Ganwyd 29 Tachwedd 1866 yn Aberdâr. Dygwyd ef i fyny yn yr un alwedigaeth â'i dad, Rhys Evans a chydag ef yn y fasnach. Cafodd bob mantais i feithrin a datblygu'r dalent gerddorol yn ei gartref, a llwyr ymroddodd yntau i wasanaethu cerddoriaeth. Penodwyd ef yn organydd capel Siloa, a gelwid am ei wasanaeth yn y deheudir i roddi perfformiadau ar yr organ. Gwasanaethodd fel beirniad mewn amryw eisteddfodau. Yr oedd yn un o arweinyddion mwyaf poblogaidd cymanfaoedd canu, a bu'n arwain cannoedd ohonynt yng Nghymru. Gwnaeth wasanaeth arbennig i gerddoriaeth trwy ffurfio cerddorfa yn Aberdâr, a chynnal cyngherddau cerddorfaol o weithiau'r meistri. Enillodd y gerddorfa yn eisteddfod genedlaethol Pontypridd. Enillodd Côr Meibion Aberpennar, o dan ei arweiniad yn eisteddfod yr Albert Hall, Llundain. Yr oedd yn un o olygwyr Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, 1921, a Caniedydd Newydd yr Ysgol Sul, 1930. Ceir pump o donau o'i waith yn Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd, ac y mae ei dôn ' Rhys ' (a gyfansoddodd er côf am ei dad) ar yr emyn ' Rho im yr hedd ' yn boblogaidd. Perfformiwyd llawer o gyfanweithiau ganddo ef a'i dad yn Aberdâr. Wedi colli ei briod, ac ymddiswyddo o'i fasnach, aeth i fyw at ei fab - y Prifathro Ifor L. Evans, Aberystwyth, ac yno y bu farw ar 12 Rhagfyr 1947. Claddwyd ef ym mynwent Aberdâr.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.