Ganwyd ef yn Ystalyfera ym 1912, collodd ei rieni pan oedd yn ifanc iawn, a magwyd ef gan ei dad-cu, sef tad ei fam, y Parch William Jones, gweinidog Soar, capel y Bedyddwyr, Ystalyfera, a chan ei fodryb. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera. Daeth yn ddiacon yn ddwy-ar-hugain oed ac roedd yn amlwg hefyd fel pregethwr lleyg lleol. Ymunodd â Phlaid Cymru yn gynnar iawn yn y 1930au mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ystalyfera ar yr un adeg â nifer o lowyr a gweithwyr alcam lleol ymroddedig i'r achos. Cynigwyd iddo swydd gyda Chlwb Criced Morgannwg, ond roedd ei fodryb yn gwrthwynebu iddo ei derbyn a daeth wedyn yn glerc archwilio yn neuadd y dref Abertawe tua'r flwyddyn 1928. Roedd Samuel yn heddychwr hollol ymroddedig, ac ar ôl dechreuad yr Ail Ryfel Byd roedd yn gyfrifol am drefnu cyfarfod cyhoeddus mawr i wrthwynebu gorfodaeth filwrol. Bu Samuel ei hun ac Arthur Horner, arweinydd nodedig y glowyr, yn annerch y cyfarfod hwn yn rymus. Diswyddwyd ef o'i swydd yn Abertawe ym 1940 fel canlyniad i'w benderfyniad i wrthod llofnodi datganiad yn mynegi ei gefnogaeth lwyr i'r Ail Ryfel Byd. Fel canlyniad ymddangosodd o flaen Tribiwnlys Gwrthwynebwyr Cydwybodol De Cymru ym mis Medi 1940 ac wedyn cofrestrodd yn ddiamod yn wrthwynebydd cydwybodol. Yn ystod y deng mlynedd nesaf, tan 1950, gweithiodd fel trefnydd i Blaid Cymru, bu hefyd yn olygydd cyhoeddiad misol Saesneg y blaid The Welsh Nation a chyfrannodd yn ogystal yn gyson at golofnau'r Ddraig Goch. Yn y safleoedd allweddol hyn cynorthwyodd Samuel i lunio cymeriad Plaid Cymru'r dyfodol, a bu ei ddoniau amlwg fel trefnydd yn gymorth i gynnal Plaid Cymru yn ystod blynyddoedd hynod anodd yr Ail Ryfel Byd. Credai nifer o hoelion wyth y blaid na ddylai Cymru ymuno o gwbl yn y rhyfela. Gan ddefnyddio cangen Ystalyfera o'r Blaid fel canolfan, trefnodd Wynne Samuel nifer fawr o gyfarfodydd cyhoeddus yn yr ardal ac roedd bob amser yn areithiwr cyfareddol a phwerus. Daeth cangen Ystalyfera i feddu ar yr aelodaeth fwyaf sylweddol ledled de Cymru. Yn ystod y rhyfel apeliodd Samuel am wrthwynebiad i symud gweithwyr o Gymru i ffatrïoedd arfau yn Lloegr. Roedd yn gyfrifol am drefnu ac arwain nifer o fudiadau cenedlaetholaidd pwysig yn ystod y blynyddoedd ar ôl y rhyfel. Un o'r mwyaf arwyddocaol oedd yr ymgyrch i gadw ar agor bwll glo Cwmllynfell, gweithfan y dibynnai cymaint o deuluoedd lleol arni.
