THOMAS, ROBERT DAVID ('Iorthryn Gwynedd '; 1817 - 1888), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Robert David Thomas
Ffugenw: Iorthryn Gwynedd
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1888
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd yn Llanrwst 17 Medi 1817. Dechreuodd bregethu yn 1838 a dangosodd yn fuan duedd at lenora a barddoni. Aeth am dymor i ysgol yn Rhydychen a gedwid gan Eleazer Jones, mab y Dr. Arthur Jones. Cafodd alwad i fugeilio eglwys Penarth, Maldwyn, a'i changhennau, ac urddwyd ef yno 25 Mai 1843. Yn ystod ei weinidogaeth codwyd capel Canaan ac ailadeiladwyd capel Penarth, a bu â rhan amlwg yn sefydlu achos Cymraeg yn y Trallwng a'r Drenewydd. Yn 1851 aeth i America i gasglu at ddi-ddyledu ei gapeli, a llwyddodd i sicrhau swm digonol at yr amcan. Ymbriododd yn 1852 â merch dalentog a adnabyddid wrth yr enw ' Sarah Maldwyn,' ac yn 1855 ymfudodd y ddau ac amryw eraill gyda hwy i America. Bu ddwy flynedd yn weinidog Rome a Floyd, Oneida County, N.Y. Ef a fu gweinidog cyntaf eglwys Annibynnol Mahanoy City a bu yno hyd 1870. Yn 1872 aeth i Knoxville, Tennessee, ac wedyn yn 1875 i Columbus, Ohio, lle y bu hyd 1877. Ymwelodd â Chymru yn 1872-3. Bu farw 25 Tachwedd 1888 a chladdwyd yn Gray Cemetery, Knoxville, Tennessee. Ysgrifennai'n gyson i'r gwahanol gyfnodolion a bu'n flaenllaw fel eisteddfodwr. Cyhoeddodd Hanes Cymry America, 1872, a Yr Ymfudwr, yn cynnwys hanes America ac Awstralia; yn nghyda phob hyfforddiad i ymfudwyr, 1854.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.