MORGAN, TREFOR RICHARD (1914 - 1970), rheolwr cwmni

Enw: Trefor Richard Morgan
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1970
Priod: Gwyneth Morgan (née Evans)
Rhiant: Edith Morgan (née Richards)
Rhiant: Samuel Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: rheolwr cwmni
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: Gwyneth Morgan

Ganwyd 28 Ionawr 1914 ar Donyrefail, Morgannwg, yn bumed plentyn i Samuel ac Edith (ganwyd Richards) Morgan. Hanai teulu'r tad o ardal Llanbedr-y-fro? a theulu'r fam o Lanilltud Faerdref. Saer maen oedd y tad a fu farw yn 1918 o'r afiechyd a ysgubodd dros y wlad yn sgîl Rhyfel Byd I. Bu raid i'r fam ymdrechu i fagu saith o blant mewn tlodi mawr. Bedyddwyr ymroddedig oedd y teulu o'r ddau du. Buasai hynafiaid iddo'n gysylltiedig â chychwyn yr achos yng Nghroes-y-Parc, Llanbedr-y-fro, a hen dad-cu iddo'n gweinidogaethu ar gychwyn eglwys y Bedyddwyr ym Mhenuel, Pentyrch. Cafodd ei unig addysg ffurfiol yn yr ysgol elfennol leol, addysg gwbl ddi-Gymraeg yn ôl yr arferiad. Yn ddiweddarach yn ei fywyd, ceisiai gywiro'r gwall trwy fynychu dosbarthiadau nos mewn Cymraeg a Hanes Cymru. Enillodd fynediad i ysgol ramadeg y Bont-faen ond ni allai fynd yno oherwydd amgylchiadau cyfyng y teulu. Gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg oed a mynd i weithio i'r pwll glo lleol er taw bregus fu ei iechyd erioed. Oherwydd y dirwasgiad yn ardaloedd y diwydiant glo bu raid iddo fynd ati i gyflawni amryw orchwylion eraill yn ystod y blynyddoedd nesaf.

Bu'n genedlaetholwr cadarn ar hyd ei oes. Fe'i harweiniwyd i Sir Benfro gan yr ymchwil am waith ac atgyfnerthwyd y cenedlaetholdeb hwnnw gan y gyfathrach agos iawn a fu rhyngddo a D. J. Williams a'i briod yn Abergwaun. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol ar dir cenedlaetholdeb yn ystod Rhyfel Byd II. Yn 1943, priododd Gwyneth, merch Arthur a Mary (ganwyd Daniel) Evans o Aberdâr, a bu iddynt bedwar o blant.

Bu'n ymgeisydd Plaid Cymru mewn etholiadau seneddol yn etholaethau Ogwr, 1945, 1946, Abertyleri 1955 a Brycheiniog a Maesyfed 1964, 1966 gan sefyll fel cenedlaetholwr annibynnol ym Merthyr Tudful, 1950. Yn ôl barn olygyddol Y Faner wedi ei farw 'yr oedd yn un o'r siaradwyr cyhoeddus mwyaf effeithiol a feddai Plaid Cymru; traethai wirioneddau llosg yn huawdl ac argyhoeddiadol a gallai ddadlau tros achos cenedlaetholdeb cystal ag undyn byw'. Ond daliai bob amser nad oedd ymdrechu ar dir etholiadau, boed seneddol neu leol, yn ddigon a cheisiai droi'n ffeithiau ymarferol yr egwyddorion a bregethai. Egwyddorion sylfaenol ganddo oedd pwysleisio gwerth hanfodol yr iaith Gymraeg a'r angen i geisio creu sefydliadau Cymreig cwbl annibynnol. I'r perwyl hwn, mentrodd sefydlu cwmni yswiriant a buddsoddi, ar ei ben ei hun, gyda'r bwriad o ddefnyddio unrhyw elw at ddau beth arbennig, sef codi diwydiannau bychain yn lleol a hyrwyddo'r ymdrechion i fynnu ysgolion Cymraeg drwy Gymru gyfan. Cychwynnwyd y cwmni, sef Cwmni Undeb, yn Aberdâr a llwyddwyd i sefydlu stad ddiwydiannol fechan ar Hirwaun. Yn 1963, sefydlodd Gronfa Glyndŵr yr Ysgolion Cymraeg ac ef oedd ei llywydd cyntaf. Amcan y gronfa oedd estyn cymorth ariannol i rieni ac ysgolion er galluogi plant i fynychu'r ysgolion Cymraeg a sefydlid yn bennaf gan y rhieni eu hunain yr adeg honno; rhan o waith pwysicaf y gronfa oedd codi a chynnal ysgolion meithrin Cymraeg. Oherwydd cyndynrwydd awdurdodau addysg lleol i ddarparu addysg uwchradd Gymraeg, penderfynodd gychwyn ysgol breswyl Gymraeg, yn gynradd ac uwchradd, gyda phwyslais arbennig ar ddysgu pob pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg. Agorwyd Ysgol Glyndŵr ym Mryntirion, Trelales, ger Pen-y-bont ar Ogwr ym Medi 1968 ond fe ddaeth i ben yn fuan wedi ei farwolaeth yn Ysbyty Pen-y-bont ar 3 Ionawr 1970. Claddwyd ef ym Mynwent Trane, Tonyrefail, ar 9 Ionawr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.