THELWALL, JOHN (1764 - 1834), diwygiwr, darlithydd a bardd

Enw: John Thelwall
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1834
Priod: Henrietta Cecil Thelwall (née Boyle)
Priod: Susan Thelwall (née Vellum)
Rhiant: Joseph Thelwall
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: diwygiwr, darlithydd a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Jenkins

oedd fab i Joseph Thelwall (1731 - 1772), marsiandwr sidan yn Llundain, a hanoedd o gangen o deulu Thelwall, Plas y Ward, a sefydlodd yn Crosby, Lancashire. Fe'i ganwyd yn Chandos Street, Covent Garden, 27 Gorffennaf 1764. Cyhoeddodd Poems upon various subjects (London, 1787), a bu'n olygydd y Biographical and Imperial Magazine. Daeth o dan gyfaredd y Chwyldro Ffrengig, ac ymunodd a'r ' Society of the Friends of the People.' Oherwydd ei ddaliadau radicalaidd eithafol fe'i gosodwyd i aros ei brawf, 1-5 Rhagfyr 1794, ar ôl ei garcharu yn Nhŵr Llundain er y mis Mai cynt, eithr fe'i dedfrydwyd yn ddieuog. Yn fuan wedi hyn cyhoeddodd ei Poems written in close confinement in the Tower and Newgate (London, 1795). Tua 1798 cymerodd fferm ger Llyswen, sir Frycheiniog, ond dychwelodd i Lundain ymhen dwy flynedd i ddarlithio yn bennaf ar rethreg, ac i ddysgu cynhyrchu'r llais. Yr oedd yn gyfeillgar â Southey, Hazlitt, Coleridge, a Lamb. Yn 1801 cyhoeddodd Poems chiefly written in retirement … with a prefatory memoir of the life of the author (Hereford, 1901). Cynnwys y gyfrol hon nifer o gerddi yn ymwneud â Chymru. Ysgrifennodd Thelwall hefyd nifer o weithiau ar bynciau gwleidyddol a rhethreg.

Bu farw yn Bath 17 Chwefror 1834. Priododd (1) Susan Vellum, (2) Cecil Boyle.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.