiaeth o hanes rhandiroedd a manddaliadau, ac erys ei lyfr Allotments and small holdings in Oxfordshire (1917) yn waith safonol. Gweithiodd gyda'r Bwrdd Amaethyddiaeth rhwng 1917 ac 1919, a bu ganddo ran flaenllaw ynglyn â sefydlu'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol cyntaf yn y blynyddoedd hynny. Ar ôl cyfnod pellach ar staff y Sefydliad Ymchwil mewn Economeg Amaethyddol yn Rhydychen, daeth i Aberystwyth yn 1924 fel pennaeth yr adran newydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru mewn Economeg Amaethyddol. Fe'i dyrchafwyd yn athro yn 1929, a hon oedd y gadair gyntaf mewn economeg amaethyddol i gael ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig. Aeth yn ei ôl i Rydychen fel cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil mewn Economeg Amaethyddol yn 1946 a daliodd y swydd honno tan ymddeol yn 1952.
Yr oedd Ashby yn wr amlwg ymhlith y criw bychan a fu'n arloesi gydag economeg amaethyddol fel maes astudiaeth ynddo'i hunan. Yn ystod ei flynyddoedd yn Aberystwyth cafodd gyfle i amlygu'i ddoniau yn y maes hwn, a chafwyd arweiniad cadarn ganddo oddi mewn i'r coleg ac yn y cylchoedd amaethyddol oddi allan. Yr oedd addysg pobl ifanc cefn gwlad yn bwysig yn ei olwg, ac fel aelod o'r pwyllgor a oedd yn dyfarnu ysgoloriaethau i feibion a merched gweithwyr cefn gwlad cafodd gyfle i wneud ei orau drostynt ar hyd y blynyddoedd. Gyda'i brofiad ymarferol o fywyd a gwaith fferm rhoddodd o'i orau fel aelod o'r Bwrdd Cyflogau Amaethyddol o 1924 ymlaen i gadw ac i ddyfnhau'r berthynas dda rhwng ffermwyr a gweithwyr tir. Yn gymaint â dim yr oedd hefyd yn weithiwr diflino o blaid cydweithrediad amaethyddol a bu'n gefnogol iawn mewn llawer ystyr i weithgareddau Cymdeithas Trefnu Gwledig Cymru (W.A.O.S.). Bu ganddo ran fawr yn y cefndir ynglyn â chynlluniau marchnata amaethyddol, gan gynnwys sefydlu'r Bwrdd Marchnata Llaeth a wnaeth fwy na'r un cyfrwng arall i ddod ag amaethyddiaeth llawr gwlad yng Nghymru (a'r Deyrnas Unedig i gyd o ran hynny) o'i thlodi o 1933 ymlaen.
Cyfrannodd nifer fawr o erthyglau yn ei faes mewn lliaws o gylchgronau, ac mae ei lyfr (gydag Ifor L. Evans) yn 1943 The Agriculture of Wales and Monmouth, yn gyflawn o wybodaeth ar bynciau'r tir rhwng 1867 ac 1939. Cafodd radd M.A. er anrhydedd yn 1923 a thrwy archddyfarniad yn 1946 gan Brifysgol Rhydychen : fe'i gwnaed yn gymrawd o Goleg Lincoln yn 1947. Yr oedd yn Ynad Heddwch, ac fe'i penodwyd yn C.B.E. yn 1946. Priododd Rhoda Dean Bland yn 1922 a bu iddynt un mab. Bu farw 9 Medi 1953 yn Ysbyty Radcliffe, Rhydychen.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.