Yr oedd y teulu hwn, a roes saith siryf i Sir Drefaldwyn ac a fu am gyfnod hir yn flaenllaw ym mywyd y sir honno, yn hawlio eu bod yn disgyn o Elystan Glodrydd, sefydlydd pedwerydd llwyth brenhinol Cymru, a dygent yr arfau y dywedid eu dwyn ganddo ef - ' Gules, a lion rampant regardant or.' Yr aelod cyntaf a gysylitir â Newtown Hall oedd DAVID AP EINION (o Fochdre a Cheri). Canodd Lewis Glyn Cothi farwnad i'w fab ef, DAVID, a lladdwyd ei wyr, RHYS, ym mrwydr Banbury, 1469, pan oedd yn ymladd dros y brenin Edward. Y cyntaf i'w ddewis yn siryf (yn 1548) oedd MATTHEW GOGH AP THOMAS, wyr Rhys. Bu JOHN, mab Matthew Pryce a Joyce, ferch Evan Gwynn, Mynachdy, sir Faesyfed, yn siryf Sir Drefaldwyn yn 1566 a 1586 a Sir Aberteifi yn 1568, a bu'n aelod dros fwrdeisdrefi sir Drefaldwyn mewn tair o Seneddau Elisabeth. Yr oedd ei frawd ieuengaf, ARTHUR PRYCE, Vaynor, Sir Drefaldwyn, yn siryf yn 1578 ac yn aelod seneddol dros y bwrdeisdrefi yn 1571; yn 1588 yr oedd yn ymgeisydd dros y sir yn erbyn Edward Herbert, Blackhall, eithr trechwyd ef, yn bennaf oherwydd partïwch dybryd y siryf (Neale, The Elizabethan House of Commons, 1949). Siryf 1615 oedd EDWARD, mab John ap Matthew ac Elizabeth ferch Rees ap Morris, Aberbechan, Sir Drefaldwyn. Ef oedd tad Syr JOHN PRYCE, y barwnig 1af (cr. 15 Awst 1628). Glynodd Syr John wrth y brenin ar y cychwyn yn y Rhyfel Cartrefol, eithr aeth drosodd i'r ochr arall ac fe'i dewiswyd yn llywiawdr castell Trefaldwyn dros y Senedd. Bu'n aelod yn Seneddau 1640 a 1654 eithr drwgdybid ei deyrngarwch gan y ddwy blaid. Dilynwyd ef yn 1657 gan MATTHEW ei ail fab (ond yr hynaf a oedd yn fyw); bu farw 1674; Brenhinwr selog ac Eglwyswr; bu'n siryf yn 1659-60. Bu ei fab ef, JOHN, y 3ydd barwnig, farw heb etifedd, a dilynwyd ef gan ei frawd, Syr VAUGHAN PRYCE, siryf, 1709; bu farw 30 Ebrill 1720.
Cymeriad od y tu hwnt oedd Syr JOHN PRYCE, y 5ed barwnig, siryf 1748, a mab Syr Vaughan Pryce; ganwyd 1698? Bu'n briod deirgwaith. Mynnodd ei drydedd wraig, gweddw Roger Jones, Buckland, sir Frycheiniog, gael ganddo symud o'i ystafell wely, cyn y priodai hi ef, gyrff perarogledig y ddwy wraig a'i rhagflaenasai. Yr oedd Syr John eisoes, ar ôl i'w ail wraig farw, wedi ysgrifennu at gurad y Drenewydd, a oedd ar ei wely angau, i ofyn iddo anfon negesau o serch at ei ddwy wraig yn y nefoedd a gofyn i'r ail wraig ddyfod i'w weled. Pan fu'r 3edd arglwyddes Pryce farw galwodd Syr John ar Bridget Bostock, y ' Cheshire Pythoness,' a oedd yn adnabyddus oblegid y credid fod ganddi allu i iachâu trwy ffydd, i ddyfod â'r wraig farw yn ôl yn fyw. Methiant fu'r ymgais. Bu Syr John farw yn Hwlffordd 28 Hydref 1761, a'i amgylchiadau braidd yn gyfyng ac yntau, serch hynny, yn meddwl priodi am y bedwaredd waith.
Bu Syr JOHN POWELL PRYCE, y 6ed barwnig, a mab Syr John, yn gwneuthur ei ran yntau i wastraffu stad y teulu; bu farw yng ngharchar tlodion y King's Bench, 1776. Dywedir iddo golli ei olwg oblegid bod ei wraig yn orselog ei chred yn ei medr fel meddyg. Darfu'r teitl a'r teulu pan gafwyd corff Syr EDWARD MANLEY PRYCE, y 7fed barwnig, a oedd wedi marw mewn angen mawr, mewn cae yn Pangbourne, gerllaw Reading, ar 28 Mehefin 1791.
Disgynyddion plant iau oedd Prysiaid Vaynor, Park (Llanwnog), Glanmaheli, a Bodfach, Sir Drefaldwyn - i gyd wedi darfod o'r tir erbyn hyn. Y mae canol Newtown Hall yn hen, eithr moderneiddiwyd llawer ar y plasty yn y 19eg ganrif; y mae'n awr (1949) yn cael ei ddefnyddio'n swyddfeydd gan y cyngor dinesig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.