Roedd Wynne Samuel yn un o gynghorwyr cyntaf Plaid Cymru yn ne Cymru. Roedd yn aelod o Gyngor Gwledig Pontardawe am nifer fawr o flynyddoedd. Ef hefyd oedd ymgeisydd seneddol cyntaf Plaid Cymru yn ne Cymru. Safodd yn ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Castell-nedd yn is-etholiad 1945, gan ennill 6,290 o bleidleisiau (16.2 y cant o'r cyfanswm, ac felly arbedodd ei ernes), ac yn etholiad cyffredinol 1945 yno yn yr un flwyddyn. Safodd hefyd yn etholaeth Aberdâr yn is-etholiad 1946 ac etholiadau cyffredinol 1950 a 1951. Yn Aberdâr ym 1946 enillodd ugain y cant o'r bleidlais, cyfran barchus i genedlaetholwr yn un o gadarnleoedd selocaf y Blaid Lafur. Samuel hefyd oedd y prif drefnydd yn is-etholiad Ogwr Mehefin 1946 pan lwyddodd ymgeisydd y blaid Trefor Morgan i ennill cyfanswm cymeradwy o 5,684 o bleidleisiau (29.4 y cant o'r cyfan). Roedd yr ymgyrchoedd bywiog hyn yn arbennig o werthfawr i Blaid Cymru yn ei hymgais i osod gwreiddiau yng nghymoedd diwydiannol y de a fu tu hwnt i'w gafael cyn hynny i raddau helaeth. Safodd Samuel yn sir Benfro ym 1970. Bu ei chwe ymgais (er bod pob un yn anochel yn aflwyddiannus) i ennill sedd yn San Steffan yn dyst huawdl i gymeriad hynod o benderfynol. Dewiswyd ef hefyd i sefyll dros Blaid Cymru ym Merthyr Tudful yn etholiad cyffredinol 1964, ond cafodd ei orfodi gan salwch i dynnu ei enw yn ôl. Samuel oedd ysgrifennydd eisteddfod Genedlaethol Ystradgynlais, 1952-54, lle bu'n gyfrifol am drefnu llawer iawn o'r gweithgareddau.
Cyflogid Wynne Samuel gan Gyngor Dinesig Pontardawe, 1947-56. Astudiodd hefyd ar gyfer Diploma mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus a chymerodd raddau allanol yn y gyfraith yn ogystal (Ll.B. a Ll.M. o Brifysgol Llundain) pan oedd yn ŵr canol oed. Dyfarnwyd iddo ddoethuriaeth gan Brifysgol Genedlaethol Iwerddon am draethawd ar gyfreithiau brodorol Cymreig Hywel Dda, pwnc a oedd wedi ennyn ei ddiddordeb ers pan oedd yn ŵr ifanc. Rhoddodd nifer o ddarlithiau cyhoeddus pwysig ar safle merched yn y cyfreithiau Cymraeg. Galwyd ef i'r bar o Gray'n Inn ym 1956, a chynigwyd swydd iddo gyda Chyfundrefn y Cenhedloedd Unedig yn Genefa. Penodwyd ef yn ddarlithydd yn y gyfraith yng Ngholeg Technolegol Caer ym 1964 a daeth yn glerc y dref yn Ninbych-y-pysgod, prif ddinas answyddogol Sir Benfro, ym 1965. Bu hefyd yn ymgynghorwr cyfreithiol i Gyngor Sir De Penfro. Roedd yn llywydd Cymdeithas Bedyddwyr Gorllewin Morgannwg ym 1950 ac o Undeb Bedyddwyr Cymru ym 1960-61, y dyn ieuengaf erioed i ddal y swydd hon. Gwasanaethodd hefyd yn ymgynghorwr cyfreithiol i Gyngor Sir Dyfed o adeg ei sefydlu yn Ebrill 1974 tan ei ymddeoliad. Bu yn aelod o Gyngor Cymreig y BBC. Roedd hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Bro a Thref Cymru, swydd lle bu'n rhyfeddol o lwyddiannus yn cydlynu gweithgareddau cannoedd o seneddau bychain ledled Cymru. Ystyriai rhai mai hyn ei gyfraniad pwysicaf oll. Saif yn gofgolofn barhaol i'w waith a'i egni. Roedd yn briod ac roedd ganddo un ferch. Bu farw Wynne Samuel yn ei gartref yng Nghaerdydd ar 5 Mehefin 1989 ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Thornhill, Caerdydd. Gwnaeth gyfraniad aruthrol i faes llywodraeth leol yng Nghymru ac i ddatblygiad Plaid Cymru dros nifer fawr o ddegawdau.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.