Dywed Edward Evan mai o Geredigion yr hanoedd, ac iddo ddyfod i Forgannwg yn 1727 - yn ôl ' Iolo Morganwg ' yr oedd y pryd hynny rhwng 12 a 15 oed. Ymsefydlodd ym Metws Tir Iarll; yr oedd yn aelod o gynulleidfa Rees Price, Tyn-ton; tua 1730 dechreuodd brydyddu dan hyfforddiant John Bradford, ac yn 1734 y mae Bradford yn ei enwi ymhlith ' gramadegwyr ' Morgannwg. Ond cyn 1734 yr oedd wedi priodi (yn anffortunus, meddai Edward Evan) a symud i blwyf Ystrad Dyfodwg, gan fyw ym Mhandy'r Ystrad; bu farw yno yn 1735. Y mae rhai englynion ganddo yn y gyfrol o waith Lewis Hopkin, Y Fêl Gafod. Gadawodd hefyd drosiad ar fesur cywydd o Lyfr y Pregethwr, pennod i, a roes gychwyn i'r trosiad o'r holl lyfr, 1767, gan Lewis Hopkin ac Edward Evan (Llyfryddiaeth y Cymry, 497).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.