THOMAS, JOHN EVAN (1810-1873), cerfluniwr

Enw: John Evan Thomas
Dyddiad geni: 1810
Dyddiad marw: 1873
Rhiant: Jane Thomas (née Evans)
Rhiant: John Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerfluniwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Aberhonddu 15 Ionawr 1810, yn fab hynaf i John Thomas, Heol-y-castell, a'i wraig Jane (Evans). Astudiodd yn Llundain dan Chantrey ac wedyn ar y Cyfandir; dechreuodd weithio ar ei gyfrifoldeb ei hunan yn 1834; arddangosai'n fynych yn y Royal Academy rhwng 1835 a 1857. Bu'n llwyddiannus iawn, ac y mae llawer iawn o'i weithiau i'w gweld yng Nghymru ac o'r tu allan iddi - yn ei dref enedigol, saif ei ddelw o'r dug Wellington, ac y mae cryn nifer o'i gerfluniau yn eglwys y Priordy (yr eglwys gadeiriol heddiw). Yr oedd yn Gymro Cymraeg, ac yn ymddiddori mewn materion Cymreig. Ef a gymerth y blaen (gyda chefnogaeth arglwydd Llanofer) yn y mudiad i achub gwaddol Coleg Crist yn Aberhonddu rhag camddefnydd. Yn 1857 prynodd blasty bychan Penisha'r-pentre, Llanspyddid; bu'n siryf Brycheiniog yn 1868. Bu farw yn Llundain 9 Hydref 1873, a chladdwyd yno.

Am 30 mlynedd cynorthwyid ef yn ei waith gan ei frawd WILLIAM MEREDITH THOMAS, a aned 13 Gorffennaf 1819 ac a fu farw 7 Medi 1877.

Wedi cwpláu gweithiau anorffenedig ei frawd hyn, aeth ef ymlaen wrtho'i hunan. Arbenigai mewn ffigurau dychymyg a phortreadau 'medallion' mewn marmor.

Brawd arall oedd JAMES LEWIS THOMAS, a aned 6 Tachwedd 1825 ac a fu farw 4 Hydref 1904. Pensaer oedd ef, a daeth yn ' chief surveyor ' dan y swyddfa ryfel - efe a gynlluniodd yr ysbyty milwrol yn Netley. Ymddeolodd yn 1890. Cymerai ddiddordeb ym muddiannau Cymdeithas yr Hen Frutaniaid yn Llundain (yr oedd yn is-drysorydd iddi) ac yn ei hysgol yn Ashford.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.