THOMAS, GEORGE (1786 - 1859), awdur barddoniaeth ffug-arwrol a dychanol yn ymwneuthur â sir Drefaldwyn

Enw: George Thomas
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1859
Rhiant: Margaret Thomas (née Davies)
Rhiant: James Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur barddoniaeth ffug-arwrol a dychanol yn ymwneuthur â sir Drefaldwyn
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awduron: John Davies Knatchbull Lloyd, Frazer Thomas

Ganwyd c. 1786 yn Wollerton ym mhlwyf Hodnet, swydd Amwythig, yn fab i James Thomas, prynwr a dosbarthwr gwlân, a'i wraig Margaret (Davies) a oedd wedi priodi yn Aberriw, Sir Drefaldwyn, yn 1788. Symudasant i'r Drenewydd y flwyddyn ganlynol - disgrifir James yn wneuthurwr gwlanen - ac yna i Amwythig a'r Trallwng. Cafodd George beth addysg yn ysgol Park, Amwythig, bu'n cynorthwyo ei dad mewn busnes yn y Trallwng, ac wedi hynny bu'n gweithio drosto'i hunan yn y dref honno fel malwr ydau, etc. Cymerodd denantiaeth Abbot's Mill yn Nhrelydan ger Cegidfa yn 1811 lle y dywedir mai ef oedd y melinydd olaf.

Bu'n glerc i deuluoedd Newton Hall a Cilgwrgan (Abermule), a hefyd yn glerc i'r Forden House of Industry (Montgomery and Pool House of Industry) o c. 1820 hyd c. 1840. Yn ddiweddarach bu'n ysgolfeistr ac yn bostfeistr yn Llandyssil Sir Drefaldwyn, lle'r oedd wedi priodi yn 1816 a lle y ganwyd ei blentyn cyntaf yn 1818. Rhwng 1826 a 1841 yr oedd yn byw yn Bank Farm ond erbyn 1846 yr oedd yn byw yn y pentref unwaith eto. Yno y bu farw 30 Awst 1859 yn 73 oed.

Ymysg ei weithiau y mae (a) The otter hunt and the death of Roman, a well-known hound (Welshpool, 1817); (b) The Welsh flannel (chwech arg.); (c) History of the Chartists and the Bloodless Wars of Montgomeryshire (yn cynnwys ' History of Toolly Loolly,' ' Battle of Abermule,' ' Battle of Heniarth,' ' Battle of Caersws,' a ' Battle of Newtown and Llanidloes,' 1840 - y rhain yn dychanu milwyr y sir, sef y ' Yeomanry'); (ch) The death of Rowton (a Llandyssil eccentric); (d) The extinction of the Mormons.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.