THOMAS, HUGH EVAN ('Huwco Meirion'; 1830 - 1889), gweinidog gyda'r Annibynwyr

Enw: Hugh Evan Thomas
Ffugenw: Huwco Meirion
Dyddiad geni: 1830
Dyddiad marw: 1889
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Annibynwyr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Richard Griffith Owen

Ganwyd 13 Mehefin 1830 yn y Bala; brodyr iddo oedd y Parchn. William Thomas, Biwmares, a John Thomas (Methodistiaid Calfinaidd), y Bala. Yn 13 oed aeth i weithio i fasnachdy ym Mrynmawr, sir Frycheiniog, ac ymaelododd yn eglwys Rehoboth. Dechreuodd bregethu yno ac yn 1850 derbyniwyd ef i Goleg y Bala; yno daeth yn gyfeillgar â John Peter ('Ioan Pedr'). Cafodd alwad i fugeilio eglwys Oliver Street, Birkenhead, ac urddwyd ef yno Gorffennaf 1853. Oherwydd dirwasgiad diwydiannol amser helbulus iawn a gafodd yno yn ceisio dwyn baich o ryw £4,000 o ddyled ar y capel. Llafuriodd yn ddiarbed i gasglu at y ddyled ac enillodd edmygedd eglwysi Lerpwl, a rhoddasant hwy a'u gweinidogion bob cefnogaeth iddo. Daeth yn adnabyddus yn yr enwad gyda phob mudiad. Bu â rhan amlwg yng nghychwyn Y Tyst Cymreig yn 1867, ac yr oedd yn un o'i olygwyr cyntaf. Ymddiddorai mewn barddoni ac enillodd gadair eisteddfod Lerpwl yn 1854. Ganol haf 1869 ymfudodd i America i fugeilio eglwys Pittsburg ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 9 Rhagfyr 1889, yn eithriadol barchus a llafurus. Cyhoeddodd gofiant i'w frawd, Cofiant, Pregethau, a nodiadau byrion W. Thomas, Beaumaris, 1867, a golygodd Cofiant, Pregethau, a Barddoniaeth T. Pierce, Liverpool, 1864. Enillodd y gadair yn eisteddfod Dinbych, 1869. Ysgrifennai'n fynych i'r Cenhadwr Americanaidd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.